Ophiuchus
Gwedd
![]() | |
Enghraifft o: | cytser, cytser sidyddol ![]() |
---|---|
Enw brodorol | Serpent-Bearer ![]() |
![]() |
Cytser mawr a welir yn awyr y nos yn hemisfferau wybrennol y gogledd a'r de, yn croesi'r cyhydedd wybrennol, yw Ophiuchus. Mae ei enw yn deillio o'r Hen Roeg ὀφιοῦχος, sy'n golygu "cludwr sarff", ac fe'i cynrychiolir yn gyffredin fel dyn yn gafael mewn neidr. Cynrychiolir y sarff gan y cytser Serpens, sy'n cael ei rannu'n ddwy ran gan y dyn. Gelwid y cytser weithiau wrth yr enw Lladin Serpentarius. Dyma un o'r 48 cytserau a restrwyd gan y seryddwr Ptolemi yn yr ail ganrif yn ei Almagest.[1] Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.

Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Ophiuchus", Ian Ridpath's Star Tales; adalwyd 25 Mawrth 2025
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- "Ophiuchus", Awyr Dywyll Cymru