Orhi
| Math | mynydd |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Zuberoa, Nafarroa Garaia |
| Gwlad | Sbaen, Ffrainc |
| Uwch y môr | 2,017 metr |
| Cyfesurynnau | 42.9896°N 1.005°W |
| Amlygrwydd | 603 metr |
| Cadwyn fynydd | Orhi a'i griw |
![]() | |
Mynydd 2,017 metr uwch lefel y môr yng Ngwlad y Basg yw Orhi[1] (neu Ohi phünta yn nhafodiaith Basgeg Zuberoa). Gan ddechrau o'r gorllewin, yn aml mae'n cael ei gyfri'n gopa cyntaf y Pyreneau gyda mwy na 2,000 metr o uchder. Fe'i lleolir ar y ffin rhwng Zuberoa a Nafarroa Garaia (ac felly ar y ffin rhwng gwladwriaethau Ffrainc a Sbaen) yn rhan ddwyreiniol coedwig Irati (yr ail goedwig ffawydd fwyaf yn Ewrop ar ôl y Fforest Ddu).
Mannau cychwyn
[golygu | golygu cod]
Mae'r llwybr hawsaf a mwyaf poblogaidd i'r copa yn cychwyn o faes parcio bwlch Larraine (uchder 1537m).
"Aderyn Orhi"
[golygu | golygu cod]Disgrifir mynydd Orhi mewn sawl hen ddywediad Basgeg. Mae'r rhain yn cyfeirio at gysylltiad rhywun â tharddiad rhywun.
- Orhiko xoria, Orhira tira (Bydd aderyn Orhi yn hedfan i Orhi) yn nhafodiaith Nafarroa
- Orhiko xoria, Orhin laket (Mae aderyn Orhi wrth ei fodd yn Orhi) yn nhafodiaith Zuberoa
Ysgrifenodd Jean Gorostarsu Haroztegi am aderyn Orhi yn y gerdd Etxeca xokoa (llecyn cartref) yn y 19g.
Mytholeg
[golygu | golygu cod]Mynydd Orhi yw un o breswylfeydd Mari, un o hen dduwiau'r Basgiaid. Cysylltir Orhi a choedwig Irati hefyd efo Basajaun (sef "Arglwydd y Goedwig", math o gawr doeth).
Llwybr y GR 11
[golygu | golygu cod]Mae llwybr GR 11, sy'n croesi llethrau deheuol y Pyreneau, yn mynd trwy fwlch Orhi, nepell o'r copa.
