Nawfed Symffoni Dvořák
| Enghraifft o: | gwaith neu gyfansodiad cerddorol |
|---|---|
| Dyddiad cyhoeddi | 1894 |
| Dechrau/Sefydlu | 1893 |
| Lleoliad y perff. 1af | Neuadd Carnegie |
| Dyddiad y perff. 1af | 15 Rhagfyr 1893 |
| Cyfansoddwr | Antonín Dvořák |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0k58h |

Cyfansoddodd Antonín Dvořák ei nawfed symffoni (a adnabydir hefyd fel Symffoni'r Byd Newydd) yn 1893 pan oedd yn gyfarwyddwr Conservatoire Cerdd Genedlaethol America yn Ninas Efrog Newydd. Dyma oedd y symffoni olaf iddo ei chyfansoddi, yn y cywair E leiaf. Aeth tâp o'r symffoni yma gyda Neil Armstrong ar daith ofod Apollo 11 yn 1969. Mae perfformiad fel arfer yn para tua 40 munud.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Roedd y symffoni wedi'i chomisiynnu gan Gerddorfa Ffilharmonig Efrog Newydd, ac roedd y perfformiad cyntaf yn Neuadd Carnegie, Efrog Newydd ar 16 Rhagfyr 1893.[1]
Roedd y symffoni wedi cael ei hysbrydoli gan Ganeuon ysbrydol Americanwyr brodorol a glywodd Dvořák yn America. Pan oedd yn gyfarwyddwr ar Conservatoire Cerdd Genedlaethol America, roedd y myfyriwr Harry Burleigh yn canu'r alawon traddodiadol iddo. Dywedodd Dvořák mai defnyddio'r alawon fel ysbrydoliaeth i'w gerddoriaeth ei hun a wnaeth, ac nid dwyn yr alawon.[2]
Mae yna bedwar symudiad yn y darn:
I. Adagio – Allegro molto
[golygu | golygu cod]II. Largo
[golygu | golygu cod]III. Molto vivace
[golygu | golygu cod]IV. Allegro con fuoco
[golygu | golygu cod]Offeryniaeth
[golygu | golygu cod]Mae'r symffoni wedi'i sgorio ar gyfer y gerddorfa ganlynol:
- 2 ffliwt (un picolo dwbl)
- 2 obo (un Cor anglais dwbl)
- 2 clarinét yn B♭ ac A
- 2 Basŵn
- 4 Corn Ffrengig yn E, C ac F
- 2 Utgorn yn E, C ac E♭
- 3 Trombôn: alto, tenor, bass
- Tiwba (ail symudiad yn unig)
- Triongl (trydydd symudiad yn unig)
- Symbalau (pedwerydd symudiad yn unig)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Symphony No. 9 in E minor, Op. 95, "From the New World"". www.antonin-dvorak.cz. Cyrchwyd 1 Chwefror 2025.
- ↑ "Symphony No. 9, "From the New World"". LA Phil. Cyrchwyd 1 Chwefror 2025.
