Owain Williams (gwleidydd)
| Owain Williams | |
|---|---|
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | gwleidydd |
| Plaid Wleidyddol | Llais Gwynedd |

Cenedlaetholwr a cyn-wleidydd yw Owain Williams neu Now Bom (ganwyd Awst 1935).[1] Roedd yn un o'r tri a garcharwyd yn dilyn ffrwydro trosglwyddydd trydan yng Nghapel Celyn yn enw Mudiad Amddiffyn Cymru. Ysgrifennodd yr hanes mewn cyfrol o'r enw Cysgod Tryweryn yn 1995.
Bywgraffid
[golygu | golygu cod]Daeth yn aelod o Blaid Cymru yn 11 oed am nad oedd gofyn iddo ddatgelu ei oedran. Ond erbyn ei fod yn 16 oed, roedd e wedi dadrithio â’r Blaid. Treuliodd gyfnod yn byw yng Nghanada, a dychwelodd i ardal Nefyn yn 1959 a cychwynnodd weithio mewn caffi ym Mhwllheli. Roedd wedi dysgu am ffrwydron yng Nghanada, ac wedi dod adref aeth ati i ffurfio Mudiad Amddiffyn Cymru gydag Emyr Llywelyn.[2]
Mae'n berchen ar parc carafannau a gwrs golff yn Gwynus, ger Pistyll, Penrhyn Llŷn.[3]
Gwleidyddiaeth
[golygu | golygu cod]Roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas Cyfamod y Cymry Rhydd (Saesneg: The Society of the Covenant of the Free Welsh), neu'r Cyfamodwyr, sef Mudiad cenedlaetholgar Cymreig a sefydlwyd yn 1987 oherwydd anfodlonrwydd at yr hyn a welid fel diffyg ymateb Plaid Cymru i broblem y mewnlifiad i Gymru.
Bu'n gynghorydd ar Gyngor Sir Gwynedd dros ward Clynnog. Ar 5 Mai 2008, etholwyd ef yn arweinydd grŵp Llais Gwynedd ar y cyngor. Fe'i etholwyd eto yn 2012[4] a 2017[5] ond ni sefodd yn etholiad 2022.[6]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Roy Clews, To Dream of Freedom (Y Lolfa, 1980)
- Owain Williams, Cysgod Tryweryn (Gwasg Carreg Gwalch, 1995)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Owain WILLIAMS personal appointments - Find and update company information - GOV.UK". find-and-update.company-information.service.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-08-07.
- ↑ "Ffilm sydd "o ddifri" am Owain Williams a bomio Tryweryn". Golwg360. 2021-03-18. Cyrchwyd 2025-08-07.
- ↑ "I'm no traitor, says ex-bomber who now owns a caravan park; Nationalist accused after opening holiday centre in Llyn. - Free Online Library". www.thefreelibrary.com. Daily Post. 3 Gorffennaf 2002. Cyrchwyd 7 Awst 2025.
- ↑ "Gwynedd Council - Election Results". diogel.gwynedd.llyw.cymru. Cyrchwyd 2025-08-07.
- ↑ "Election results for Clynnog, 4 May 2017". democracy.gwynedd.llyw.cymru. Cyrchwyd 2025-08-07.
- ↑ "Diwedd cyfnod Llais Gwynedd mewn llywodraeth leol?". BBC Cymru Fyw. 2022-06-04. Cyrchwyd 2025-08-07.