Newydd Bob Nos
| Enghraifft o: | rhaglen deledu, comedi |
|---|---|
| Gwlad | Cymru |
| Dechreuwyd | 1982 |
| Iaith wreiddiol | Cymraeg, Saesneg |
| Dynodwyr | |
Cyfres gomedi oedd Newydd Bob Nos ac fe'i disgrifir fel "drama gomedi". Fe'i darlledwyd ar S4C ym 1982. Roedd y gyfres yn olrhain hanes Desg Newyddion ar sianel ddychmygol o'r enw "Sianel 9".[1] Comisiynwyd 13 pennod 30 munud gan y sianel, yn ei blwyddyn gyntaf o ddarlledu, ar y cyd â fersiwn Saesneg ar gyfer Channel 4, Night Beat News.
Cyfarwyddydd y gyfres oedd Jan D-Smith a'r cynhyrchydd a'r sgript dan ofal Peter Miller.
Esboniwyd cefndir y rhaglen gan Euryn Ogwen Williams, Pennaeth Rhaglenni cyntaf S4C. Cyflwynwyd y syniad i S4C a Channel 4 gan gwmni cynhyrchu W.P. Productions o Lundain. Penderfynodd y ddau ddarlledwr gydweithio i greu fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg, oherwydd y tu allan i'r BBC a HTV nid oedd traddodiad o gomedi ymhlith y sector annibynnol. Dywedodd Euryn fod yna, ar y pryd, "lawer o unigolion oedd eisiau dechrau cynhyrchu comedi, ac roedden ni'n teimlo bod angen eu hyfforddi, a'r hyfforddiant gorau oedd gweithio ar y rhaglen hon". Defnyddiwyd yr un cast o actorion ar y ddau fersiwn ac fe'u recordiwyd yn olynol. Barn Euryn oedd fod "y rhaglen o flaen ei hamser, heb fod yn wych."[2]

Cast
[golygu | golygu cod]- Timothy Bateson - Garfield
- Fraser Cains
- Nia Ceidiog - Vicky
- Grey Evans
- Owen Garmon
- Robin Griffith - Gareth
- Martin Griffiths
- Wyn Bowen Harries
- Jennifer Hill
- John Henry Hughes
- Branwen Iwan
- John Pierce Jones - Owen Lewis
- Richard Clay Jones
- Valmai Jones
- Carys Llewelyn - Monique
- Geoffrey Morgan - Arolygydd
- Christine Pritchard - Freda
- Lynn Rees - Derec
- Dewi Rhys
- Lowri-Ann Richards
- Cadfan Roberts - Emlyn
- Graham Stark
- Dyfed Thomas - David
- William Thomas - Greg Phillips
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Rhestr rhaglenni a ddarlledwyd ar S4C ym 1982 trwy law y sianel.
- ↑ "S4C: THE FIRST HOUR – AN INTERVIEW WITH EURYN OGWEN WILLIAMS (PART I) by Dafydd Sills-Jones". CST Online (yn Saesneg). 2021-06-04. Cyrchwyd 2025-12-18.