Ousmane Dembélé
| Ousmane Dembélé | |
|---|---|
Dembélé yn chwarae ar gyfer Ffrainc yng Nghwpan y Byd 2026 | |
| Ganwyd | Masour Ousmane Dembélé 15 Mai 1997 Vernon, Eure |
| Dinasyddiaeth | Ffrainc |
| Galwedigaeth | pêl-droediwr |
| Taldra | 179 centimetr |
| Pwysau | 67 cilogram |
| Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur, Pêl Aur |
| Chwaraeon | |
| Tîm/au | Stade Rennais F.C., France national under-17 association football team, France national under-18 association football team, France national under-19 association football team, France national under-21 association football team, C.P.D. Barcelona, Borussia Dortmund, Tîm pêl-droed cenedlaethol Ffrainc, Paris Saint-Germain F.C. |
| Safle | blaenwr |
| Gwlad chwaraeon | Ffrainc |
| llofnod | |
Pêl-droediwr o Ffrainc yw Masour Ousmane Dembélé ( Pwlaareg: [ma.suːr us.maːn dem.be.le];[1] 15 Mai 1997), sy'n cael ei ystyried yn un o'r chwaraewyr gorau yn y byd.[2][3][4][5] Mae'n chwarae fel ymosodwr neu asgellwr dde i glwb Ligue 1 Paris Saint-Germain ac i dîm cenedlaethol Ffrainc. Mae wedi ennill Cwpan y Byd 2018 gyda Ffrainc, Cynghrair y Pencampwyr UEFA dwywaith gyda Paris Saint-Germain a'r Bêl Aur yn 2025. Mae e'n un o ddim ond 10 chwaraewr erioed i ennill y tair gwobr.
Gyrfa ryngwladol
[golygu | golygu cod]Chwaraeodd am y tro cyntaf i Ffrainc yn 2016 pan oedd yn 18 oed mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Yr Eidal. Ar 13 Mehefin 2017, sgoriodd am y tro cyntaf mewn gêm gyfeillgar.
Roedd yn rhan o garfan Ffrainc wnaeth ennill Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia. Chwaraeodd bedair gêm yn ystod yr ymgyrch. Chwaraeodd pob gêm ar gyfer Ffrainc yn ystod Cwpan y Byd 2022, lle cyrhaeddon nhw y rownd derfynol.
Roedd yn rhan o garfan Ffrainc ar gyfer Cwpan y Byd 2026, a sgoriodd hat-tric yn erbyn Norwy yng ngham y grwpiau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "L'interview « Petit frère » avec Ousmane Dembélé" [Cyfweliad 'Y Brawd Bach' gydag Ousmane Dembélé]. YouTube (yn Ffrangeg). Onze Mondial. 12 Medi 2025. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2025.
- ↑ "Ballon d'Or 2025 Power Rankings: Désiré Doué's Champions League final fireworks move PSG teenager into the top 10 – but this is Ousmane Dembélé's Golden Ball" [Safleoedd Pŵer Pêl Aur 2025: Mae perfformiad disglair Désiré Doué yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn gyrru'r chwaraewr ifanc o PSG i'r 10 uchaf – ond y Bêl Aur hon yw eiddo Ousmane Dembélé]. Goal.com (yn Saesneg). 1 Mehefin 2025. Cyrchwyd 3 Mehefin 2025.
- ↑ Swan, Rob; Malyan, Christy; Murray, Will (10 Tachwedd 2023). "The 25 best footballers in the world right now – ranked in order" [Y 25 pêl-droediwr gorau yn y byd ar hyn o bryd – wedi'u rhestru yn ôl trefn]. GiveMeSport (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Mehefin 2025.
- ↑ "After PSG beat Liverpool, we ask: Is Dembélé the world's best soccer player?" [Ar ôl i PSG guro Lerpwl, rhaid i ni ofyn: Ai Dembélé yw pêl-droediwr gorau'r byd?]. ESPN (yn Saesneg). 14 Mawrth 2025. Cyrchwyd 3 Mehefin 2025.
- ↑ Ross-Murray, Ewan (30 Mawrth 2026). "The 15 best players who will be at the 2026 World Cup – Ranked" [Y 15 chwaraewr gorau a fydd yng Nghwpan y Byd 2026 – Wedi'u rhestru]. Sports Illustrated (yn Saesneg). Cyrchwyd 28 Ebrill 2026.