Nick Bennett

Oddi ar Wicipedia

Nick Bennett (ganwyd 29 Ebrill 1969) yw Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ers 2014.[1]

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Magwyd Nicholas Bennett yn Llangefni, Ynys Môn ac aeth i Ysgol Gyfun Llangefni. Aeth ymlaen i Brifysgol Aberystwyth yn 1987 lle astudiodd am radd BSc Econ mewn Gwyddor Wleidyddol ac yna MBA yn 1991.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Yn 1995 aeth i weithio yng Nghanolfan Ewropeaidd Cymru ym Mrwsel gan adael yn 1999. Rhwng 2000 a 2002 bu'n gynghorydd arbennig i'r Dirprwy Brif Weinidog yn Llywodraeth Cymru pan oedd clymblaid rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Gweithiodd i Bute Communications rhwng 2004 a 2006. Roedd yn brif weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru rhwng 2006 a 2014, cyn cael ei benodi fel Ombwdmsan Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn Mehefin 2014. [2]

Sefodd fel ymgeisydd i blaid y Democratiaid Rhyddfrydol dros yr ynys mewn etholiad San Steffan yn 2001.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae'n briod gyda thri o blant.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Amdanon ni : Ombwdsman. Adalwyd ar 7 Hydref 2017.
  2.  Proffil Linkedin. Adalwyd ar 7 Hydref 2017.
  3.  Nick Bennett - Group chief executive of Community Housing Cymru. Adalwyd ar 7 Hydref 2017.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]