Nicholas Daniels
Gwedd
Nicholas Daniels | |
---|---|
Ganwyd | 1974 Llangennech |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor |
Adnabyddus am | Gornest Reslo'r Menywod Cinio, Melltith y Fenyw Ginio |
Awdur plant Cymreig ydy Nicholas Daniels (18 Rhagfyr 1974). Ganed yn Llanelli a magwyd yn Llangennech. Mynychodd Ysgol Gynradd Llangennech ac Ysgol Gyfun y Strade. Mae'n byw yn Llanelli ac yn hunan gyflogedig.
Gwobrau
[golygu | golygu cod]Yn 2008 enillodd ei lyfr Y Llyfr Ryseitiau: Gwaed y Tylwyth Wobr Tir na n-Og yn y categori cynradd. Dywedwyd gan y beirniaid: "Roedd y panel o'r farn fod y gyfrol hon yn torri tir newydd yn ysgrifennu Cymraeg gan gynnig cyfuniad difyr o'r hen chwedlau Cymreig a byd hudolus, tebyg i fyd Harry Potter".[1]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Gornest Reslo'r Menywod Cinio (Cyfres Fflach Doniol) (Dref Wen, 2002)
- Melltith y Fenyw Ginio (Cyfres Fflach Doniol) (Dref Wen, Medi 2004)
- Ysgol Lol (Cyfres Fflach Doniol) (Dref Wen, Chwefror 2005)
- Sialens Siôn Corn (Dref Wen, Medi 2005)
- Y Llyfr Ryseitiau: Gwaed y Tylwyth (Dref Wen, Gorffennaf 2007)
- Y Brodyr Bendigedig a'r Hwdwch Hyll (Dref Wen, Ebrill 2009)
- Y Llyfr Ryseitiau: Dinas y Dreigiau (Dref Wen, Mai 2011)
- Hunangofiant Bachgen Drwg (Diwrnod Y Llyfr, 2011)
- Neifion Jones a’r Drws Cwantwm (Cyfres y Fflam, CAA, 2012)
- Y Farwolaeth Driphlyg (Cyfres y Fflam, CAA, 2012)
Dolenni Allanol
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Rhestr Awduron Cymru > DANIELS, NICHOLAS. Llenyddiaeth Cymru.
- Coladwyd y llyfryddiaeth oddi ar gwales.com