On the Origin of Species

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Origin of Species)
On the Origin of Species
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig, gwaith academaidd Edit this on Wikidata
AwdurCharles Darwin Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi24 Tachwedd 1859 Edit this on Wikidata
Genrellenyddiaeth am wyddoniaeth, traethawd Edit this on Wikidata
Prif bwncdetholiad naturiol Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithYnysoedd y Galapagos Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyhoeddwyd On the Origin of Species (dyddiad cyhoeddi: 24 Tachwedd 1859); awdur: Charles Darwin gyda'r teitl llawn: On the Origin of Species by Means of Natural Selection, or the Preservation of Favoured Races in the Struggle for Life. Roedd y llyfr gwyddonol hwn o bwys mawr ac yn garreg filltir mewn llenyddiaeth wyddonol. Pan gyhoeddwyd y 6ed rhifyn newidiwyd y teitl i: The Origin of Species. Mae copi o'r clawr hwn i'w weld ar y dde.

Darwin - ychydig ar ôl cyhoeddi'r llyfr

Roedd y llyfr yn cyflwyno'r syniad o esblygiad drwy ddetholiad naturiol mewn bioleg. Profodd fod organebau byw wedi esblygu dros amser drwy broses a alwodd yn ddetholiad naturiol. Roedd hyn yn creu'r syniad o 'goeden' gyda'r canghennau'n esblygu yn wahanol greaduriaid. i droi'r syniad hwn ar ei ben i lawr, fe welwn fod pob creadur yn tarddu o'r un boncyff. Pan gyhoeddwyd y llyfr, roedd llawer iawn o Gristnogion yn ymateb yn ffyrnig iawn gan fod y syniadau hyn yn groes i syniadau'r Beibl fod Duw wedi creu organebau byw ('anifeiliaid y maes a physgod y môr') i gyd ar yr un pryd. Roedd hi'n anodd iawn i lawer o'r rhain dderbyn mai o fwnci (ac anifeiliaid eraill cyn hynny) y daeth dyn.

Roedd ei ymweliad â Chwm Idwal a'i daith mewn cwch o'r enw HMS Beagle yn 1830 wedi bod yn allweddol i hyn oll. Sgwennodd y llyfr ar gyfer y lleygwr a daeth yn llyfr tu hwnt o boblogaidd. Pymtheg swllt oedd ei bris a gwerthwyd pob un o'r 1,250 copi cyntaf ar unwaith. Cyhoeddwyd yr ail argraffiad ar 7 Ionawr 1860 a gwerthwyd 3,000 copi.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]