Pŵl tafarn

Oddi ar Wicipedia

Mae pŵl tafarn yn gêm ciw, tebyg i snwcer sydd wedi ei selio ar y gêm Americanaidd pŵl wyth bêl sy'n cael ei chware'n broffesiynol. Mae'n cael ei chware ar fwrdd hirsgwar gyda chwe phoced (un ym mhob cornel ac un ar ganol y ddau ymyl hiraf).[1]

Mae pŵl tafarn yn addasiad o'r gêm Americanaidd bŵl wyth bêl syn cael ei chwarae gyda ffyn ciw ac un ar bymtheg o beli: pêl ciw, a phymtheg o beli gwrthrych sy'n cynnwys saith pêl streipïog, saith pêl lliw solet a'r bêl rhif 8 du. Ar ôl i'r peli gael eu gwasgaru gan ergyd cychwynnol, bydd y chwaraewyr yn ymgiprys i ddanfon naill ai grŵp o beli solet neu grŵp o beli streipiau unwaith y bydd pêl o grŵp penodol yn cael ei phocedi'n gyfreithiol. Nod y gêm yn y pen draw yw pocedi'r bêl 8 du mewn poced a elwir yn gyfreithiol, wedi i bob un o'r peli o grŵp neilltuedig y chwaraewr gael eu clirio o'r bwrdd.

Mae'r gêm dafarn yn cael ei chware ar fwrdd 4.5 x 7 troedfedd. Yn gêm y dafarn mae'r peli streipïog a solet yn cael ei ffeirio am beli coch a melyn weithiau. Mae peli pŵl dafarn yn ddwy fodfedd o ddiamedr gyda'r bêl ciw naill ai'r un maint neu ychydig yn llai ar un fodfedd a 7/8, sydd ychydig yn llai na pheli'r gêm broffesiynol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am snwcer. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  1. "Rules for Pub Pool" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2018-07-12. Cyrchwyd 8 Ebrill 2019.