New Kids on the Block
Gwedd
| Enghraifft o: | band |
|---|---|
| Gwlad | Unol Daleithiau America |
| Label recordio | Columbia Records, CBS Records International, Interscope Records |
| Dod i'r brig | 1984 |
| Dechrau/Sefydlu | 1984 |
| Genre | cerddoriaeth boblogaidd, cyfoes R&B |
| Yn cynnwys | Jordan Knight, Jonathan Knight, Joey McIntyre, Donnie Wahlberg, Danny Wood |
| Enw brodorol | New Kids on the Block |
| Gwefan | https://www.nkotb.com/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/016kq3 |
| Quora | New-kids-on-the-block |

Mae New Kids on the Block (sy'n cael eu hadnabod hefyd fel NKOTB) yn grŵp pop Americanaidd a gafodd llwyddiant mawr ar ddiwedd y 1980au a dechrau'r 1990au ac a werthodd 80 miliwn o albymau yn fyd eang. Cawsant eu rheoli gan Dick Scott a Kim Glover. Ffurfiwyd y band ym Moston ym 1984 gan y cynhyrchydd Maurice Star. Aelodau'r band yw'r ddau frawd Jordan a Jonathan Knight, Joey McIntyre, Donnie Wahlberg, a Danny Wood. Gwahanodd y band ym 1994 ond gwnaed nifer o ymdrechion aflwyddiannus i ail-uno'r band. Fodd bynnag, ail-grëwyd y band yn 2007 gyda delwedd newydd. Rhyddhawyd albwm newydd ac aethant ar daith gyngherddol. Rhyddhawyd yr albwm, o'r enw "The Block" ar 2 Medi 2008.