NorrlandsOperan

Oddi ar Wicipedia

Cwmni opera Swedeg yw NorrlandsOperan (yn llythrennol: Opera'r Norrland) a leolir yn Umeå, Norrland, Sweden.

NorrlandsOperan yn Umeå

Cyfleusterau[golygu | golygu cod]

Mae'r canlynol ar gael i'w llogi:

  • Teatern (y Theatr): 470 o seddi
  • Konsertsalen (Neuadd Gyngherdd): 569 o seddi
  • Y Blwch Du: hyd at 260 o seddi
  • B-salen (Neuadd): hyd at 64 o seddi (defnyddir fel arfer ar gyfer sioeau i blant)

Yn yr adeilad mae hefyd y Vita kuben (y Ciwb Gwyn) sy'n cynnal arddangosfeydd celf cyfoes. Ym 1984, cymerodd NorrlandsOperan drosodd hen orsaf dân yn Umeå, a adeiladwyd yn wreiddiol ym 1937. Ar ôl llawer o waith adfer, agorodd y lle yn 2002, gyda theatr a neuadd gyngherdd newydd, wedi'u cyfuno gyda'r hen dŷ opera. Cafodd neuadd ymgynull newydd ei chreu ychydig ar ôl hynny.

Mae ei gyfarwyddwyr celf yn y gorffennol wedi cynnwys Magnus Aspegren ac mae ei gyfarwyddwyr cerddorol wedi cynnwys Roy Goodman (1995-2001), Kristian Järvi (2000-2004)ac Andrea Quinn (2005-2009).