Neidio i'r cynnwys

Non Evans

Oddi ar Wicipedia
Non Evans
Ganwyd20 Mehefin 1974 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethjwdöwr, chwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol merched Cymru Edit this on Wikidata
SafleCefnwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Athletwraig a chwaraewraig o Gymru yw Non Evans MBE (ganwyd 20 Mehefin 1974) [1][2] sydd wedi cystadlu'n rhyngwladol mewn pedair camp gwahanol - rygbi undeb, jiwdo, codi pwysau a reslo rhydd.[3]

Gyrfa chwaraeon

[golygu | golygu cod]
Nicole Beck yn cymryd ergyd oddi wrth Non Evans, wrth iddi sgorio cais i'r Aussies yn erbyn Cymru yn 2010

Chwaraeodd Evans am y tro cyntaf i Gymru yn erbyn yr Alban ym 1996 a chwaraeodd 84 gwaith ar gyfer ei gwlad hyd at ddechrau Cwpan Rygbi'r Byd 2010 (87 cap yn dilyn Cwpan y Byd). Hi yw'r sgoriwr pwyntiau uchaf yng Nghymru a'r byd.

Cyhoeddodd ei bod wedi ymddeol o Rygbi Rhyngwladol ym mis Rhagfyr 2010. Sgoriodd 64 o geisiadau rhyngwladol i Gymru, sef record byd ar gyfer rygbi Dynion a Merched.

Enillodd fedal arian ym Mhencampwriaethau Jiwdo'r Gymanwlad yn 1992 a 1996 a chystadlodd dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2002 .

Codi Pwysau

[golygu | golygu cod]

Gorffennodd Evans yn 9fed o dan 63 kg yng Ngemau'r Gymanwlad 2002 lle daeth y ferch gyntaf i gystadlu mewn dau gamp yn yr un Gemau.

Yn 2010, fe'i rhoddwyd yn 2il yn y dosbarth dan-59 kg ym Mhencampwriaethau Prydain ac fe'i dewiswyd i ymuno â thîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad yn 2010. Hi oedd y ferch gyntaf i gystadlu mewn tair camp yng Ngemau'r Gymanwlad.[4] Yn 2012, roedd Evans yn sylwebydd ar y BBC yng nghystadlaethau codi pwysau a reslo Gemau Olympaidd Llundain.

Gladiators (1997)

[golygu | golygu cod]

Yn 1997 cystadlodd Evans yn chweched cyfres y rhaglen deledu Gladiators ond cafodd ei gorchfygu cyn y rownd gogynderfynol oherwydd penderfyniad gan y dyfarnwr John Anderson [5]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Yn 2019 dywedodd ei bod wedi dioddef o iselder ar ôl ymddeol o fyd chwaraeon, heb unrhyw byd i anelu eto. Symudodd o Gaerdydd nôl i'w chynefin a chychwyn fel hyfforddwr ffitrwydd personol.[6] Yng Ngorffennaf 2020 ysgrifennodd neges ar Twitter yn dweud ei bod yn hoyw a'i bod wedi aros 30 mlynedd cyn medru dweud hynny.[7]

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]

Penodwyd Evans yn Aelod o Orchymyn Ymerodraeth Brydeinig (MBE) yn Anrhydeddau Pen-blwydd 2011 am wasanaethau i chwaraeon, a dyma'r chwaraewr rygbi benywaidd cyntaf erioed i dderbyn y wobr.[8]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. [1][dolen farw]
  2. Western Mail 29 Mehefin 2014 Mae Non Evans yn lân - 40 ac yn falch ohoni! [2]
  3. "BBC Sport - Wrestling - Non Evans wants Commonwealth Games wrestling spot". news.bbc.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-08-21.
  4. Lloyd, Matt (2010-07-17). "Non Evans makes Commonwealth Games history". Express.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-08-21.
  5. "Non Evans". IMDb. Cyrchwyd 2017-08-21.
  6. The emptiness felt by this remarkable Welsh sportswoman after a life in the spotlight stopped , WalesOnline, 18 Mai 2019. Cyrchwyd ar 14 Gorffennaf 2020.
  7. @NonEvans (14 Gorffennaf 2020). "Please don't judge me I am Gay. Sorry taken me 30 years to say that x" (Trydariad). Cyrchwyd 14 Gorffennaf 2020 – drwy Twitter.
  8. London Gazette: (Supplement) no. 59808. p. 16. 11 Mehefin 2011.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]