Nifwl y Cranc
![]() | |
Enghraifft o: | gweddillion uwchnofa ![]() |
---|---|
Dyddiad darganfod | 1731 ![]() |
Yn cynnwys | Pylseren y Cranc ![]() |
Cytser | Taurus ![]() |
Pellter o'r Ddaear | 1.93 ![]() |
![]() |
Gweddillion uwchnofa yng nghytser Taurus yw Nifwl y Cranc, a adnabyddir hefyd fel Messier 1 (M1), NGC 1952 a Taurus A.[1] Fe'i darganfuwyd yn 1731 gan John Bevis, seryddwr o Loegr. Mae'r nifwl yn cyfateb i ddigwyddiad uwchnova llachar a welwyd ym 1054 OC gan seryddwyr yn Tsieina a gwledydd eraill; roedd y ffrwydrad mor llachar fel ei fod yn weladwy am bron i fis yn awyr y dydd. Erbyn heddiw, mae disgleirdeb y gwrthrych wedi lleihau'n aruthrol, ac nid yw'n weladwy i'r llygad noeth. Mae ganddo faint ymddangosiadol o 8.4. Ceir y nifwl ym Mraich Perseus galaeth y Llwybr Llaethog, tua 6,500 ly o'r Ddaear. Yn ei ganol mae pulsyren, sef seren niwtron 28–30 km mewn diamedr sy'n troelli 30.2 gwaith yr eiliad. Mae'r seren hon yn allyrru pylsau o ymbelydredd electromagnetig yn amrywio o belydrau gama i donnau radio; dyma'r ffynhonnell barhaus fwyaf disglair o belydrau gama yn yr awyr.
Mae'r enw "Nifwl y Cranc" yn deillio o lun o'r gwrthrych a wnaed gan y seryddwr William Parsons, 3ydd Iarll Rosse, yn 1842 neu 1843; mae'r ddelwedd a luniwyd ganddo yn debyg i granc.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Messier Object 1", Messier Object Index; adalwyd 27 Mai 2025
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Niwl y Cranc mewn delwedd fosaig o Delesgop Gofod Hubble
-
Darlun o'r nifwl gan William Parsons (1844), lle mae'n debyg i ffurf cranc
-
Y pylseren yng nghanol y nifwl. Mae'r delwedd yn cyfuno data optegol o Delescop Gofod Hubble ac Arsyllfa Pelydr-X Chandra.