Neola

Oddi ar Wicipedia

Offeryn cerdd llinynnol yw'r neola a ddyfeiswyd ym 1970 gan Goronwy Bradley Davies, Llanbedr (gynt o Gorris Uchaf, Cwmllynfell a Chaerdydd). Defnyddiwyd plastig ac alwminiwm yn y dyluniad a chydnabuwyd y ddyfais mewn Patent Prydeinig (cofrestrwyd 16 Awst 1972) a gwobr y Cyngor Cynllunio.[1]. Cofrestrwyd yr enw neola ar gyfer yr offeryn (29 Mehefin 1977).[2]

Neola_offeryn cerdd llinynnol

Dyluniad[golygu | golygu cod]

Dyfeisiwyd yr offeryn i gymryd lle’r tenor a fyddai wedi bod yn rhan o deulu’r feiol, ond prin y cenid y feiol erbyn hyn. Mae’r tannau wedi’u tiwnio i G, D, A ac E, wythfed yn is na’r feiolin neu ffidil, a chenid yr offeryn yn debyg i soddgrwth neu sielo. Byddai’n orfodol i chwaraewyr sielo addasu eu techneg i lwyddo efo’r neola, gan fod y tannau a’r corff yn fyrrach, a byddai’n rhaid cymhwyso’r defnydd o fysedd mewn “safle bawd” (gweler sielo). Mae’r dyluniad yn golygu bod gwneuthuriad diwydiannol yn bosib, heb golli cysondeb mewn ansawdd. Nid yw hyn wedi bod yn llwyddiannus gydag offerynnau traddodiadol gan fod y dewis o bren a chywreinrwydd mewn crefftwaith yn hanfodol at saernïo offerynnau sy’n cynhyrchu sain o ansawdd derbyniol.

Recordiad[golygu | golygu cod]

Defnyddiwyd y neola gan Cilmeri (grŵp gwerin) yn eu record hir (33rpm) gan Gwmni Recordiau Sain, sef Henffych Well (SAIN 836N, 1982).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. stringed musical instruments ar lens.org; adalwyd 17 Gorffennaf 2014
  2. stringed musical instruments Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback. ar uk.trademarkdirect.co.uk
Eginyn erthygl sydd uchod am offeryn cerdd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.