Neidio i'r cynnwys

Owain Glyndŵr (ffilm, 1983)

Oddi ar Wicipedia
Owain Glyndŵr
Teitlau Saesneg y ffilm Owain Glyndŵr
Enghraifft o:ffilm Gymraeg
Lliw/iaulliw Edit this on Wikidata
Dyddiad cynharaf1982
GolygyddJo Tuck
AwdurIfor Wyn Williams, Dafydd Huw Williams a Jane Edwards
CyhoeddwrS4C
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
IaithCymraeg a fersiwn Saesneg
Dyddiad cyhoeddi1983
Cysylltir gydaCastell Dolwyddelan a J. O. Roberts
Genreffilm ddrama Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithCymru Edit this on Wikidata
Hyd96 munud
Cyfarwyddwr/wyrJames Hill
Cynhyrchydd/wyrJames Hill
Cwmni cynhyrchuFfilmiau Opix
Iaith wreiddiolCymraeg Edit this on Wikidata
SinematograffyddWolf Suschitzky
SgriptiwrIfor Wyn Williams, Jane Edwards Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Y ffilm gyntaf a gomisiynwyd ac a ddangoswyd ar S4C ar 1 Mawrth [Dydd Gŵyl Dewi] 1983 oedd Owain Glyndŵr, a gynhyrchwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg, [Owain, Prince of Wales].[1] Mae'r ffilm yn olrhain hanes Owain Glyn Dŵr, Tywysog Cymru, ac yn cynnwys cymeriadau hanesyddol eraill fel Yr Arglwydd Reginald Grey, Brenin Harri'r IV a Rhys Gethin.[2] Ar gychwyn y ffilm, cafwyd tryth ysgrifenedig yn gosod y cyd-destun hanesyddol yn y flwyddyn "1400 O.C".[2] Cafodd y ffilm ei beirniadu wedi'r dangosiad cyntaf, a bu i Euryn Ogwen Williams gyfaddef yn ddiweddarach mai fel "adloniant" y dylid gwerthuso'r ffilm, ac nad oedd hi'n ddigon "sylweddol" i ennyn parch i Gymru na'r sianel newydd.[1]

(yn nhrefn ymddangosiad)

Cynhyrchu

[golygu | golygu cod]
J. O. Roberts a John Pierce Jones ger Castell Dolwyddelan
David Lyn fel Brenin Harri IV yn y ffilm

Ffilmiwyd y cynhyrchiad yn ardal Dyffryn Conwy gan ddefnyddio Castell Dolwyddelan yn ganolbwynt, a Chastell Gwydir yn Llanrwst. Diolchwyd i Neuadd Cochwilan hefyd.[2]

Cyfres o ddramâu unigol am hanes Glyndŵr oedd y syniad gwreiddiol, yn ôl David Berry yn ei gyfrol Wales and Cinema [1994], ond bod S4C wedi penderfynu y dylid cyfansoddi ffilm am yr hanes.[1] Cywasgwyd tair drama deledu at ei gilydd i wneud y ffilm, yn ôl Berry, ac ystyriai'r cyfarwyddwr di-Gymraeg o Swydd Efrog, James Hill, y ffilm yn namyn mwy na "gwaith i blant".[1] Cyfaddefodd Hill na wyddai fawr ddim am hanes Cymru chwaith, a beirniadodd Berry y dewis o gyfarwyddydd di-Gymraeg o Loegr, gan nodi bod y ffilm wedi "bradychu diffyg hyder ac uchelgais angheuol" i'r Cymry.[1]

Am nad oedd James Hill yn gallu siarad Cymraeg, cyflogwyd Wilbert Lloyd Roberts cyn-gyfarwyddwr Gwmni Theatr Cymru i gyfarwyddo'r actorion yn Gymraeg.[1]

Ar gychwyn y ffilm, nodir bod y ddrama deledu wedi'i gyfansoddi gan Ifor Wyn Williams a Jane Edwards, a'r cyfarwyddwr James Hill. Golygydd y sgript oedd Dafydd Huw Williams a ddaeth yn gomisiyndd drama'r sianel yn ddiweddarach.[2]

Os craffwch chi'n ofalus, gallwch hefyd weld merch J. O. Roberts, y cyflwynydd Nia Roberts yn ei rôl gyntaf ar deledu.

Ffilmiau Opix oedd y cwmni cynhyrchu. Hazel Peiser oedd y Cynllunydd. Malcolm Davies, Tony Anscombe a Mike Turner oedd yn gyfrifol am y sain

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 Berry, David (1994). Wales and Cinema. Prifysgol Cymru. ISBN 070831256X.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Owain Glyndŵr. S4C. 1983.