Our Town (drama)
| Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
|---|---|
| Awdur | Thornton Wilder |
| Iaith | Saesneg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1938 |
| Dechrau/Sefydlu | 1938 |
| Genre | drama llafar, drama ffuglen |
| Cymeriadau | Stage Manager, Mrs. Myrtle Webb, Mr. Charles Webb, Emily Webb, Joe Crowell Jr., Mrs. Julia Gibbs, Dr. Frank Gibbs, Simon Stimson, Mrs. Louella Soames, George Gibbs, Howie Newsome, Rebecca Gibbs, Wally Webb, Professor Willard, Woman in the Auditorium, Man in the Auditorium, Lady in the Box, Mr. Carter, Si Crowell, Sam Craig, Joe Stoddard, Baseball Player I, Baseball Player II, Baseball Player III, Farmer McCarty, Dead Man, Dead Woman, Constable Warren |
| Lleoliad y perff. 1af | McCarter Theatre |
| Dyddiad y perff. 1af | 22 Ionawr 1938 |
| Lleoliad y gwaith | Grover's Corners |
| Dynodwyr | |
Drama tair act gan y dramodydd Americanaidd Thornton Wilder yw Our Town (Cymraeg: Ein Tre Ni) a gyfansoddwyd ym 1938. Wedi'i disgrifio gan Edward Albee fel "y ddrama Americanaidd orau a ysgrifennwyd erioed", [1] mae'n cyfleu bywydau beunyddiol poblogaeth tref ffuglennol Americanaidd 'Grover's Corners' rhwng 1901 a 1913.
Mae'r ddrama wedi'i gosod yn y theatr lle mae hi'n cael ei llwyfannu gyda'r prif gymeriad yn reolwr llwyfan ar y cynhyrchiad sy'n annerch y gynulleidfa'n uniongyrchol gan wahodd darlithwyr gwadd i ateb eu cwestiynau, gan hefyd bortreadu'r cymeriadau.
Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf yn Theatr McCarter ym Mhrinceton, New Jersey, ar 22 Ionawr 1938, a ddilynodd gan lwyddiant ysgubol ar Broadway gan ennill Gwobr Pulitzer am Ddrama. Llwyfannwyd y ddrama gan y Welsh National Theatre yn 2026 gyda Michael Sheen yn y brif ran.
Awgrymwyd hefyd mai'r ddrama hon oedd ysbrydoliaeth Dylan Thomas i gyfansoddi Under Milk Wood.[2]

Cyfieithwyd y ddrama i'r Gymraeg gan Delyth George ym 1993, ac fe gyhoeddwyd y gwaith gan CAA o dan y teitl Ein Tre Ni.[3]

Cymeriadau
[golygu | golygu cod]| Cymeriadau Wilder | Disgrifiad |
|---|---|
| Stage Manager | prif sylwebydd a chyflwynydd y ddrama |
| Emily Webb | prif gymeriad y ddrama |
| George Gibbs | prif gymeriad y ddrama |
| Frank Gibbs | tad George |
| Julia Gibbs | mam George |
| Charles Webb | Golygydd y papur newydd |
| Myrtle Webb | mam Wally ac Emily |
| Joe Crowell | bechgyn y rownd bapur |
| Si Crowell | bechgyn y rownd bapur |
| Simon Stimson | organydd ac arweinydd y gân |
| Howie Newsome | dyn llefrith |
| Rebecca Gibbs | chwaer fenga George |
| Wallace 'Wally' Webb | brawd fenga Emily |
| Professor Willard | darlithydd |
| Woman in the Balcony | aelod o'r gynulleidfa |
| Belligerent Man at Back of Auditorium | aelod o'r gynulleidfa |
| Lady in a Box | aelod o'r gynulleidfa |
| Mrs Louella Soames | dynes fusneslyd |
| Constable Bill Warren | heddwas |
| Three Baseball Players | |
| Joe Stoddard | ymgymerwr angladdau |
| Sam Craig | nai Mrs Gibbs |
| Man from among the Dead | cyn-drigolion marw |
| Woman from among the Dead | cyn-drigolion marw |
| Mr Carter (Dead) | cyn-drigolion marw |
| Farmer McCarty (Dead) | cyn-drigolion marw |
| Bessie |
Crynodeb
[golygu | golygu cod]Act 1 - Bywyd Beunyddiol
[golygu | golygu cod]Mae'r ddrama'n cychwyn wrth i'r Rheolwr Llwyfan gyflwyno tref fechan "Grover's Corners, New Hampshire" i'r gynulleidfa, gan ddisgrifio ei daearyddiaeth a'i phrif adeiladau a sefydliadau, yn ogystal â'r bobl sy'n byw yno. Mae'n cyhoeddi'r dyddiad sef 7 Mai 1901, wrth i fore wawrio. Mae Joe Crowell yn dosbarthu'r papur i Doc Gibbs, mae Howie Newsome yn dosbarthu'r llaeth, ac mae aelwydydd Webb a Gibbs yn anfon eu plant (Emily a Wally Webb, George a Rebecca Gibbs) i'r ysgol.
Cawn ein cyflwyno i'r Athro Willard, sy'n siarad â'r gynulleidfa am hanes y dref. Dilynir hynny gan Olygydd y Papur Dyddiol Golygydd Webb, sy'n sôn am statws economaidd-gymdeithasol y dref, ei demograffeg wleidyddol a chrefyddol.
Cyflwynir Simon Stimson, organydd a chyfarwyddwr y côr yn yr Eglwys Gynulleidfaol. Dysgwn gan Mrs. Louella Soames fod Stimson yn alcoholig, ffaith adnabyddus ymhlith pawb yn y dref. Er bod mwyafrif y trigolion yn dewis anwybyddu'r ffaith, gan gynnwys plismon y dref, y Cwnstabl Warren, mae Mrs. Gibbs yn poeni amdano.
O dan leuad lawn, daw Act 1 i'w therfyn, gyda'r brodyr a'r chwiorydd George a Rebecca, ac Emily yn syllu allan o ffenestri eu hystafelloedd gwely, gan fwynhau aroglau'r nos a'r lleuad rhyfeddol. Ceir awgrym bod carwriaeth yn magu rhwng Emily a George.
Act 2 - Cariad a Phriodas
[golygu | golygu cod]Aeth 3 blynedd heibio, ac mae George ac Emily yn paratoi i briodi. Mae'r diwrnod yn llawn straen. Mae Howie Newsome yn dosbarthu llaeth yn y glaw trwm tra bod Si Crowell, brawd iau Joe, yn galaru am yrfa pêl fas George fydd yn cael ei wastraffu yn sgil y briodas. Mae'r Rheolwr Llwyfan yn ein hatgoffa am ddigwyddiadau yn y dref y flwyddyn flaenorol, pan oedd Emily a George ar fin gorffen yn yr ysgol. Mae'r ddau yn trafod y dyfodol ac yn datgan eu cariad i'w gilydd, gyda George yn penderfynu peidio â mynd i'r coleg, gyda'r bwriad o etifeddu fferm ei ewythr.
Nôl yn y presennol, er i George ac Emily gyhoeddi wrth eu rhieni'n gyfrinachol, nad ydynt yn barod i briodi – aiff y briodas rhagddi yn hapus. Gorffenir yr Act gyda Mrs Soames yn ebychu : "I'm sure they'll be happy. I always say: happiness, that's the great thing! The important thing is to be happy."
Act 3 - Marwolaeth a Thragwyddoldeb
[golygu | golygu cod]Aeth 9 mlynedd heibio, wrth i'r Rheolwr Llwyfan drafod tragwyddoldeb ger mynwent y dref, a gwelwn rhai o'r cymeriadau sy'n gorwedd yno, wedi marw ers y briodas. Mae'r ymadawedig yn cynnwys Mrs. Gibbs (niwmonia, wrth deithio), Wally Webb (apendics wedi byrstio, wrth wersylla), Mrs. Soames, a Simon Stimson (hunanladdiad trwy grogi). Mae'r Rheolwr Llwyfan yn honni : "the dead don't stay interested in us living people for very long ... gradually they lose hold of the earth ... They're waitin'. They're waitin' for something that they feel is comin'. Something important, and great."
Cyflwynir Joe Stoddard, ymgymerwr y dref, yn ogystal â dyn ifanc o'r enw Sam Craig, sydd wedi dychwelyd i Grover's Corners ar gyfer angladd ei gefnder. Datgelir mai Emily oedd y gefnder honno, a fu farw wrth roi genedigaeth i'w hail blentyn, gyda George. Wedi'r angladd ddod i ben, mae Emily yn ymuno â'r meirw ac, ar ôl gweld galar George a Dr. Gibbs, mae'n gofyn i Mrs. Gibbs os yw'n hi'n bosib dychwelyd i'r ddaear, dros dro. Mae Mrs. Gibbs yn ei hannog i anghofio ei bywyd daearol, gan ei rhybuddio y gall fedru gweld ond heb ryngweithio â'i theulu, achosi gormod o boen iddi. Gan anwybyddu rhybuddion Simon, Mrs. Soames, a Mrs. Gibbs, mae Emily yn perswadio'r Rheolwr Llwyfan i ddychwelyd i'r Ddaear i ail-fyw un diwrnod, ei phen-blwydd yn 12 oed.
Mae hi'n gwylio ei rhieni a rhai o bobl ei phlentyndod yn llawen am y tro cyntaf ers blynyddoedd, ond mae ei hapusrwydd yn troi'n boen wrth iddi sylweddoli cyn lleied o bobl sy'n gwerthfawrogi gweithgareddau syml bywyd. "It goes so fast. We don't have time to look at one another." Mae'r gydnabyddiaeth yn profi'n rhy boenus iddi ac mae hi'n sylweddoli y dylid trysori pob eiliad o fywyd. Gofynna Emily am gael dychwelyd at y meirw drwy ffarwelio am byth â'i bywyd daearol : "Oh Earth, you're too wonderful for anybody to realize you". Mae hi'n gofyn i'r Rheolwr Llwyfan a oes unrhyw un yn deall gwerth wirioneddol bywyd tra maen nhw'n fyw; mae'n yntau'n ymateb, "No. The saints and poets, maybe – they do some."
Dychwela Emily i'r bedd ger Mrs. Gibbs ac yn gwylio'n ddigyffro wrth i George benlinio gan wylo drosti. Mae'r Rheolwr Llwyfan yn dod â'r ddrama i ben gan ddymuno nos da i'r gynulleidfa.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Dechreuodd Wilder greu'r ddrama tra roedd yn dysgu a darlithio yn Chicago yn y 1930au.[4] Gweithiodd ar y ddrama mewn amrywiol leoliadau gan gynnwys Trefedigaeth MacDowell yn Peterborough, New Hampshire a Zürich ym mis Medi 1937. [5]
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Mae sawl enw adnabyddus wedi portreadu'r Rheolwr Llwyfan dros y degawdau gan gynnwys Frank Craven (1938), Henry Fonda (1969), Paul Newman (2003), Jim Parsons (2024) a Michael Sheen (2026). Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf yn Theatr McCarter ym Mhrinceton, New Jersey, ar 22 Ionawr 1938, ac wedi hynny ar Broadway.
Cafwyd cynhyrchiad o'r ddrama Saesneg gan y Welsh National Theatre yn 2026, fel eu hail gynhyrchiad ers ei sefydlu. Cyfarwyddydd Francesca Goodridge; Cydymaith Creadigol Russell T. Davies; Dylunydd Hayley Grindle; Sain Dyfan Jones - Cast:
- Rheolwr Llwyfan - Michael Sheen
- Howie Newsome - Rithvik Andugula
- George Gibbs - Peter Devlin
- Wally Webb - Aisha-May Hunte
- Rebecca Gibbs - Rebecca Killick
- Mr Webb - Alfie Llewellyn
- Mr Webb - Rhodri Meilir
- Mrs Soames - Christina Modestou
- Emily Webb - Yasemin Özdemir
- Heddwas Warren - Glyn Pritchard
- Mrs Gibbs - Sian Reese-Williams
- Mrs Webb - Nia Roberts
- Sam Craig - Kingdom Sibanda
- Prof Willard / Joe Stoddard - Gareth Snook
- Dr Gibbs - Matthew Trevannion
- Simon Stimpson - Rhys Warrington
Addasiadau
[golygu | golygu cod]Addaswyd y ddrama lwyfan yn ffilm o'r un enw.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Origin Theatrical | Our Town".
- ↑ "Our Town". Welsh National Theatre (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-03.
- ↑ George, Delyth (1993). Ein Tre Ni. CAA. ISBN 1856441660.
- ↑ "Gwefan Chicago Hall of Fame". Cyrchwyd 2026-07-03.
- ↑ Stein, Gertrude; Toklas, Alice B.; Steward, Samuel M. (1984). Dear Sammy : letters from Gertrude Stein and Alice B. Toklas. Internet Archive. New York : St. Martin's Press. ISBN 978-0-312-18542-8.