Pêl Aur
![]() | |
Enghraifft o: | sports award ![]() |
---|---|
Math | Tlws, digwyddiad sy'n ailadrodd ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1956 ![]() |
Enw brodorol | Ballon d'Or ![]() |
Gwladwriaeth | Ffrainc ![]() |
Gwefan | https://www.francefootball.fr/ballon-d-or/ ![]() |
![]() |
Mae'r Bêl Aur (Ffrangeg: Ballon d'Or, ynganu: [balɔ̃ dɔʁ]) yn wobr bêl-droed flynyddol a gyflwynir gan y cylchgrawn Ffrengig France Football ers 1956. Mae'n anrhydeddu'r pêl-droediwr y bernir iddo berfformio orau dros y tymor blaenorol.
Yn wreiddiol, roedd y wobr yn cael ei hadnabod fel gwobr Pêl-droediwr Ewropeaidd y Flwyddyn, gan mai dim ond i chwaraewyr Ewropeaidd y cafodd ei dyfarnu. Ym 1995, ehangodd i gynnwys yr holl chwaraewyr a oedd yn chwarae mewn clybiau Ewropeaidd ac yn 2007 daeth yn wobr fyd-eang i bêl-droedwyr proffesiynol.
Y chwaraewr gyda'r mwyaf o Beli Aur yw Lionel Messi o'r Ariannin gydag wyth gwobr, ac yna Cristiano Ronaldo o Bortiwgal gyda phump. Ronaldo yw'r chwaraewr sydd wedi cael ei enwebu fwyaf, gyda 18 enwebiad. Rodri o Sbaen yw deiliad presennol y wobr, ar ôl ennill y wobr yn 2024.
Gwobrau yn cael eu cyflwyno yn seremoni'r Bêl Aur
[golygu | golygu cod]Gwobrau tymhorol
[golygu | golygu cod]Gwobr | Enwyd ar ôl | Gwobr gyntaf | Dyfarnwyd i'r | Deiliad presennol |
---|---|---|---|---|
Pêl Aur | — | 1956 | Chwaraewr gwrywaidd gorau'r tymor blaenorol | ![]() |
Pêl Aur Merched | — | 2018 | Chwaraewraig orau'r tymor blaenorol | ![]() |
Tlws Kopa | ![]() |
2018 | Chwaraewr gorau dan 21 y tymor blaenorol | ![]() |
Tlws Iashin | ![]() |
2019 | Gôl-geidwad gorau'r tymor blaenorol | ![]() |
Tlws Gerd Müller | ![]() |
2021 (Ymosodwr y Flwyddyn) 2022 (Tlws Gerd Müller) |
Ymosodwr gorau'r tymor blaenorol | ![]() ![]() |
Gwobr Sócrates | ![]() |
2022 | Pêl-droedwyr sydd wedi gwneud gwaith dyngarol | ![]() |
Clwb Dynion y Flwyddyn | — | 2021 | Clwb dynion sy'n perfformio orau y tymor blaenorol | ![]() |
Clwb Merched y Flwyddyn | — | 2023 | Clwb merched sy'n perfformio orau y tymor blaenorol | ![]() |
Hyfforddwr Dynion y Flwyddyn | — | 2024 | Hyfforddwr gorau tîm dynion y tymor blaenorol | ![]() |
Hyfforddwr Dynion y Flwyddyn | — | 2024 | Hyfforddwr gorau tîm merched y tymor blaenorol | ![]() |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Pêl Aur Merched, cyfatebol y merched
- Pêl Aur Swper, gwobr arbennig a roddir i chwaraewr gorau'r ganrif sydd wedi ennill y Bêl Aur
Nodynau
[golygu | golygu cod]- ↑ Pan enillodd Mbappé y wobr roedd yn chwarae i Real Madrid, ond rhoddwyd y wobr am ei berfformiad yn PSG y tymor blaenorol.