Nathan James Dearden
Nathan James Dearden | |
---|---|
Ganwyd | 1992 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, arweinydd ![]() |
Cyflogwr | |
Gwefan | https://nathanjamesdearden.com/ ![]() |
Cyfansoddwr o Gymro yw Nathan James Dearden (ganwyd 1992), sy'n wreiddiol o Donyrefail yn y Rhondda.
Nathan oedd enillydd Tlws y Cyfansoddwr yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf 2024.[1] Roedd ef yn un o dri artist a gafodd eu dewis i weithio gyda'r cyfansoddwr John Rea yn ystod hanner cyntaf 2024 i gyfansoddi gweithiau newydd ar gyfer pedwarawdau, a hynny ar gyfer y ffidil, y clarinét, y sielo a'r piano.[2]
Mae ei gerddoriaeth yn ymddangos yn aml mewn cyngherddau ar draws gwledydd Prydain a thramor. Perfformiwyd ei gerddoriaeth gan nifer o gerddorfeydd, fel Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Cherddorfa Symffoni Dinas Birmingham. Chwaraewyd ei gerddoriaeth hefyd ar BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales, BBC Radio 3 ac S4C.
Yn 2025, roedd Nathan yn ddarlithydd mewn Cyfansoddi Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Royal Holloway, Llundain. Bu'n gyfarwyddwr artistig cynorthwyol ar gyfer MusicFest Aberystwyth.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Nathan James Dearden yn ennill Tlws y Cyfansoddwr | Eisteddfod". eisteddfod.cymru. Cyrchwyd 28 Ionawr 2025.
- ↑ "Tlws y Cyfansoddwr (Cymraeg) | Tŷ Cerdd │Welsh Music". tycerdd (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-01-29.
- ↑ "Nathan James Dearden | Tŷ Cerdd composer database | Welsh music". tycerdd. Cyrchwyd 29 Ionawr 2025.