Nodyn:Hysbysiad gwaith rhywun arall â chaniatâd

Oddi ar Wicipedia
Uwchlwytho ffeil a grëwyd gan rywun arall

Gallwch uwchlwytho gwaith a grëwyd gan rywun arall os yw e/hi wedi rhoi caniatâd ichi wneud felly. Yn ail, gallwch uwchlwytho gwaith a grëwyd gan rywun arall os yw'n dod o dan "drwydded rydd." I uwchlwytho unrhyw waith arall, ewch yn ôl i'r ffurflen a chanllawiau uwchlwytho.

Darllenwch y neges bwysig hon yn gyntaf
Nid yw lluniau a ryddhawyd yn "anfasnachol" (h.y., at bwrpasau nad ydynt yn fasnachol) yn addas i'w defnyddio ar Wicipedia, na lluniau a drwyddedir i Wicipedia yn unig, am fod angen caniatâd i'w hailddosbarthu, na'r rhai lle na allwch greu gwaith arall ohonynt. Mae nifer o resymau dros y polisi hwn, ond yn gryno, cenhadaeth Wicipedia ydy darparu cynnwys rhydd; mae uwchlwytho lluniau â thrwyddedau wedi'u cyfyngu yn mynd yn groes i'r genhadaeth hon.

Wedi dweud hynny, gellir defnyddio delweddi a gânt eu rhyddhau i'r parth cyhoeddus neu'n dod o dan drwydded rydd, megis y GFDL neu drwydded Creative Commons addas. Yn ôl Wicipedia, mae "trwydded rydd" yn golygu y gellir ailddefnyddio unrhyw ddelwedd at unrhyw bwrpas, gan gynnwys pwrpasau masnachol.

Os nad yw'r llun yr ydych am ei uwchlwytho eisoes yn bodoli ar Wicipedia o dan "drwydded rydd," darllenwch y llythyr enghreifftiol yma sy'n gofyn am ganiatâd i'w ddefnyddio.

Os yw'r person sy'n perthyn ar yr hawliau'n cytuno i ryddhau'r ddelwedd

Os yw'r person sy'n perthyn ar yr hawliau'n cytuno i ryddhau'r ddelwedd o dan drwydded rydd, megis y GFDL, blaenyrrwch yr e-bost at "permissions-en AT wikimedia DOT org" os nad yw'n amlwg gan edrych ar gyfeiriad URL y ddelwedd. Mae hyn yn sicrhau fod gan Sefydliad Wicipedia gofnod o'r drwydded, rhag ofn fod angen ymchwilio i'r mater yn nes ymlaen.

Wrth uwchlwytho, dangoswch y canlynol yn y blwch yn glir:

  1. Cyfeiriad gwreiddiol y ddelwedd, gan gynnwys enw'r person a grëwyd y ddelwedd yn wreiddiol, a, lle bo modd, o le cawsoch y ddelwedd
  2. Datganiad ynglŷn â statws trwydded y ddelwedd (Pa drwydded sydd ganddi?)

Noder: Ymwelwch â'r ddolen hon a hon i ofyn cwestiynau ynglŷn â delweddau a chyfryngau.

Cliciwch yma i fynd yn ôl i'r dudalen uwchlwytho.