Og
Gwedd
| Math | offeryn trin y pridd |
|---|---|
| Dynodwyr | |
Teclyn amaethyddol ar ffrâm ac iddi ddannedd yw og neu oged[1]. Fe'i defnyddir er mwyn torri tywyrch, lladd chwyn, gorchuddio hadau â phridd ac ati.
Dannedd haearn neu bren oedd gan og yn draddodiadol, ond ceir fersiynau wedi eu mecaneiddio erbyn hyn.
Defnyddir y gair og yn Gymraeg hefyd yn drosiadol: gall gyfeirio at borthcwlis[1] mewn castell, neu at siap bigog:
"Bedwen mor foel â bidog / a masarn fel haearn og" - Gerallt Lloyd Owen
"Dreiniach, fal pigau draenog / hyd en ddu fal dannedd og"[2] - Goronwy Owen
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 og. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 3ydd Chwefror 2026.
- ↑ "Cywydd y Farf - Wicidestun". cy.wikisource.org. Cyrchwyd 2026-02-03.