Noel Kinsey

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Noel Kinsey
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnNoel Kinsey[1]
Dyddiad geni(1925-12-24)24 Rhagfyr 1925[1]
Man geniTreorci, Morgannwg[1]
Dyddiad marw20 Mai 2017(2017-05-20) (91 oed)[2]
SafleBlaenwr
Gyrfa Ieuenctid
Amaturiaid Treorci
C.P.D. Dinas Caerdydd
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
1947–1953Norwich City F.C.223(57)
1953–1958Birmingham City F.C.149(48)
1958–1961Port Vale F.C.72(6)
Cyfanswm444(111)
Tîm Cenedlaethol
1951–1955Cymru7(0)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).

Roedd Noel Kinsey (24 Rhagfyr 1925 - 20 Mai 2017) yn chwaraewr pêl-droed rhyngwladol dros Gymru a chwaraeodd yn safle'r mewnwr. Enillodd saith cap rhyngwladol a sgoriodd 111 o goliau mewn 444 o gemau cynghrair mewn gyrfa 14 mlynedd yng Nghynghrair Pêl-droed Lloegr.[1]

Dechreuodd ei yrfa gyda Norwich City yn 1947, gan helpu'r "Canaries" i gyrraedd yr ail safle yn Trydedd Adran y De ym 1950-51. Trosglwyddodd i Birmingham City ym 1953, gan helpu'r clwb i deitl yr Ail Adran ym 1954-55. Sgoriodd yn rownd derfynol Cwpan yr FA 1956, a ddaeth i ben gyda'i dîm yn colli 3-1 i Manchester City. Ym mis Chwefror 1958 fe'i harwyddwyd i Port Vale am ffi o £ 5,000, a helpodd y "Valiants" i enill teitl y Bedwaredd Adran ym 1958-59. Daeth yn hyfforddwr chwaraewr yn Vale Park ym mis Mai 1960, cyn ymadael ym mis Ebrill 1962. Yn ddiweddarach fe chwaraeodd ar gyfer yr ochrau di gynghrair King's Lynn a Lowestoft Town, a bu'n gweithio i gwmni yswiriant Norwich Union.

Cafodd ei urddo'n aelod o Oriel Anfarwolion Norwich City F.C. yn 2003.[3]

Gyrfa ryngwladol[golygu | golygu cod y dudalen]

Enillodd Kinsey saith cap dros Gymru rhwng 1951 a 1955. Roedd yn aelod o'r tîm cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd 1954, gan chwarae yn y gêm a gollodd Cymru 2-1 i Ogledd Iwerddon ar y Cae Ras ar 31 Mawrth 1954.[4]

Bu farw yn 2017 yn 91 mlwydd oed [5]

Ystadegau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ystadegau clwb[golygu | golygu cod y dudalen]

Clwb Tymor Adran Cyngrhair Cwpan yr FA Arall Cyfanswm
Ymddangos Gôl Ymddangos Gôl Ymddangos Gôl Ymddangos Gôl
Norwich City 1947–48]] Trydedd Adran y De 36 1 3 2 0 0 39 3
1948–49 Trydedd Adran y De 22 11 2 1 0 0 24 12
1949–50 Trydedd Adran y De 37 14 5 3 0 0 42 17
1950–51 Trydedd Adran y De 46 13 5 1 0 0 51 14
1951–52 Trydedd Adran y De 44 11 3 1 0 0 47 12
1952–53 Trydedd Adran y De 38 7 2 0 0 0 40 7
Total 223 57 20 8 0 0 243 65
Birmingham City F.C. 1953–54 Ail Adran 37 10 2 0 0 0 39 10
1954–55 Ail Adran 35 13 4 1 0 0 39 14
1955–56 Adran gyntaf 34 14 6 3 0 0 40 17
1956–57 First Division 28 6 7 3 3[lower-alpha 1] 0 38 9
1957–58 First Division 15 5 1 0 1[lower-alpha 1] 0 17 5
Total 149 48 20 7 4 0 173 55
Port Vale F.C. 1957–58 Trydedd Adran 14 2 0 0 0 0 14 2
1958–59 Pedwaredd Adran 36 3 1 0 0 0 37 3
1959–60 Trydedd Adran 19 1 1 0 0 0 20 1
1960–61 Trydedd Adran 3 0 0 0 3[lower-alpha 2] 1 6 1
Total 72 6 2 0 3 1 77 7
Cyfanswm gyrfa 444 111 42 15 7 1 493 127
  1. 1.0 1.1 ymddangosiadau yn yr Inter-Cities Fairs Cup
  2. ymddangosiadau yn y Football League Cup

Ystadegau rhyngwladol[golygu | golygu cod y dudalen]

Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru
Blwyddyn Ymddangos Gôl
1951 4 0
1952 0 0
1953 0 0
1954 1 0
1955 2 0
Cyfanswm[6] 7 0

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Kent, Jeff (1996). Port Vale Personalities. Witan Books. p. 164. ISBN 0-9529152-0-0.
  2. "Noel Kinsey". Norwich Evening News. 25 May 2017. http://www.familynotices24.co.uk/national/view/4364347/noel-kinsey. Adalwyd 25 May 2017.
  3. "Norwich City Hall of Fame". Eastern Daily Press. 2003. Archifwyd o y gwreiddiol ar 27 September 2007. Cyrchwyd 25 July 2007.
  4. Wise, Chris (24 Mai 2017). "Former Norwich City striker Noel Kinsey dies, aged 91". Eastern Daily Press. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2018.
  5. "NOEL KINSEY". Norwich Evening News. 25 Mai, 2017. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2018. Check date values in: |date= (help)
  6. "Noel Kinsey". national-football-teams.com. Cyrchwyd 7 August 2015.