Night Must Fall (ffilm 1964)

Oddi ar Wicipedia
Night Must Fall
Cyfarwyddwyd ganKarel Reisz
Cynhyrchwyd ganAlbert Finney
Karel Reisz
Awdur (on)Emlyn Williams (drama wreiddiol)
Clive Exton
Yn serennuAlbert Finney
Mona Washbourne
Cerddoriaeth ganRon Grainer
SinematograffiFreddie Francis
Golygwyd ganPhillip Barnikel
Fergus McDonell
Dosbarthwyd ganMetro-Goldwyn-Mayer
Rhyddhawyd gan18 Ebrill 1964
Hyd y ffilm (amser)101 munud
GwladDeyrnas Gyfunol
IaithSaesneg

Mae Night Must Fall yn ail wneuthuriad o ffilm 1937 o'r un enw,[1] a oedd yn ei dro yn seiliedig ar ddrama 1935 gan Emlyn Williams . Fe'i cyfarwyddwyd gan Karel Reisz [2] o sgript gan Clive Exton ac roedd yn serennu Albert Finney [3], Mona Washbourne, a Susan Hampshire, ond nid oedd mor llwyddiannus â'r ffilm wreiddiol. Cafodd y ffilm ei chynnwys yn 14eg Gŵyl Ffilm Ryngwladol Berlin.[4]

Plot[golygu | golygu cod]

Yng nghoedwig ger maestref Gymreig, mae gŵr ifanc yn llofruddio menyw gyda fwyell ac yn cael gwared â'r corff a'r bwyell mewn llyn. Mae'r gŵr ifanc, Danny, sy'n gweithio mewn tafarn lleol, yn cael gorchymyn i ymweld â chartref Mrs Bramson. Mae Mrs Bramson yn wraig weddw cyfoethog, ac mae ei morwyn, Dora, yn feichiog. Credir mai Danny yw tad y plentyn yn y groth.[5]

Wedi swyno Mrs. Bramson, mae Danny yn symud i fyw yn ei thŷ ac yn esgus bod yn fab iddi. Mae'n ailaddurno ystafell yn y tŷ ac yn ymgymryd â dyletswyddau bwtler. Mae hefyd yn ceisio denu serch Olivia, Merch Mrs Bramson. Ar ei ben ei hun yn ei ystafell, mae'n anwesu blychau hetiau, sy'n cynnwys pennau'r menywod mae wedi llofruddio.

Yn y cyfamser, mae'r heddlu'n canfod y corff di-ben a'r fwyell yn y llyn, sy'n ffinio â'r eiddo Mrs Bramson. Maen nhw'n cwestiynu Danny am y dioddefwr, y mae'n dweud ei bod yn gwybod pwy oedd hi gan ei fod h'n arfer mynychu'r gwesty fel putain. Mae Dora yn darganfod perthynas Danny ac Olivia ac yn ffieiddio at y ddau ohonynt. Mae'n dechrau chwarae gemau od gyda Mrs. Bramson, o ganlyniad mae Olivia yn ffoi o'r tŷ rhag ofn.

Yn rhwystredig oherwydd bod Mrs. Bramson yn blino a'i gemau, mae Danny yn ei hacio i farwolaeth. Mae Olivia yn dychwelyd, yn gweld y corff, ac yn galw'r heddlu. Mae hi'n dod o hyd i Danny yn ymolchi ac yn ei hysbysu bod yr heddlu ar fin cyrraedd. Maent yn cofleidio yn yr ystafell ymolchi, gyda Olivia wedi'i swyno gan wallgofrwydd Danny.

Cast[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Crowther, Bosley (1964-03-19). "Robert Montgomery's Role Is Re-Created:Emlyn Williams Drama in New Adaptation". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2019-10-20.
  2. Movies & Drinks (2017-10-17). "'Night Must Fall' (1964): Vastly underrated British shocker". Movies & Drinks. Cyrchwyd 2019-10-20.
  3. Night Must Fall (1964), https://www.rottentomatoes.com/m/night_must_fall1964, adalwyd 2019-10-20
  4. "IMDB.com: Awards for Night Must Fall". imdb.com. Cyrchwyd 2010-02-19.
  5. "Night Must Fall (1964)". BFI. Cyrchwyd 2019-10-20.