Neidio i'r cynnwys

Nye (drama)

Oddi ar Wicipedia
Nye
Enghraifft o:drama lwyfan Saesneg
Dyddiad cynharaf2024
AwdurTim Price Edit this on Wikidata
GwladLloegr Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Drama lwyfan Saesneg gan y dramodydd o Gymru Tim Price yw Nye am fywyd Aneurin 'Nye' Bevan, sylfaenydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf yn Theatr Olivier y Theatr Genedlaethol Frenhinol, ar 24 Chwefror 2024, gyda Michael Sheen yn y brif ran ac wedi'i chyfarwyddo gan Rufus Norris. Roedd yn gyd-gynhyrchiad gyda Chanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd a lwyfannodd y cynhyrchiad rai misoedd wedyn. Darlledwyd y ddrama led-led y byd ar y 23 Ebrill 2024, drwy gyfrwng National Theatre Live.

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Aneurin 'Nye' Bevan
  • Jennie Lee
  • Mr Fury
  • Winston Churchill
  • Gwen Davies
  • Mr Orchard
  • Clerk
  • Ross Evans
  • David Bevan
  • Neville Chamberlain
  • Herbert Morrison
  • Neil Jones
  • Archie Lush
  • Matron
  • Clement Attlee
  • Nurse Ellie
  • Arianwen
  • Doctor Dain
  • Owen Thomas
  • Councillor Morgan
  • Dr Frankel
  • Lucy Pritchard
  • Dyfan Williams
  • Councillor Williams
  • Speaker
  • Mrs Jones
  • Mark Smith
  • Mr Leslie
  • David Bevan (dad)
  • Councillor Hopkins
  • William Jones
  • Mr Llywelyn
  • Jack Stockton
  • Sarah Roberts
  • Mrs Lewis

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan y Theatr Genedlaethol Frenhinol ar y cyd â Canolfan Mileniwm Cymru yn 2024 o dan gyfarwyddyd Rufus Norris; cynllunydd set Vicki Mortimer; cynllunydd gwisgoedd Kinnetia Isidore; goleuo Paule Constable, gyda'r cast canlynol: Gabriel Akamo, Remy Beasley, Matthew Bulgo, Jacob Coleman, Ross Foley, Jon Furlong, Daniel Hawksford, Jason Hughes, Stephanie Jacob, Kezrena James, Tony Jayawardena, Michael Keane, Nicholas Khan, Rebecca Killick, Joshua McCord, Hannah McPake, Mark Matthews, Rhodri Meilir, Ashley Mejri, Lee Mengo, Mali O'Donnell, Sara Otung, Michael Sheen, Sharon Small, Gareth Tempest[1]

Wrth adolygu'r ddrama yn y New Statesman, canmolodd Andrew Marr allu rhyfeddol Sheen i drawsnewid "from stuttering schoolboy (the Bevan stutter is superbly realised) to irresistible lover; wily political manipulator to tormented, dying patient at extraordinary speed, without missing a footstep".[2] Nododd Marr hefyd bod y ddrama o reidrwydd yn hepgor llawer o ddigwyddiadau pwysig ym mywyd Bevan er mwyn gwneud sylwebaeth ddofn ac effeithiol, ar yr angen am y GIG, a llwyddodd y cyfarwyddwr Rufus Norris a'r dramodydd Tim Price i greu portread "well-explained" a chyffrous o waddol Bevan yn lle dim ond stori am addoli arwyr.[2]

Disgrifiodd Arifa Akbar o The Guardian Nye fel "a vital play because Bevan is a vital man of British history. It succeeds in showing us just how high the hurdles he faced were," gan nodi bod Sheen wedi'i gastio'n dda am ei swyn naturiol, a bod ei bortread "brings a curious fey playfulness and vulnerability", ac eto'n beirniadu'r cynhyrchiad am fod yn "rhy lawn, ond eto'n rhy syml" yn ei ddull naratif.[3]

Yn ei hadolygiad ar gyfer The Observer, disgrifiodd y beirniad theatr Susannah Clapp Nye fel "fevered dream", gan dynnu sylw at y defnydd o rithwelediadau ac ôl-fflachiadau i adrodd bywyd Bevan a sefydlu'r GIG. Er bod perfformiad Sheen yn cael ei ganmol fel un "fiery but not indulgent, putting across the power of the man and his purring, self-mocking humour", mae'r cynhyrchiad yn cael ei feirniadu am fod yn rhy addysgiadol ac yn brin o ddyfnder dramatig.[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Nye | National Theatre". www.nationaltheatre.org.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-03.
  2. 1 2 Marr, Andrew (2024-03-08). "Michael Sheen is remarkable in the National Theatre's Nye". New Statesman (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-03.
  3. Akbar, Arifa (2024-03-07). "Nye review – Michael Sheen looks back at the difficult birth of the NHS". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2026-07-03.
  4. Clapp, Susannah (2024-03-10). "The week in theatre: Nye; The Lonely Londoners; Hadestown – review". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2026-07-03.