Omar Khayyam

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Omar Khayyám)
Omar Khayyam
Ganwyd18 Mai 1048 Edit this on Wikidata
Nishapur Edit this on Wikidata
Bu farw4 Rhagfyr 1131 Edit this on Wikidata
Nishapur Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSeljuk Empire Edit this on Wikidata
Galwedigaethmathemategydd, seryddwr, bardd, awdur geiriau, athronydd, cerddor, astroleg, ysgrifennwr, ffisegydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amRubáiyát of Omar Khayyám, Solar Hijri calendar Edit this on Wikidata
ArddullRuba'i Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadAvicenna, Al-Biruni Edit this on Wikidata
MudiadPersian literature, Iranian philosophy, Islamic Golden Age Edit this on Wikidata

Mathemategydd, seryddwr, athronydd a bardd oedd Omar Khayyām (Persieg: عمر خیام / Omar-e Khayyām) (18 Mai 10484 Rhagfyr 1131), a anwyd yn Nishapur, Persia.

Mae Omar Khayyām yn fwyaf abnabyddus yn y Gorllewin am ei gasgliad o gerddi, Rubaiyat Omar Khayyām, ond yn ei wlad enedigol fe'i cofir yn bennaf am ei waith gwyddonol ac athronyddol. Fel ei gyfoeswr agos y bardd Faruddin Attar, Sŵffi oedd Omar Khayyam ac mae olion athroniaeth gyfrinol y Sŵffiaid i'w gweld yn glir yn ei farddoniaeth.

Cyfieithiad Edward FitzGerald o'r Rubaiyat[golygu | golygu cod]

Llun dychmygol o Omar Khayyām (o argraffiad o fersiwn Fitzgerald o'r Rubaiyat, 1905)

Aralleiriad neu addasiad yw'r fersiwn o'r Rubaiyat a gyhoeddwyd gan Edward FitzGerald (1809-1883) yn 1859. Mae wedi rhedeg i nifer o argraffiadau ers hynny, rhai ohonyn' nhw yn llyfrau cain gyda darluniau gan arlunwyr fel Gilbert James. Roedd Rubaiyat FitzGerald yn arbennig o boblogaidd ar droad yr 20g.

Cyfieithiadau Cymraeg o'r Rubaiyat[golygu | golygu cod]

Cyfieithiwyd casgliad o waith Omar Khayyām (Penillion Omar Khayyam) o'r Bersieg gwreiddiol i'r Gymraeg gan Syr John Morris-Jones ym 1928. Serch hynny mae dylanwad cyfieithiad Saesneg FitzGerald yn amlwg ynddo. Dyma bennill ohono:

Yn wir, rhyw ddernyn gwyddbwyll ydyw dyn,
Tynged yn chware â hwnnw'i chware'i hun;
Ein symud ar glawr Bywyd, ôl a blaen,
A'n dodi 'mlwch yr Angau, un ac un.[1]

Yn 1939 cyhoeddodd Thomas Ifor Rees (18901977) ei drosiad ei hun o fersiwn Saesneg Edward FitzGerald o'r Rubaiyat yn Ninas Mecsico, gyda lluniau gan yr arlunydd Robert Hesketh.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. John Morris-jones, Caniadau.