Pab Leo XIV
Pab Leo XIV | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Robert Francis Prevost ![]() 14 Medi 1955 ![]() Chicago ![]() |
Man preswyl | 212 East 141st Place, Periw, y Fatican ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, esgob Catholig, ffrier, archesgob, offeiriad rheolaidd, cardinal-lywodraethwr, cenhadwr Catholig ![]() |
Swydd | Prior Cyffredinol Urdd Sant Awstin, esgob er anrhydedd, gweinyddwr apostolaidd, Esgob Chiclayo, Grand Chancellor, gweinyddwr apostolaidd, Prefect of the Dicastery for Bishops, President of the Pontifical Commission for Latin America, cardinal-diacon, Cardinal-esgob Albano, pab ![]() |
Tad | Louis Marius Prevost ![]() |
Mam | Mildred Agnes Martinez ![]() |
Gwobr/au | Bailiff Knight Grand Cross of Honour and Devotion of the Order of Saint John ![]() |
Gwefan | https://www.vatican.va/content/leo-xiv/en.html, https://www.vatican.va/content/leo-xiv/fr.html, https://www.vatican.va/content/leo-xiv/de.html, https://www.vatican.va/content/leo-xiv/es.html, https://www.vatican.va/content/leo-xiv/it.html ![]() |
llofnod | |
Delwedd:Signature of Robert F. Prevost.svg, Official signature of Pope Leo XIV.svg |
Y Pab Leo XIV (ganwyd Robert Francis Prevost, 14 Medi 1955) yw pennaeth presennol yr Eglwys Gatholig. Etholwyd ef ar 8 Mai 2025, yn dilyn marwolaeth y Pab Ffransis. Ef yw'r pab cyntaf o Unol Daleithiau America,[1] y cyntaf o Beriw a'r cyntaf o Urdd Sant Awstin. Yr ysbrydoliaeth dros ei ddewis o'r enw 'Leo' oedd y Pab Leo XIII, a ddatblygodd ddysgeidiaeth gymdeithasol Gatholig.[2]
Cafodd Prevost ei eni yn Chicago, yn fab i'r llyfrgellydd Mildred (née Martínez) Prevost a'i gŵr Louis Marius Prevost, athro. Mae ganddo ddau frawd. Cafodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Uwchradd Seminari Sant Awstin yn Michigan.[3] Enillodd radd mewn mathemateg o Brifysgol Villanova yn Pennsylvania.[4]
Ymroddodd Prevost ei yrfa gynnar fel offeiriad i urdd yr Awstiniaid, gan wasanaethu'n helaeth ym Mheriw fel cenhadwr. Roedd yn Brior Cyffredinol yr urdd o 2001 hyd 2013, ac yn 2015 dychwelodd i Beriw i gael ei benodi'n Esgob Chiclayo. Yn 2023, gwnaed ef yn gardinal gan y Pab Ffransis.

Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Americanwr wedi'i ethol fel Pab am y tro cyntaf". BBC Cymru Fyw. 8 Mai 2025. Cyrchwyd 9 Mai 2025.
- ↑ "Pope Leo XIV to Cardinals: Church must respond to digital revolution". Vatican News (yn Saesneg). 10 Mai 2025. Cyrchwyd 11 Mai 2025.
- ↑ Van Gilder, Rachel; Sanchez, Josh (8 Mai 2025). "New pope attended Catholic high school in West Michigan" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Mai 2025. Cyrchwyd 9 Mai 2025.
- ↑ Mervosh, Sarah (8 Mai 2025). "The Pope Is a Graduate of Villanova, Where the Church Bells Won't Stop Ringing". The New York Times (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Mai 2025. Cyrchwyd 9 Mai 2025.
Rhagflaenydd: Ffransis |
Pab 8 Mai 2025 – presennol |
Olynydd: deiliad |

