Ostraciaeth

Oddi ar Wicipedia
Ostraciaeth
Mathbanishment Edit this on Wikidata
GwladwriaethAthen yr henfyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ostrakon yn dwyn enw Themistocles, mab Neocles

Ostraciaeth oedd y drefn yn Athen ddemocrataidd yn y 5 CC o gynnal pleidlais i alltudio un neu fwy o arweinwyr y ddinas-wladwriaeth am gyfnod o ddeng mlynedd.

Ar ddiwrnod arbennig, byddai pob etholwr yn Athen yn dod i'r Agora ac yn ysgrifennu enw'r person y dymunai ef ei alltudio ar ddarn toredig o grochenewaith (ostrakon). Byddai unrhyw berson oedd yn cael mwy na 6,000 o bleidleisiau yn cael ei alltudio. Ni fyddai'n colli ei feddiannau, ac nid oedd yr ostraciaeth yn cael ei hystyried fel cosb; yn hytrach roedd yn ddull o ddatrys dadleuon gwleidyddol. Byddai pob arweinydd gwleidyddol yn Athen yn ceisio sicrhau fod ei wrthwynebwyr yn cael eu hostraceiddio. Er enghraifft, yn y cyfnod cyn ymosodiad Xerxes I, brenin Ymerodraeth Persia, ar Athen yn 480 CC, bu dadl sut y dylid amddiffyn y ddinas, trwy ganolbwyntio ar y llynges neu ar y fyddin. Llwyddodd Themistocles, oedd o blaid cryfhau'r llyngres, i sicrhau ostraceiddio Aristeides, oedd o blaid cryfhau'r fyddin.

Yn 442 CC, alltudiwyd y gwleidydd Thucydides o Athen am ddeng mlyned wedi i'w ymgais i ddisodli Pericles fethu. Daeth yr arfer i ben tua 415 CC.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Rhestr o bobl a ddioddefodd ostraciaeth