Owen Griffith (Eryr Eryri)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Owen Griffith
Eryr Eryri.jpg
FfugenwEryr Eryri Edit this on Wikidata
Ganwyd12 Awst 1839 Edit this on Wikidata
Cwm-y-glo Edit this on Wikidata
Bu farw4 Ionawr 1903 Edit this on Wikidata
Llanrug Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerddor, chwarelwr, Arweinydd, canwr, cyfansoddwr clasurol, codwr canu, athro Edit this on Wikidata

Roedd Owen Griffith (Eryr Eryri) (12 Awst 18394 Ionawr 1903) yn gerddor, yn ganwr ac yn arweinydd corau Cymreig.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Eryr Eryri yn Nhyrpeg Pen Llyn, ger Cwm y Glo, yn blentyn i Gruffydd Owen ac Elen ei wraig, cafodd ei fedyddio yn eglwys blwyf Llanrug ar 13 Awst 1839.[2]. Roedd Gruffydd Owen hefyd yn gerddor, a fu'n athro gwledig mewn cerddoriaeth, yn awdur amryw donau ac anthemau, arweinydd band pres Llanrug a chôr capel Llanrug.[3] Bu farw Gruffydd Owen o'r diciâu pan oedd yr Eryr yn fachgen ifanc, gan hynny ni chafodd yr Eryr dim addysg ddyddiol ffurfiol heblaw am yr hyn dysgodd yn yr ysgol Sul.[4]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Dechreuodd Eryr Eryri gweithio yn y chwareli llechi pan oedd tua 11 oed, a chwarelwr bu ei alwedigaeth am weddill ei yrfa gwaith.

Gyrfa gerddorol[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd anian canu ynddo yntau, fel yn ei dad; ac ymunodd a chôr Waunfawr pan yn bur ifanc. Gan arweinydd y côr, Pierce Williams, cafodd ei addysg gerddorol gynharaf. Ym 1862 cafodd llwyddiant fel arweinydd parti bach yr Eryri Glee Society gan gipio'r wobr gyntaf yn Eisteddfod Fawr Caernarfon.

Meib y Mynydd gan Ceiriog i dôn gan Eryr Eryri [5]

Ym 1868 fe gymerodd yr Eryr lle ei athro cerddorol gan ddod yn arweinydd côr Waunfawr. Ym 1871 unodd côr Waunfawr gyda chôr Llanberis i ffurfio côr mawr o'r enw "Côr Undebol Eryri". Bu'r côr undebol yn hynod lwyddiannus yn yr eisteddfodau lleol yng ngogledd Cymru ac ym 1875 cipiodd y brif wobr ar gyfer corau mawr yn Eisteddfod Genedlaethol, Pwllheli.[6] Buddugoliaeth fwyaf y côr oedd ei fuddugoliaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1878, pan oedd corau mawr y deheudir yn cystadlu yn erbyn corau'r gogledd am y tro cyntaf.[7]

Yn fuan wedi llwyddiant Penbedw roddodd y gorau i arwain y côr. Roedd ef am i'r côr troi yn gôr cyngerdd i berfformio rhai o'r gweithiau mawr yn eu cyfanrwydd, yn hytrach na pharhau i fod yn gôr cystadlu yn perfformio darnau unigol. Doedd aelodau'r côr ddim yn rhannu ei weledigaeth.[8]

Yn ogystal â bod yn arweinydd côr bu'r Eryr yn unawdydd poblogaidd. Roedd ganddo lais bas ac fe fu yn perfformio mewn cyngherddau a gynhaliwyd trwy Gymru gyfan a gan y cymdeithasau Cymreig yn ninasoedd Lloegr. Bu'n canu ar yr un llwyfan â Megan Watts, Eos Morlais, Dr Joseph Parry, Llew Llwyfo, Signor Paggi, Gaynor Griffiths a llu o enwogion eraill ei ddydd.[9]

Bu galw mawr ar yr Eryr i fod yn feirniad ar ganu a chyfansoddi mewn eisteddfodau a chyfarfodydd cystadleuol trwy'r wlad, a bu ganddo enw da am ei degwch wrth feirniadu a'r modd y byddai'n rhoi cefnogaeth a chyngor i'r sawl na ddaeth i frig cystadlaethau.[9]

Roedd yn flaenor ac yn godwr canu i'r Methodistiaid Calfinaidd yn Llanberis a Llanrug a gwasanaethodd ei enwad trwy wneud teithiau rheolaidd o amgylch yr ysgolion Sul i ddysgu'r tonic sol-ffa i'r mynychwyr.[10]

Cyfansoddodd degau o donau ar gyfer caneuon, anthemau, darnau corawl, darnau cystadleuol a chaneuon cyngerdd a oedd yn hynod boblogaidd yn ei ddydd. Ymysg ei gyfansoddiadau mwyaf poblogaidd oedd Mae'r olwyn yn troi, Wyled yr Awen, Gwyn eu byd y tlodion yn yr ysbryd, Da was, da a ffyddlon, Fy annwyl Walia wen, a Y fam a'i phlentyn; ei gampwaith oedd Ar lan afonydd Babel a aeth trwy chwech neu saith adargraffiad.[9]

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1864 priododd Eryr Eryri â Mary Jones, London House , Waunfawr.[11] Bu iddynt bedwar o blant. Bu farw Mary ym 1881 yn 39 mlwydd oed.[12] Ym 1882 ail briododd yr Eryr, ei wraig newydd oedd Jane Roberts, Glyn Padarn, Llanbadarn; bu iddynt un mab.[13]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi salwch hir a orfododd iddo ymadael a'i gwaith yn y chwarel a'i gyfraniadau at fyd cerdd bu farw Eryr Eryri yn ei gartref yn Llanrug. Claddwyd ei weddillion ym mynwent y plwyf. Gan fod gymaint o bobl yr oedd wedi arwain a hyfforddi yn gerddorol wedi mynychu'r angladd honnwyd mai'r canu ar lan ei fedd oedd y canu angladdol gorau a fu yn yr ardal erioed.[14]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. GRIFFITH, OWEN (' Eryr Eryri '; 1839 - 1903), cerddor. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 21 Tachwedd 2020
  2. Gwasanaethau Archifau Cymru Rhestri plwyf Sir Gaernarfon. Bedyddiadau Llanrug 1813-1882 Tud 124 August 13 1839 Owen the son of Griffith and Elen Owen Penllyn Gate House Quarryman
  3. Y cyfaill o'r hen wlad yn America Cyf. LXVIII - Mehefin 1905 - WILLIAM J. JONES, (GLAN-YR-AFON,) COLUMBUS, WIS, Gan y Parch. G. Griffiths. Columbus, Wis adalwyd 21 Tachwedd 2020
  4. Y Cerddor Cyf. IX rhif. 105 - Medi 1 1897 EIN CERDDORION (RHIF 20.) Mr. OWEN GRIFFITH (Eryr Eryri) Adferwyd 21 Tachwedd 2020
  5. Cerddor y tonic sol-ffa Cyf. IX - Rhif. 107 - Tachwedd 1883 Meib y Mynydd Ceiriog-Eryr Eryri Adferwyd 21 Tachwedd 2020
  6. "YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL YN MHWLLHELI - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1875-09-03. Cyrchwyd 2020-11-21.
  7. Yr Ysgol Gerddorol YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL YN BIRKENHEAD (PENBEDW) Adferwyd 21 Tachwedd 2020
  8. Y Geninen Cyf. XXI Rhif. 3 - Gorphenaf 1903 Eryr Eryri gan Alafon Adferwyd 21 Tachwedd 2020
  9. 9.0 9.1 9.2 Traethodydd Cyf. CVI (XIX) (458-461), 1951Tud 21-29 Eryr Eryri gan O Llew Owain Adferwyd 21 Tachwedd 2020
  10. Cronicl yr ysgol Sabbothol Chwefror 1880 Cyfarfodydd Ysgolion - Arfon ] Adferwyd 21 Tachwedd 2020
  11. "Priodasau - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1864-10-26. Cyrchwyd 2020-11-21.
  12. "Marwolaethau - Y Dydd". William Hughes. 1881-08-12. Cyrchwyd 2020-11-22.
  13. "Family Notices - The North Wales Express". Robert Wiliams. 1882-09-22. Cyrchwyd 2020-11-22.
  14. "LLANRUG ARFON - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1903-01-14. Cyrchwyd 2020-11-22.