O'r Ddaear Hen
| Cyfarwyddwr | Wil Aaron |
|---|---|
| Cynhyrchydd | Gwilym Owen |
| Ysgrifennwr | Gwyn Thomas |
| Sinematograffeg | Graham Edgar |
| Golygydd | Lewis Fawcett |
| Sain | Gus Lloyd |
| Dylunio | |
| Cwmni cynhyrchu | Bwrdd Ffilmiau Cymraeg |
| Amser rhedeg | 50 munud |
| Gwlad | Cymru |
| Iaith | Cymraeg |
Mae O'r Ddaear Hen yn ffilm Gymraeg a ryddhawyd ym 1981 gan y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg. Cyfarwyddwr y ffilm oedd Wil Aaron a'r awdur oedd Yr Athro Gwyn Thomas.
Crynodeb
[golygu | golygu cod]Wrth i William Jones (Charles Williams) balu yng ngardd ei dŷ cyngor daw o hyd i ben carreg od yr olwg. Yn ystod y nos caiff ei wraig freuddwydion arswydus gan beri iddiorfodi i William symud y pen o’r tŷ. Yn ei dro aiff a’r pen i archeolgydd ym Mhrifysgol Bangor (Valerie Wynne-Williams) sy’n arbenigwr ar greiriau Celtaidd ac sy’n ceisio palu am olion y Celtiaid mewn man arall. Er mwyn ceisio deall beth yw’r pen aiff a fo adref gyda hi, ond i bethau ddechrau mynd o chwith yn y nos yno hefyd gan ddod â breuddwydion erchyll o greadur hanner dyn hanner anifail i wragedd y tŷ. Un wrth un caiff teulu'r archeolegydd eu arswydo gan arwain at angau ac aberth arall i dduwiau hynafol y Celtiaid.
Cast a chriw
[golygu | golygu cod]Prif gast
[golygu | golygu cod]- Valerie Wynne-Williams (Miriam Vaughan)
- J. O. Roberts (Arthur Vaughan)
- Bethan Jones (Anna Vaughan)
- Lindsay Evans (Alan Wyn)
- Charles Williams (William Jones)
- Elen Roger Jones (Jane Jones)
Cast cefnogol
[golygu | golygu cod]- Stewart Jones – Dyn yn y dafarn
- Clive Roberts – Plisman
- Rhannau eraill
- Fred Williams
- Jim Fieldsend
- Victor Tudor
- Alwyn Pleming
- Aelodau o Theatr Fach Llangefni
Cydnabyddiaethau eraill
[golygu | golygu cod]- Cynorthwywr camera – Kevin Duggan
- Cynorthwywr sain – Bob Webber
- Rheolwr cynhyrchu – Gwynfryn Roberts
- Coluro – Mary Hillman
- Cynorthwydd cynhyrchu – Shân Davies
Manylion technegol
[golygu | golygu cod]Fformat saethu: 16mm
Math o sain: Mono
Lliw: Lliw
Lleoliadau saethu: Prifysgol Bangor; Din Llugwy, Mon.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- David Berry, Wales and Cinema (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1994)
- ap Dyfrig, R., Jones, E. H. G., Jones, G. The Welsh Language in the Media Archifwyd 2011-06-11 yn y Peiriant Wayback (Aberystwyth: Mercator Media, Mercator Media Monographs, 2006)