Nyrsys (drama)
| Enghraifft o: | drama |
|---|---|
| Awdur | Bethan Marlow |
| Iaith | Cymraeg |
| Dechreuwyd | 2018 |
| Dynodwyr | |
Drama ferbatim i ddathlu penblwydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 70 oed yn 2018 yw Nyrsys o waith Bethan Marlow, gyda chaneuon wedi'u cyfansoddi gan Rhys Taylor.[1] Tarddodd y ddrama o syniad rhwng Bethan Marlow a'r cyfarwyddydd Sara Lloyd. Cipolwg ar brysurdeb dyddiol ward canser mewn ysbyty yng Nghymru yw bwriad y ddrama, gyda sgript a chaneuon wedi'u lunio o gyfweliadau â nyrsys go iawn.[1] "Mae'r ddrama newydd hon yn rhoi Ilwyfan i brofiadau nyrsys" yn ôl Theatr Genedlaethol Cymru a lwyfannodd y gwaith yn 2018, "...yr heriau maen nhw'n eu hwynebu yn eu gwaith o ddydd i ddydd, a'r direidi, y chwaergarwch, a'r teimlad o alwedigaeth sy'n eu cynnal."[1]
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd y cynhyrchiad am y tro cyntaf gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2018 mewn cydweithrediad â Pontio, ac daith rhwng Tachwedd – Rhagfyr 2018, o dan gyfarwyddyd Sara Lloyd.[2] Cynllunydd Set a Gwisgoedd Lucy Hall; Cynllunydd Goleuo Ceri James; Cynllunydd Sain Dyfan Jones; Cyfarwyddwr Cerdd Barnaby Southgate; Cyfarwyddwr Corfforol Eddie Ladd; Cyfarwyddwr Corfforol Cynorthwyol Deborah Light.
Roedd y cast yn cynnwys Carys Gwilym, Elain Lloyd, Mirain Haf Roberts, Mali Jones a Bethan Ellis Owen.[2]
Rhoddwyd gostyngiad o 10% oddi ar bris tocyn i weithwyr GIG.[2]
"Cyfres o fonologau wedi i’w cyfeirio at y gynulleidfa" a gafwyd, yn ôl yr adolygydd Sioned Young,[3] "Darn awr a hanner o hyd [...] gyda phum actores yn bywiogi’r llwyfan gyda’u geiriau’n seiliedig ar drafodaethau gyda nyrsys go iawn," ychwanegodd.[3]