Neidio i'r cynnwys

Noson yr Heliwr (ffilm)

Oddi ar Wicipedia
Noson yr Heliwr
Enghraifft o:ffilm Gymraeg
Dyddiad cynharaf1991
GolygyddMali Evans
GwladCymru Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi25 Rhagfyr 1991 Edit this on Wikidata
Mathffilm
DarlunyddGerald Murphy
Genreffilm
Hyd97 munud
Cyfarwyddwr/wyrPeter Edwards
Cynhyrchydd/wyrPeter Edwards, Dafydd Huw Williams a Brian Harris
Cwmni cynhyrchuLluniau Lliw Cyf.
CyfansoddwrMark Thomas
DosbarthyddS4C
Iaith wreiddiolCymraeg Edit this on Wikidata
SinematograffyddDaf Hobson
Dynodwyr

Ffilm a gomisiynwyd gan S4C ym 1991 yw Noson yr Heliwr ac a gynhyrchwyd yn y Gymraeg a'r Saesneg, gefn-wrth-gefn gan Lluniau Lliw Cyf. A Mind to Kill yw enw'r fersiwn Saesneg, ac esgorodd y ffilm ar nofel a 4 cyfres ddrama deledu lwyddianus. Ar gyfer y cyfresi a ddarlledwyd gyntaf yn Gymraeg ar S4C, talfyrwyd yr enw i Heliwr. Siôn Eirian a Lyn Ebenezer oedd yn gyfrifol am y sgript, gyda Peter Edwards yn cynhyrchu a chyfarwyddo. Er na enwir y dref glan môr sydd yn y stori, [sydd â choleg-ger-y-lli], ffilmiwyd y cyfan yn Aberystwyth, ac fe ddiolchir i'r holl drigolion ar ddiwedd y ffilm.

Disgrifiad

[golygu | golygu cod]

Dilyn yr Heddlu a'r "D. C. Noel Bain" wna'r ffilm, wrth iddynt geisio datrys cyfres o lofruddiaethau mewn tref golegol yng Nghymru. Caiff Bain gymorth gan yr awdur a'r darlithydd "Gareth D. Lewis", sydd wedi astudio a chyhoeddi sawl cyfrol am lofruddwyr a'u meddylfryd. Ond mae'r gwaith yn gwrthdaro gyda bywyd personol a theuluol y ddau, gyda chanlyniadau trasig.

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Mewn cyfweliad teledu ar y gyfres Heno ym 1991, nododd yr actor Hywel Bennett bod y ffilm a'r cymeriad Gareth D. Lewis wedi'i greu ar ei gyfer ef, gan Siôn Eirian.[1]

Yn ei hail-hunangofiant, Actores a Mam [Lolfa 2023] noda Sharon Morgan bod gan ei hasiant ei "amheuon" ynghylch y syniad o gynhyrchu ffilm gefn-wrth-gefn yn y Gymraeg a'r Saesneg. "Allai neb fod wedi rhagweld llwyddiant ysgubol y syniad ar y pryd", ychwanega Sharon, "a dwi'n falch 'mod i wedi dilyn fy ngreddf a derbyn y gwaith", meddai.[2]

Ond fel yr eglura Sharon, a fu'n rhan o'r ffilm a'r cyfresi a ddilynodd, enw gwrywaidd [Leonard] oedd yn y sgript wreiddiol, sef "rhan y patholegydd fforensig sy'n greiddiol i bob cyfres dditectif wrth drafod achos marwolaeth ac yn bwysicach na dim, ei amseriad". Roedd hi'n "ddryslyd", ond wedi galwad ffôn gan Peter Edwards "yn esbonio newid rhyw y cymeriad yn dilyn sylw Llinos Wyn Jones, yr oruchwylwraig sgript, bod angen menyw gref fel gwrthbwynt i'r ffaith fod cymaint o fenywod yn y ffilm yn cael ei cam-drin a'i lladd", derbyniodd y rhan.[2] Treuliodd gyfnodau gyda'r patholegydd Dr Stephen Leadbetter "yn trafod, yn gofyn cwestiynau ac yn gwrando arno'n rhoi tystiolaeth i'r llys".[2]

Cynhyrchu

[golygu | golygu cod]
  • Gwisgoedd - Pamela Moore
  • Colur - Carole Williams
  • Cynlluydd - Gerald Murphy

Nododd Sharon Morgan mai darllen "llawer o'i eiriau oddi ar fwrdd du mawr" y bu Hywel Bennett, ar gyfer y fersiwn Gymraeg o'r ffilm.[2] Cyflogwyd aml i actor tebyg iddo, "oherwydd yr ysfa i godi proffil y tu allan i Gymru".[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (yn cy) 1.7K views · 11 reactions | Noson yr Heliwr - yn serennu Hywel Bennett a Philip Madoc! 🤩 Ac ambell i wyneb cyfarwydd arall! 👀 📺 Heno Aur 📆 Nos Fercher | Wednesday 🕗 20.00 S4C | Heno S4C, https://www.facebook.com/reel/775852493245479/, adalwyd 2025-10-24
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Morgan, Sharon (2023). Actores a Mam. Y Lolfa.