Oidipos Frenin
| Enghraifft o: | gwaith dramatig |
|---|---|
| Awdur | Soffocles |
| Iaith | Hen Roeg |
| Genre | trasiedi Roegaidd |
| Cymeriadau | Oidipos, Iocasta, Creon, Teiresias |
| Lleoliad y perff. 1af | Theatr Dionysos |
| Dyddiad y perff. 1af | 425 CC |
| Lleoliad y gwaith | Thebai |
| Dynodwyr | |
Trasiedi 'Roegaidd gan Soffocles yw Oidipos Frenin neu Oedipus Rex, a adnabyddir hefyd wrth ei theitl Groegaidd, Oidipos Tyrannus (Hen Groeg: Οιδίπους Τύραννος). Er bod rhai ysgolheigion yn dadlau bod y ddrama wedi'i llwyfannu gyntaf tua 429 CC, nid yw hyn yn cael ei dderbyn yn gwbl sicr.[1] Yn wreiddiol, i'r Groegiaid cynnar, credir mai Oidipos oedd teitl syml y ddrama, (Οἰδίπους), fel y cyfeirir ati gan Aristoteles yn ei Farddoneg. Credir iddi gael ei hailenwi'n Oidipos Tyrannus i'w gwahaniaethu oddi wrth Oidipos yn Colonos, drama ddiweddarach gan Soffocles.
Cyfieithwyd y ddrama i'r Gymraeg gan Euros Bowen ynghanol y 1950au a'i chyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru ym 1972 fel rhan o'r gyfres Y Ddrama yn Ewrop.
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]| Cymeriadau Soffocles | Cymeriadau Euros Bowen | Disgrifiad |
|---|---|---|
| Oedipus / Οἰδίπους | Oidipos | Brenin Thebai, tua 35 neu 36 oed. |
| Iocastê / Ἰοκάστη | Iocasta | y frenhines, ei briod, tua deunaw mlynedd yn hŷn nag ef |
| Kreōn / Κρέων | Creon | brawd Iocasta |
| Teiresias / Τειρεσίας | Teiresias | hen broffwyd dall |
| Hiereus / Ἱερεύς | Offeiriad Zews | |
| Angelos / Ἄγγελος | Cennad o Gorinth | yr Angelos, gŵr oedrannus |
| Boutes (neu Phorbas) / Βούτης (neu Φόρβας) | Bugail Laïos | hen ŵr |
| Exangelos | Negesydd | yr Exangelos |
| Choros / Χορός | Côr o henuriaid Thebai | (pymtheg yn y ddrama wreiddiol, er y gwnâi pump neu saith y tro, un ohonyn nhw'n Arweinydd) |
| Ymbilwyr | ||
| Gweision i Oidipos a Creon | ||
| Bachgennyn | tywysydd Teiresias | |
| Morwyn Iocasta | ||
| Antigonê / Ἀντιγόνη ac
Ismênê / Ἰσμήνη |
Merched Oidipos | Antigone ac Isméne |
Crynodeb
[golygu | golygu cod]
Anfona Oidipos, Brenin Thebai, ei frawd-yng-nghyfraith, Creon, i ofyn am gyngor yr oracl yn Delffi, ynghylch pla sy'n difrodi'r ddinas. Mae Creon yn dychwelyd, ac yn adrodd bod y pla yn ganlyniad i lygredd crefyddol, gan nad yw llofrudd eu cyn-frenin, Laïos, wedi'i ddal. Mae Oidipos yn addo dod o hyd i'r llofrudd ac yn ei felltithio am achosi'r pla.
Geilw Oidipos ar y proffwyd dall Teiresias am gymorth. Mae Teiresias yn cyfaddef ei fod yn gwybod yr atebion i gwestiynau Oidipos, ond mae'n gwrthod dadlenu, gan ddweud wrtho am roi'r gorau i'w chwiliad. Wedi'i gythruddo gan ateb y gweledydd, mae Oidipos yn ei gyhuddo o fod yn rhan o lofruddiaeth Laïos. Yna mae'r Teiresias sydd wedi'i dramgwyddo, yn datgelu i'r brenin mai "ti dy hun yw'r troseddwr yr wyt yn chwilio amdano". Nid yw Oidipos yn deall sut y gallai hyn fod, ac mae'n tybio bod Creon wedi talu Teiresias i'w gyhuddo. Mae'r ddau yn dadlau'n daer, wrth i Oidipos watwar diffyg golwg Teiresias, ac mae Teiresias yn ateb bod Oidipos ei hun yn ddall. Yn y pen draw, mae'r proffwyd yn gadael, gan fwmian pan ddarganfyddir y llofrudd, y bydd yn frodor o Thebai, yn frawd ac yn dad i'w blant ei hun, ac yn fab ac yn ŵr i'w fam ei hun.

Mae Creon yn cyrraedd i wynebu cyhuddiadau Oidipos. Mae'r Brenin yn mynnu bod Creon yn cael ei ddienyddio; fodd bynnag, mae'r côr yn ei berswadio i adael i Creon fyw. Mae Iocasta, gwraig cyntaf Laïos ac yna Oidipos, yn ceisio cysuro Oidipos, gan ddweud wrtho na ddylai gymryd sylw o broffwydi. Fel prawf, mae hi'n sôn am ddigwyddiad lle derbyniodd hi a Laïos gyngor oracl na ddaeth yn wir erioed. Nododd y broffwydoliaeth y byddai Laïos yn cael ei ladd gan ei fab ei hun; yn lle hynny, lladdwyd Laïos gan ladron, wrth fforch yn y ffordd (τριπλαῖς ἁμαξιτοῖς).
Mae sôn am y lle yn achosi i Oidipos oedi a gofyn am fwy o fanylion. Mae Iocasta yn nodi'r gyffordd ger Daulis ar y ffordd i Delffi. Gan gofio geiriau Teiresias, mae'n gofyn i Iocasta ddisgrifio Laïos. Yna mae'r brenin yn anfon am fugail, yr unig dyst sydd wedi goroesi o'r ymosodiad, i'w ddwyn o'i gaeau i'r palas.
Mae'r Iocasta ddryslyd yn gofyn i Oidipos beth sy'n ei boeni, ac mae ef yn cyfaddef wrthi'r stori canlynol: Flynyddoedd lawer yn ôl, mewn gwledd yng Nghorinth, cyhuddodd meddwyn ef o beidio bod yn fab i'w dad. Aeth Oidipos i Delphi a gofyn i'r oracl am ei linach. Yn lle ateb ei gwestiwn yn uniongyrchol, proffwydodd yr oracl y byddai'n llofruddio ei dad un diwrnod ac yn cysgu gyda'i fam. Ar ôl clywed hyn, penderfynodd Oidipos beidio byth â dychwelyd i Corinth. Yn ei deithiau, daeth i'r union groesffordd lle'r oedd Laïos wedi'i ladd, a daeth ar draws cerbyd a geisiodd ei yrru oddi ar y ffordd. Wedi dadl, lladdodd Oidipos y teithwyr—gan gynnwys dyn a oedd yn cyfateb i ddisgrifiad Iocasta o Laïos. Fodd bynnag, mae Oidipos yn dal i obeithio nad ef oedd llofrudd Laïos oherwydd dywedir bod Laïos wedi'i lofruddio gan sawl lleidr. Os bydd y bugail yn cadarnhau bod Laïos wedi'i ymosod gan lawer o ddynion, yna bydd Oidipos yn ddieuog o unrhyw amheuaeth.
Cyrhaedda'r dyn o Corinth gyda'r neges bod Polybus, a fagodd Oidipos fel mab iddo, wedi marw. Er syndod i'r negesydd, mae Oidipos wrth ei fodd, oherwydd na all ladd ei dad mwyach, gan wrthbrofi hanner proffwydoliaeth yr oracl. Fodd bynnag, mae'n dal i ofni y gallai rywsut gyflawni llosgach gyda'i fam. Yn awyddus i dawelu meddwl y brenin, mae'r negesydd yn dweud wrtho am beidio â phoeni, oherwydd nid Merope yw ei fam go iawn.
Mae'r negesydd yn egluro, flynyddoedd ynghynt, wrth ofalu am ei braidd ar Fynydd Cithaeron, fod bugail o deulu Laïos wedi dod â baban iddo, gyda'r cyfarwyddyd iddo ei waredu. Rhoddodd y negesydd y plentyn i Polybus, a'i magodd. Gofyna Oidipos wrth y corws a oes unrhyw un yn gwybod pwy yw'r bugail arall, neu ble y gallai fod?. Maent yn ymateb mai ef yw'r un bugail a welodd lofruddiaeth Laïos, ac yr oedd Oidipos eisoes wedi anfon amdano. Mae Iocasta, gan sylweddoli'r gwir, yn erfyn yn daer ar Oidipos i roi'r gorau i ofyn cwestiynau. Pan wrthoda Oidipos, mae'r frenhines yn dianc i'r palas.
Pan gyrhaedda'r bugail, mae Oidipos yn ei holi, ond mae'n erfyn am gael gadael heb ateb ymhellach. Fodd bynnag, mae Oidipos yn pwyso arno, gan ei fygwth yn y pen draw â phoenydio neu ddienyddio. Mae'n dod i'r amlwg mai mab Laïos ei hun oedd y plentyn a roddwyd i'w waredu. Mewn ofn o'r proffwydoliaeth y byddai'r plentyn yn lladd ei dad, rhoddodd Iocasta ei mab i'r bugail er mwyn ei adael ar ochr y mynydd.
O'r diwedd, datgelir popeth, ac mae Oidipos yn melltithio ei hun a thynged, cyn gadael y llwyfan. Mae'r corws yn galaru sut y gall hyd yn oed dyn o statws Oidipos gael ei ladd gan dynged. Daw gwas o'r palas i gyhoeddi bod Iocasta wedi crogi ei hun yn ei hystafell wely. Gan fynd i mewn i'r palas, geilw Oidipos ar ei weision i ddod â chleddyf iddo, fel y gallai ladd Iocasta â'i law ei hun. Ond ar ôl darganfod y frenhines ddifywyd, mae Oidipos yn ei chymryd i lawr, a thynnu'r pinnau aur hir o'i ffrog gan ddarnio a difa ei lygaid ei hun mewn anobaith.
Mae'r brenin dall bellach yn gadael y palas, ac yn erfyn am gael ei alltudio. Mae Creon yn dod i mewn, gan ddweud y dylid mynd ag Oidipos i'r tŷ nes y gellir ymgynghori ag oraclau ynghylch yr hyn sydd orau i'w wneud. Mae dwy ferch (a hanner chwiorydd) Oidipos, Antigone ac Isméne, yn cael eu hanfon allan ac mae Oidipos yn galaru am eu bod wedi cael eu geni i deulu mor felltithiedig. Mae'n erfyn ar Creon i wylio drostynt, yn y gobaith y byddant yn byw lle mae cyfle iddynt gael bywyd gwell na'u tad. Mae Creon yn cytuno, cyn anfon Oidipos yn ôl i'r palas.
Ar lwyfan gwag, mae'r corws yn ailadrodd y dywediad Groegaidd cyffredin "na ddylid ystyried unrhyw ddyn yn ffodus nes ei fod wedi marw."
Cyfieithiad Cymraeg
[golygu | golygu cod]Yn y Rhagair i gyhoeddiad Gwasg Prifysgol Cymru ym 1972, noda Euros Bowen ei fod wedi ei throsi, "fel roedd yn ymddangos yn briodol i mi, i Gymraeg heddiw [1972] ac mewn dull fyddai'n ateb i ystwythder llefaru dramatig".
Aeth yn ei flaen i ychwanegu, "Amcanwyd felly at drosiad rhithmig, ac fe wnaed llinell o bedwar curiad yn sylfaen i symudiad y dweud, ac amrywio honno wrth ofyn osgoadau meddwl a chyffro angerdd".[2]
Defnyddiodd Euros y testun a argraffwyd gan R. C. Jebb (1883 a 1897).
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]
Llwyfannwyd y cyfieithiad Cymraeg gyntaf gan "ddosbarth tiwtorial yn Y Bala" tua 1956-7, lle roedd Euros Bowen yn trafod llenyddiaeth Groeg.[2]

Cafwyd llwyfanniad gan Gwmni Theatr Cymru ym 1980 gyda Wilbert Lloyd Roberts yn cyfarwyddo. Cynllunydd Martin Morley; cynllunydd y Masgiau a Gwisgoedd Graham Gavin; cynllun goleuo Huw Roberts; cast:[3]
- Oidipos - John Ogwen
- Offeiriad Zews - Stewart Jones
- Creon - Wyn Bowen Harries
- Teiresias - W. H. Roberts
- Iocasta - Maureen Rhys
- Cennad o Gorinth - Dilwyn Young-Jones
- Bugail Laios - Grey Evans
- Corws - Gwen Ellis, Marion Fenner, Janet [Aethwy] Jones, Carys Llewelyn, Ifan Huw Dafydd, Rhys Parry Jones, Dafydd Davies a Gwyn Vaughan Jones.
Addasiadau
[golygu | golygu cod]Darlledwyd y ddrama gan Radio'r BBC yn Ionawr 1958.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ See Finglass, P. J. (2018) "Date of the First Performance, in Sophocles: Oedipus the King Cambridge. pp. 1–6. The prominence of the Theban plague at the play's opening suggests to some scholars a reference to the plague that devastated Athens in 430 BC, and hence a production date shortly thereafter. See, for example, Knox, Bernard (1956). "The Date of the Oedipus Tyrannus of Sophocles". American Journal of Philology 77 (2): 133–147. doi:10.2307/292475. JSTOR 292475.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Bowen, Euros (1972). Oidipos Frenin. Gwasg Prifysgol Cymru.
- ↑ Rhaglen Oidipos Frenin. Cwmni Theatr Cymru. 1980.