Neidio i'r cynnwys

Naturalis historia

Oddi ar Wicipedia
Naturalis historia
Enghraifft o:gwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurPlinius yr Hynaf Edit this on Wikidata
Gwladyr Ymerodraeth Rufeinig Edit this on Wikidata
IaithLladin Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu74 Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Prif bwncastudiaethau natur Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0jtp6 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Llyfr Lladin mewn 37 cyfrol gan Plinius yr Hynaf (23 OC – 79 OC) yw Naturalis historia (Lladin: "hanes natur"). Dyma'r gwaith mwyaf sydd wedi goroesi o gyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig. Mae'n gasgliad o wybodaeth – llawer ohoni'n anghywir – gan awduron hynafol eraill.[1] Mae gan y llyfr syniad eang iawn ar yr hyn a olygir wrth astudio "natur", ac mae'n cynnwys seryddiaeth, mathemateg, daearyddiaeth, ethnograffeg, anthropoleg, ffisioleg, swoleg, botaneg, amaethyddiaeth, garddwriaeth, ffarmacoleg, mwyngloddio, mwynyddiaeth, cerfluniaeth, celf, a glain. Er ei fod yn gwasanaethu pwrpas tebyg i wyddoniadur modern, mae ei strwythur yn wahanol iawn.

Dyma'r unig waith gan Plinius sydd wedi goroesi, a'r olaf a gyhoeddwyd ganddo. Cyhoeddwyd y deg llyfr cyntaf yn 77 OC. Nid oedd yr awdur wedi gorffen adolygu'r gweddill erbyn adeg ei farwolaeth yn ystod ffrwydrad Mynydd Feswfiws yn 79 OC. Cyhoeddwyd y gweddill ar ôl ei farwolaeth gan ei nai, Plinius yr Ieuengaf.

Roedd y llyfr yn ffynhonnell ysgolheigaidd bwysig am ganrifoedd drwy gydol yr Oesoedd Canol ac i mewn i'r Dadeni Dysg, er erbyn cyfnod y Chwyldro Gwyddonol cafodd ei wawdio fwyfwy am ei agwedd anwyddonol a di-feirniadaeth.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Natural History", Britannica; adalwyd 26 Mehefin 2025

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]