Odliadur
Geiriadur odlau yw odliadur a ddefnyddir i gyfansoddi cerddi a chaneuon.
Un o'r odliaduron mwyaf diweddar yw'r 'Odliadur' gan Roy Stephens' (1978). O fewn y broliant, canodd T. Llew Jones:
- Odliadur di-ail ydyw
- Mawr ei werth i'r Cymry yw.
Hwn oedd yr odliadur cyntaf ers 'Geiriadur y Bardd' gan Cynddelw ym 1874 - yr odliadur Cymraeg cyntaf.[1] Yn 2008, cyhoeddwyd diweddariad , Yr Odliadur Newydd, sy'n cynnwys 5,000 yn fwy o eiriau na'r gyfrol gyntaf.
Odliaduron ar y we[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn Awst 2013 lansiodd y bardd Les Barker odliadur Cymraeg digidol a sgwennodd ar y cyd â Malcolm Weindling. Yn ogystal a darparu geiriau sy'n odli, mae hefyd yn darparu cyfieithiad o'r gair i'r Saesneg ac odlau Gwyddelig.