Neidio i'r cynnwys

Nicolas Louis de Lacaille

Oddi ar Wicipedia
Nicolas Louis de Lacaille
Ganwyd15 Mawrth 1713 Edit this on Wikidata
Rumigny Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mawrth 1762 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Man preswylChâteau de la Cour des Prés, Penrhyn Gobaith Da Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Ffrainc, Ffrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Collège de Lisieux
  • Collège de Navarre Edit this on Wikidata
Galwedigaethseryddwr, mathemategydd, ysgrifennwr, athro Edit this on Wikidata
Swydddiacon Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Arsyllfa Paris
  • Collège des Quatre-Nations Edit this on Wikidata
Adnabyddus amCoelum Australe Stelliferum Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata

Seryddwr o Ffrainc oedd Nicolas Louis de Lacaille (hefyd La Caille; 15 Mawrth 171321 Mawrth 1762).

Cymerodd urddau eglwysig, ond ni chafodd ei ordeinio yn offeiriad. Yn 1736, daeth yn fyfyriwr i'r seryddwr Jacques Cassini yn Arsyllfa Paris. Wedi hynny bu'n weithgar iawn yn gwneud arsylwadau a chyfrifiadau llafurus.

O 1750 hyd 1754, arsyllodd ar yr awyr ym Mhenrhyn Gobaith Da (rhan o Dde Affrica heddiw). Yno cofnododd Lacaille dros 10,000 o sêr gan ddefnyddio telesgop plygiannol.[1] Cyhoeddwyd ei gatalog o sêr y de, Coelum Australe Stelliferum, yn 1763 ar ôl ei farwolaeth. Tynnodd sylw at 14 cytser newydd sydd wedi dod yn safonol ers hynny:

Rhannodd hefyd yr hen gytser anhylaw Argo Navis yn dair rhan, sef Puppis, Carina a Vela.

Cyhoeddiadau

[golygu | golygu cod]
  • Leçons élémentaires de Mathématiques (1741)
  • Leçons élémentaires de Mécanique (1743)
  • Leçons élémentaires d'Astronomie (1746)
  • Leçons élémentaires d'Optique (1750)
  • Cyfrifiadau o eclipsau am 1,800 o flynyddoedd yn L'Art de vérifier les dates gan Charles Clémencet (1750)
  • Tabulae Solares (1758)
  • Coelum australe stelliferum (wedi ei farw, 1763)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Lacaille’s southern survey", Ian Ridpath's Star Tales; adalwyd 29 Mawrth 2025