Odd Man Out

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Poster ffilm Odd Man Out.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol ffilm Edit this on Wikidata
Lliw/iau du-a-gwyn, lliw Edit this on Wikidata
Gwlad y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Iaith Saesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi 1947 Edit this on Wikidata
Genre drama, film noir Edit this on Wikidata
Cyfansoddwr William Alwyn Edit this on Wikidata

Mae Odd Man Out yn ffilm noir Brydeinig o 1947 a gyfarwyddwyd gan Carol Reed, ac sy'n serennu James Mason, Robert Newton, Cyril Cusack, a Kathleen Ryan. Wedi'i leoli mewn dinas yng Ngogledd Iwerddon, mae'n dilyn arweinydd Cenedlaetholgar clwyfedig sy'n ceisio osgoi'r heddlu yn dilyn lladrad. Mae'n seiliedig ar nofel 1945 o'r un enw gan F L Green. [1]

Derbyniodd y ffilm Wobr BAFTA am y Ffilm Brydeinig Orau ym 1948. Fe'i henwebwyd ar gyfer gwobr y Llew Aur yng Ngŵyl Ffilm Fenis ym 1947, a'i enwebu am Oscar Golygu Ffilm Orau ym 1948.

Cast[golygu | golygu cod y dudalen]

  • James Mason fel Johnny McQueen
  • Kathleen Ryan fel Kathleen Sullivan
  • Robert Newton fel Lukey, yr arlunydd
  • Cyril Cusack fel Pat
  • F. J. McCormick fel Shell
  • William Hartnell fel Fencie y tafarnwr
  • Fay Compton fel Rosie
  • Denis O'Dea fel Arolygydd
  • W. G. Fay fel y Tad Tom
  • Maureen Delaney fel Theresa O’Brien
  • Elwyn Brook-Jones fel Tober
  • Robert Beatty fel Dennis
  • Dan O'Herlihy fel Nolan
  • Kitty Kirwan fel Nain
  • Mesyl Beryl fel Maudie
  • Roy Irving fel Murphy
  • Joseph Tomelty fel ‘Gin’ Jimmy, y gyrrwr tacsi

Plot[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae cyn-aelod o sefydliad cenedlaetholgar Gwyddelig, Johnny McQueen, wedi bod yn cuddio am chwe mis ers iddo ddianc o'r carchar yn tŷ Kathleen Sullivan (sydd wedi cwympo mewn cariad â fo) a'i nain. I gael arian, mae'n cael gorchymyn i ddwyn o felin cyfagos. Mae ei ddynion, fodd bynnag, yn cwestiynu ei addasrwydd ar gyfer y dasg. Maent wedi sylwi ar newid ynddo ers iddo ddianc, yn anad dim ei gred y gallai negodi gyflawni eu nod yn fwy effeithiol na thrais. Mae Dennis, rhaglaw Johnny, yn cynnig cymryd ei le, ond mae'n cael ei wrthod. [2]

Mae Johnny, Nolan, a Murphy yn llwyddo i gyflawni'r lladrad. Wrth i'r gang adael y felin a rhedeg i'r car dianc mae Johnny, yn cael ei herio gan ddyn diogelwch arfog, wrth iddyn nhw gwffio maent yn syrthio i'r llawr. Mae'r ddau yn cael eu saethu, Johnny yn ei ysgwydd a'r gard yn angheuol. Mae Nolan a Murphy yn rhedeg yn ôl i roi Johnny yn y car, ond mae'r gyrrwr, Pat, yn dechrau symud y car ar gyflymder cyn i Johnny llwyddo cael mynediad llwyr i'r cerbyd. Nid yw Pat yn arafu ac mae Johnny yn cwympo allan o'r car i'r stryd. Wrth i'r gang ddadlau dros yrru yn ôl i adfer Johnny, mae'n codi yn hollol ddryslyd ac yn rhedeg i lawr stryd ochr gyfagos, gan ddod o hyd i loches cyrch awyr gerllaw i guddio ynddo.

Mae Dennis yn gorchymyn i'r lleill i adrodd yn ôl i bencadlys y sefydliad. Ar hyd y ffordd, fodd bynnag, mae'r triawd yn ennyn amheuaeth yr heddlu, sydd allan mewn grym i chwilio am y lladron. Maent yn cael eu herlid, ond yn dianc. Mae Pat a Nolan yn stopio yng ngwesty Theresa O'Brien, ond nid yw Murphy yn ymddiried ynddi ac yn mynd i rywle arall. Mae Theresa yn riportio'r pâr i'r awdurdodau wrth iddyn nhw ymlacio ac yfed chwisgi. Mae Theresa yn eu hannog i adael y gwesty gan fod yr heddlu ar y ffordd, gan eu danfon yn syth i ddwylo'r heddlu. Mae'r ddau yn gweld yr heddlu ac yn saethu ar y cwnstabliaid sydd yn saethu'n ôl gan ladd y ddau ohonynt.

Mae Dennis yn dod o hyd i Johnny, ond mae'r heddlu'n arddangos gerllaw. Mae Dennis yn cael ei ddal ar ôl tynnu sylw ato'i hyn i ganiatáu i Johnny ffoi.

Mae Johnny yn gwneud ei ffordd tuag at gartref Kathleen, ond yn cwympo yn y stryd. Mae Maureen a Maudie yn mynd heibio yn mynd ag ef adref, gan feddwl ei fod wedi cael ei daro gan lori oedd yn mynd heibio. Maen nhw'n ceisio rhoi cymorth cyntaf iddo a chanfod ei fod wedi ei saethu. Gan sylweddoli pwy maen nhw wedi'i ddarganfod maent yn dechrau trafod be i wneud efo fo. Wrth i Johnny yn clywed eu trafodaeth mae'n penderfynu ymadael mewn tacsi sydd wedi parcio gerllaw. Mae "Gin" Jimmy, gyrrwr y tacsi, yn mynd i mewn i'w cerbyd ac yn dechrau chwilio am gwsmer, heb sylwi bod rhywun yn y tacsi'n barod. Pan mae'n sylwi bod ganddo deithiwr clwyfedig yng nghefn y cab, mae'n gollwng Johnny cyn gynted ag y gallai.

Mae Shell yn gweld Johnny, sydd bron yn anymwybodol bellach, yn cael ei ollwng o'r tacsi. Yn yr obaith o gael gwobr ariannol am ei weithred dda, mae Shell yn mynd at yr offeiriad Catholig, y Tad Tom, i son am y dyn truenus mae wedi gweld ar y stryd. Ar hap, mae Kathleen yn cyrraedd yn fuan wedi hynny, yn chwilio am help. Dywed y Tad Tom wrth Kathleen fod Johnny wedi lladd dyn a bod yn rhaid iddo dalu'r pris. Mae hi'n ateb y bydd hi'n ei ladd ei hun yn hytrach na gadael iddo gael ei gymryd a'i ddienyddio a bydd hi'n lladd ei hun hefyd. Mae'r offeiriad yn ceisio darbwyllo hi i beidio gwneud hynny. Yn y cyfamser, mae Johnny yn adfywio rhywfaint ac yn baglu i mewn i dafarn leol. Mae landlord y dafarn, Fencie, yn adnabod Johnny ac yn ei guddio mewn cwtsh fel na fydd neb yn ei weld. Wrth i Fencie feddwl am ffordd ddiogel o gael gwared ar Johnny heb i'r awdurdodau ei weld, mae Shell a Lukey yn cyrraedd y bar ac yn dechrau ymladd â'i gilydd. Mae Fencie yn cau'r dafarn am y noson ac yn perswadio Lukey i fynd â Johnny i ffwrdd mewn tacsi fel penyd am yr ymladd. Mae Lukey yn mynd â Johnny yn ôl i'w stiwdio i baentio ei bortread. Mae Tober, cyn myfyriwr meddygol sydd wedi methu ei arholiadau, yn trin clwyfau Johnny hyd eithaf ei allu.

Pan fydd arolygydd heddlu yn ymddangos i geisio cael gwybodaeth gan y Tad Tom, mae Kathleen yn llithro i ffwrdd. Mae hi'n trefnu lle ar long i Johnny ac yn mynd i chwilio amdano. Mae Shell yn penderfynu rhoi Johnny yng ngofal y Tad Tom. Wrth fynd tua'r eglwys maent yn dod ar draws Kathleen. Mae hi'n mynd â Johnny tuag at y llong ond yn gweld yr heddlu'n cau i mewn. Yna mae hi'n tynnu gwn allan ac yn tanio ddwywaith, mae'r heddlu yn tanio’n ôl gan ladd y ddau ohonynt.

Ffilmio[golygu | golygu cod y dudalen]

Y sinematograffydd oedd Robert Krasker, yn ei ffilm gyntaf ar gyfer y cyfarwyddwr Reed. Dyluniwyd y setiau goleuo a gan Ralph Brinton a Roger Furse .

Roedd set y bar wedi'i seilio ar the Crown Bar ym Melfast; [3] yn groes i rai ffynonellau, set stiwdio ydoedd a adeiladwyd yn y D&P Studios yn Denham, Swydd Buckingham, ac ni chafodd ei ffilmio yn y Crown go iawn. [4] Fodd bynnag, saethwyd llawer o'r ffilm ar leoliad. Saethwyd y golygfeydd allanol yng Ngorllewin Belffast, er i rai cael eu saethu ym Marchnad Broadway yn Llundain. [5]

Cerddoriaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfansoddwyd sgôr y ffilm gan y cerddor William Alwyn. Fe'i perfformiwyd gan Gerddorfa Symffoni Llundain o dan arweiniad Muir Mathieson.

Derbyniad[golygu | golygu cod y dudalen]

Sensoriaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Denodd diweddglo treisgar y ffilm feirniadaeth gan y sensor, a bu’n rhaid ei feddalu yn y ffilm orffenedig. [6]

Swyddfa docynnau[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn wythfed ymhlith ffilmiau mwyaf poblogaidd yn swyddfa docynnau Prydain ym 1947. [7]

Gwobrau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Crowther, Bosley (1947-04-24). "' Odd Man Out,' British Film in Which James Mason Again Is the Chief Menace, Has Its Premiere at Loew's Criterion". The New York Times. ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2020-12-28.
  2. "Odd Man Out - Film (Movie) Plot and Review - Publications". www.filmreference.com. Cyrchwyd 2020-12-28.
  3. "Crown Bar in Belfast says 'odd man, out' to Nigel Farage". the Guardian. 2014-05-14. Cyrchwyd 2020-12-28.
  4. 'BBC seeks stars of Belfast film noir', BBC News 23 February 2007
  5. 'Filming locations for Odd Man Out The Internet Movie Database
  6. Rogers, Steve. Soldier in the Snow: A Look at the Making of Odd Man Out, Its Key Players and Critical Recognition. (Network, 2006).
  7. "JAMES MASON 1947 FILM FAVOURITE". The Irish Times. Dulun, Iwerddon. 2 Ionawr, 1948. t. 7. Check date values in: |date= (help)

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Cronin, Paul, gol. (2005). Roman Polanski: Interviews. Jackson, Mississippi: University Press of Mississippi. ISBN 978-1-57806-800-5.Cronin, Paul, gol. (2005). Roman Polanski: Interviews. Jackson, Mississippi: University Press of Mississippi. ISBN 978-1-57806-800-5. Cronin, Paul, gol. (2005). Roman Polanski: Interviews. Jackson, Mississippi: University Press of Mississippi. ISBN 978-1-57806-800-5.
  • Moss, Robert F. (1987). The Films of Carol Reed. Dinas Efrog Newydd, Efrog Newydd: Columbia University Press. ISBN 978-0-231-05984-8.Moss, Robert F. (1987). The Films of Carol Reed. Dinas Efrog Newydd, Efrog Newydd: Columbia University Press. ISBN 978-0-231-05984-8. Moss, Robert F. (1987). The Films of Carol Reed. Dinas Efrog Newydd, Efrog Newydd: Columbia University Press. ISBN 978-0-231-05984-8.
  • Jerry Vermilye The Great British Films, Gwasg Citadel, 1978, tt. 106–109ISBN 0-8065-0661-X

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]