Oderzo

Oddi ar Wicipedia
Oderzo
Mathcymuned Edit this on Wikidata
PrifddinasOderzo Edit this on Wikidata
Poblogaeth20,016 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iSuffolk Edit this on Wikidata
NawddsantTitian of Oderzo, Mair Fadlen Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Treviso Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd42.35 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr14 ±1 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaFontanelle, Gorgo al Monticano, Ormelle, Ponte di Piave, Chiarano, Mansuè Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau45.7808°N 12.4928°E Edit this on Wikidata
Cod post31046 Edit this on Wikidata
Map

Tref a chymuned (comune) yn nhalaith Treviso, Veneto, yr Eidal ydy Oderzo. Mae'n eistedd yng nghanol y gwastadedd Fenisaidd, tua 66 km i'r gogledd ddwyrain o Fenis. Mae'r afon Monticano, is-afon y Livenza, yn llifo trwy Oderzo.

Mae'r centro storico, neu canol y dref, yn gyfoeth o olion archaeolegol sy'n rhoi mewnwelediad i hanes Oderzo fel croesffordd o bwys yn yr Ymerodraeth Rufeinig.

Adrannau Gwleidyddol[golygu | golygu cod]

Mae chwe maesdref neu frazioni yn amgylchynnu Oderzo, ac yn ffurfio hecsagon bron. Yn dechrau yn y gogledd gan ddilyn y cloc, dyma hwy:

  • Camino (tua 2,300 o drigolion)
  • Fratta (tua 1,000 o drigolion)
  • Piavon (tua 1,800 o drigolion)
  • Rustignè (tua 500 o drigolion)
  • Faè (850 o drigolion)
  • Colfrancui (1,400 o drigolion)

Hanes[golygu | golygu cod]

Cyfnod Fenisaidd[golygu | golygu cod]

Mae anheddiad cynharaf yr ardal yn dyddio'n ôl i Oes yr Haearn, tua'r 10g CC. Meddianwyd y safle gan y Feneti or 9g CC ymlaen, gan roi iddo ei enw. Mae geirdarddiad y "-terg-" yn Opitergium yn dod o'r enw gwraidd Feniseg sy'n cyfeirio at farchnad (yn debyg i Tergeste, hen enw Trieste). Roedd lleoliad Oderzo ar y gwastadedd Fenisaidd yn ei gwneud yn ddelfrydol fel canolfan masnach.

Olion plasdy Rhufeinig yn y Fforwm Rhufeinig

Rhufeinigeiddio[golygu | golygu cod]

Mae'n ymddangos yr oedd gan y Feneti o Oderzo berthynas cyfeillgar gyda'r Rhufeiniaid, a Rhufeinigeiddwyd y boblogaeth yn araf. Fe gynyddodd ffordd Via Postumia, a gwblhawyd yn 148 CC, bwysigrwydd Oderzo. Yn ystod y Rhyfel Cartref Rhufeinig, fe ymladdodd Caius Volteius Capito, canwriad a anwyd yn Oderzo, ar ochr Iwl Cesar yn erbyn Pompey.

Yn 48 CC, fe godwyd pwysigrwydd y dref i reng y municipium Rhufeinig a throsglwyddwyd ei drigolion yn aelodau o'r llwyth Rhufeinig, y Papiria. Ymgorfforwyd gwelliannau Augustus Oderzo yn y Regio X o Italia, Venetia et Histria. Roedd yr oes Rufeinig yn dyst i brosiectau adeiladu aruthrol gan gynnwys fforwm, basilica, teml a nifer o dai preifat.

Canol Oesoedd[golygu | golygu cod]

Yn ystod goresgyniadau y "barbariaid", fe anrheithwyd Oderzo gan y Marcomanni (167) tra, yn ôl y chwedl, fe guddiodd Attila drysor ym mhwll y dref. Cipwyd y dref gan yr Ymerodraeth Fysantaidd, a daeth yn sedd a ddeilwyd gan y Bysantiaid hyd ei ddinistriad gan y brenin Lombard, Grimoald yn 667. Fe ddihengodd nifer fawr o'r boblogaeth i dref gyfagos Heraclea, a oedd yn dal dan reolaeth Fysantaidd. Fe basiwyd y rhan fwyaf o'i thir i Iarll Ceneda.

Yn ôl traddodiad, daeth Doge cyntaf Fenis, Paolo Lucio Anafesto, o Oderzo. Tyfodd y dref unwaith eto o gwmpas castell o tua 1000, a gystadlwyd drosti rhwng esgobion Belluno a Ceneda, cymundod Treviso a da Camino ffiwdal (tarddiad enw castell Camino sy'n rhan o Oderzo heddiw) a teuluoedd da Romano tan iddo ddod i feddiant sefydlog Gweriniaeth Fenis yn 1380.

Yr oes gyfoes[golygu | golygu cod]

Ychwanegwyd Oderzo at Deyrnas yr Eidal yn 1866. Yn 1917, fe ddifrodwyd y dref yn dilyn yr ymlid Eidalaidd yn Caporetto, yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Roedd yng nghanol rhyfel cartref rhwng pyped Almaenaidd Gweriniaeth Salò a'r gwrthsafiad partisan yn 1943. Yn 1945, fe ddieinyddwyd 120 o bobl a'u drwgdybwyd o deyrngarwch i'r Weriniaeth (gweler Cyflafan Oderzo).

Llywodraethwyd y dref gan y Blaid Ddemocrataidd Gristnogol Eidalaidd o 1945 hyd 1993, a mwynhaodd ffyniant economaidd o nôd, a ddenodd mewnfudiad enfawr o ardaloedd de'r Eidal.

Prif nodweddion[golygu | golygu cod]

  • Yr olygfa yn y Piazza Grande
  • Duomo (Eglwys) St. Ioan y Pabydd, a ddechreuwyd yn yr 11g ar ben olion teml Rufeinig Mawrth, ac a ail-gysegrwyd yn 1535. Mae'r olwg Gothig-Rhufeinig gwreiddiol wedi cael ei newid gan has been modified by the subsequent adnewyddiadau ers hynnu. Mae'n cynnwys rhai gweithiau o nôd gan Pomponio Amalteo.
  • Ardal archeolegol y Fforwm Rhufeinig, sy'n cynnwys gweddillion y basilica a grisiau llydan.
  • Torresin (tŵr gwylio)
  • Palazzo Porcia e Brugnera y Dadeni.
  • Cyn-garcharoedd Porta Pretoria, mae'n cynnwys olioncarchar Canol-Oesol. Y carcharwr enwocaf oedd Sordello da Goito.

Yn frazione Colfrancui, mae'r Mutera dirgel, bryn ffug y Feneti Adriatig, a ddefnyddwyd yn debygol fel arsyllfa.

Cyfeilldrefi[golygu | golygu cod]

Mae gan Oderzo gyfeilldref:

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • G.B. Brisotto (1999). Guida di Oderzo

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]