North and South

Oddi ar Wicipedia
North and South
Wynebddalen yr argraffiad 1af
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurElizabeth Gaskell
CyhoeddwrChapman and Hall Edit this on Wikidata
GwladDeyrnas Unedig
IaithSaesneg
Dyddiad cyhoeddi1855 Edit this on Wikidata
GenreFfuglen, Nofel
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Nofel gymdeithasol yw North and South a gyhoeddwyd ym 1854 gan yr awdur Saesneg Elizabeth Gaskell. Ynghyd â Wives and Daughters (1865) a Cranford (1853), mae'n un o'i nofelau mwyaf adnabyddus.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Mae North and South yn defnyddio prif gymeriad o dde Lloegr i gyflwyno a rhoi sylwadau ar safbwyntiau perchnogion melinau a gweithwyr mewn dinas ddiwydiannol. Mae'r nofel wedi'i lleoli yn nhref ddiwydiannol ffug Milton yng ngogledd Lloegr. Wedi'i gorfodi i adael ei chartref yn y de tawel, gwledig, mae Margaret Hale yn ymgartrefu gyda'i rhieni yn Milton. Mae hi'n dyst i'r byd creulon a achoswyd gan y Chwyldro Diwydiannol, gan weld cyflogwyr a gweithwyr yn gwrthdaro yn y streiciau cyntaf. Yn cydymdeimlo â'r tlawd (y mae hi'n edmygu eu dewrder a'u dycnwch ac yn gwneud ffrindiau gyda rhai ohonynt). Mae Margaret yn gwrthdaro â John Thornton, perchennog melin gotwm newydd cyfoethog sy'n ddirmygus o'i weithwyr. Mae'r nofel yn olrhain ei dealltwriaeth gynyddol o gymhlethdod cysylltiadau llafur a'u dylanwad ar berchnogion melinau ystyrlon a'i pherthynas anghyson â John Thornton. Seiliodd Gaskell ei darlun o Milton ar Fanceinion,[1] lle bu’n byw fel gwraig gweinidog Undodaidd.[2]

Plot[golygu | golygu cod]

Bu Margaret Hale, deunaw oed, yn byw am bron i 10 mlynedd yn Llundain gyda'i chyfnither Edith a'i Modryb Shaw gyfoethog. Pan fydd Edith yn priodi'r Capten Lennox, mae Margaret yn dychwelyd i'w chartref teuluol ym mhentref Helstone (Hellys, Cernyw). Mae Margaret wedi gwrthod cynnig o briodas gan frawd y capten, Henry, bargyfreithiwr newydd. Mae ei bywyd yn newid pan fydd ei thad, y rheithor lleol, yn gadael Eglwys Loegr a rheithordy Hellys oherwydd mater o gydwybod. Mae ei onestrwydd deallusol wedi ei wneud yn anghydffurfiwr. Ar awgrym Mr Bell, ei hen ffrind o Rydychen, mae'n ymgartrefu gyda'i wraig a'i ferch yn Milton-Northern (lle cafodd Mr Bell ei eni a lle mae'n berchen ar eiddo). Mae'r dref ddiwydiannol yn Darkshire (rhanbarth sy'n cynhyrchu tecstilau) yn cynhyrchu cotwm ac mae yng nghanol y Chwyldro Diwydiannol. Mae meistri a'r gweithwyr y dref mewn anghydfod diwydiannol.[3]

I ddechrau, mae Margaret yn cael tref brysur, fyglyd Milton fel lle garw a rhyfedd. Mae ei thlodi yn ei ffieiddio. Mae Mr Hale yn ategu at ei gyflog pitw fel gweinidog trwy weithio fel tiwtor. Un o'i ddisgyblion yw'r perchennog gwaith cotwm cyfoethog a dylanwadol, John Thornton, meistr Melin Marlborough. O'r cychwyn cyntaf, mae Margaret a Thornton yn groes i'w gilydd; mae hi'n ei weld yn un bras ac anniogel, ac ef yn ei gweld hi'n haerllug. Mae John yn cael ei ddenu at harddwch a hunan sicrwydd Margaret, fodd bynnag, ac mae hi'n dechrau edmygu'r ffordd mae John wedi codi ei hun o dlodi.[4]

Yn ystod y 18 mis y mae Margaret eu treulio yn Milton, mae hi'n dysgu gwerthfawrogi'r ddinas a'i phobl sy'n gweithio'n galed, yn enwedig Nicholas Higgins (cynrychiolydd undeb) a'i ferch Bessy, y mae'n dod yn gyfeillgar â hi. Mae Bessy yn sâl gyda bysinosis clefyd yr ysgyfaint sy'n cael ei achosi trwy anadlu llwch cotwm. Mae'r clefyd yn lladd Bessy yn y pen draw.

Mae'r gweithwyr ym melin John Thornton yn mynd ar streic. Mae Thornton yn cael pobl i fudo o'r Iwerddon i lenwi eu swyddi. Mae ei weithwyr gwreiddiol yn cythruddo ac yn ymosod ar ei gartref a'i ffatri. Mae'n anfon am filwyr, ond cyn iddyn nhw gyrraedd, mae Margaret yn ei annog i siarad â'r dorf i geisio osgoi tywallt gwaed mae o'n cytuno. Pan ymddengys ei fod mewn perygl, mae Margaret yn rhuthro allan ac yn ceisio ei amddiffyn. Mae hi'n cael ei tharo gan garreg. Mae'r dorf yn gwasgaru, ac mae John yn cario Margaret, sy'n anymwybodol, y tu mewn. Mae John yn credu bod bodlonrwydd Margaret i roi ei hun mewn perygl i'w amddiffyn yn arwydd o serch ac yn gofyn iddi ei briodi. Mae hin ymwrthod a'r cynnig gan ffieiddio mam John, sy'n credu ei bod hi'n uchel ael a snobyddlyd.

Mae brawd Margaret, Frederick (sy'n byw'n alltud gan ei fod ar ffo am ei ran mewn gwrthryfel llyngesol) yn ymweld yn gyfrinachol â'u mam sy'n marw. Mae Thornton yn gweld Margaret a Frederick gyda'i gilydd ac yn tybio mai ef yw ei chariad. Yn ddiweddarach, mae Leonards, cyd-longwr Frederick, yn adnabod Frederick yn yr orsaf reilffordd. Maen nhw'n dadlau. Mae Frederick yn gwthio Leonards i ffwrdd, ac mae Leonards yn marw yn fuan wedi hynny. Pan fydd yr heddlu'n holi Margaret am y ffrae mae'n dweud celwydd gan ddweud nad oedd hi'n bresennol. Mae Thornton yn gwybod bod Margaret yn dweud celwydd, ond yn rhinwedd ei swydd fel ynad yn datgan bod yr achos ar gau rhag iddi gael ei chyhuddo o anudoniaeth bosibl. Mae Margaret yn wylaidd gan ei weithred ar ei rhan; nid yw hi bellach dim ond yn edrych i lawr ar Thornton fel meistr caled, mae'n dechrau cydnabod bod mwy o ddyfnder yn ei gymeriad.

Mae Nicholas Higgins, yr undebwr, ar anogaeth Margaret, yn mynd at Thornton i ymofyn am swydd. Mae'n cael y swydd ac mae Thornton a Higgins yn dysgu gwerthfawrogi a deall ei gilydd.

Mae Mr Hale, tad Margaret, yn ymweld â'i hen ffrind, Mr Bell, yn Rhydychen. Mae'n marw yno, ac mae Margaret yn dychwelyd i fyw i Lundain gyda'i Modryb Shaw. Mae hi'n ymweld â Helstone gyda Mr Bell ac yn gofyn iddo ddweud wrth Thornton am Frederick, ond mae Mr Bell yn marw cyn y gall wneud hynny. Mae'n gadael etifeddiaeth i Margaret sy'n cynnwys Marlborough Mills a thŷ Thornton, sydd yn eiddo iddo ef ac yn cael eu rhentu gan Thornton .

Mae Thornton yn wynebu methdaliad oherwydd amrywiadau yn y farchnad gotwm a'r streic. Mae'n dysgu'r gwir am frawd Margaret gan Nicholas Higgins, ac yn dod i Lundain i setlo ei faterion busnes gyda Margaret, ei landlord newydd. Pan fydd Margaret yn cynnig benthyciad o'i harian i Thornton, mae'n sylweddoli bod ei theimladau tuag ato wedi newid, ac mae cynnig ei phriodi eto. Gan ei bod hi bellach wedi dysgu ei garu, mae'n derbyn y cynnig.

Cymeriadau[golygu | golygu cod]

  • Margaret Hale : Y prif gymeriad, mae hi'n falch ac yn galonnog ac yn hoff iawn o'i rhieni (yn enwedig ei thad). Mae hi'n 18 oed ar ddechrau'r stori, cyn iddi ddychwelyd i Helstone, ac mae wedi bod yn byw yn bennaf gyda'i modryb (Mrs Shaw) a'i chyfnither Edith yn Llundain ers pan oedd hi'n naw oed.
  • John Thornton: Perchennog melin leol, ffrind a myfyriwr i dad Margaret sydd â theimladau serchus tuag at Margaret.
  • Nicholas Higgins: Gweithiwr diwydiannol y mae Margaret yn ffrind iddo. Mae ganddo ddwy ferch, Bessy a Mary.
  • Hannah Thornton: Mam John Thornton, sy'n meddwl y byd o'i fab ac yn casáu Margaret (yn enwedig ar ôl i Margaret wrthod ei gynnig o briodas).
  • Fanny Thornton: Chwaer iau John.
  • Bessy Higgins: Merch Nicholas Higgins, sy'n angheuol sâl o ganlyniad i weithio yn y melinau.
  • Mary Higgins: Merch ieuengaf Nicholas Higgins.
  • John Boucher: Gweithiwr a thad i chwech o blant, sydd â theimladau cymysg am y streic.
  • Richard Hale: Tad Margaret, ymneilltuwr sy'n gadael ei ficerdy yn Helstone i weithio fel tiwtor preifat yn Milton.
  • Maria Hale: Mam Margaret, o deulu parchus yn Llundain. Yn Helstone mae hi'n aml yn cwyno bod yr awyr yn rhy laith ac yn "ymlaciol", ac nid yn dda i'w hiechyd.
  • Dixon: Morwyn y teulu Hale, a wasanaethodd Maria Hale cyn ei phriodas ac sy'n driw iddi. Mae Dixon yn anghymeradwyo priodas Maria a Richard Hale gan ei fod o ddosbarth is na hi, ac yn ystyried priodas ei meistres fel cwymp cymdeithasol.
  • Mr Bell: Hen ffrind i Richard Hale a thad bedydd i Margaret.
  • Mrs Shaw: modryb Margaret, mam Edith, a chwaer Maria Hale. Gweddw'r Cadfridog Shaw, mae hi'n byw yn Harley Street yn Llundain. Er ei bod yn gefnog o'i chymharu â Maria, mae hi'n credu ei bod yn llai ffodus gan na phriododd am gariad.
  • Edith: Cyfnither dlos Margaret, sy'n ddeallusol israddol iddi, efo gallu meddyliol gwan, yn ddiniwed ac wedi'i difetha fel plentyn. Mae hi'n gweld Margaret fel chwaer annwyl. Mae hi'n priodi'r Capten Lennox yn gynnar yn y stori.
  • Henry Lennox: Cyfreithiwr ifanc a brawd Capten Lennox. Yn ofalus ac yn ddeallus, mae'n caru Margaret ac yn ei hystyried yn "frenhines". Mae Margaret yn ei ystyried yn ffrind, ac yn ei geryddu am ei ddiddordeb rhamantus a hi yn gynnar yn y stori.
  • Frederick Hale: Brawd hŷn Margaret, sy'n byw ar ffo yn Sbaen ers iddo ymwneud â gwrthryfel wrth wasanaethu o dan swyddog creulon yn y Llynges Brydeinig.
  • Leonards: Cyd-forwr Frederick, na wnaeth wrthryfela ac sydd am droi Frederick i mewn am wobr ariannol.

Addasiadau[golygu | golygu cod]

Yn yr addasiad teledu cyntaf (ym 1966), chwaraeodd Richard Leech Mr Thornton a chwaraeodd Wendy Williams Margaret Hale.

Yn yr ail addasiad teledu (ym 1975), chwaraeodd Patrick Stewart Mr Thornton a chwaraeodd Rosalind Shanks Margaret Hale. Chwaraeodd Tim Pigott-Smith, rhan Frederick Hale yn addasiad 1975 a Mr Hale [5] (ei dad) yn fersiwn 2004.

Yn 2004 darlledodd y BBC North & South, fel cyfres pedair pennod gyda Daniela Denby-Ashe a Richard Armitage yn y rolau arweiniol.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gaskell, Elizabeth Cleghorn (1995). Ingham, Patricia (gol.). Cyflwyniad i fersiwn 1995 Penguin i North and south. Ingham, Patricia,. Llundain: Penguin. ISBN 0-14-043424-0. OCLC 34282246.CS1 maint: extra punctuation (link)
  2. "Gaskell [née Stevenson], Elizabeth Cleghorn (1810–1865), novelist and short-story writer | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-10434. Cyrchwyd 2020-01-14.
  3. Gaskell, Elizabeth Cleghorn (1934). North and South. Copi rad ar internet archive: London : Oxford University Press.
  4. Matus, Jill L (2007). The Cambridge companion to Elizabeth Gaskell (arg. 1af). Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt. ISBN 0-521-84676-5. OCLC 70831051.
  5. Teledu, IMDb. "North and South 1985". Cyrchwyd 14 Ionawr 2014.
  6. IMDb, North & South 2004, http://www.imdb.com/title/tt0417349/, adalwyd 2020-01-14