Neidio i'r cynnwys

Naratif

Oddi ar Wicipedia
Naratif
Enghraifft o:ffurf, genre Edit this on Wikidata
Mathgwaith creadigol, gwybodaeth Edit this on Wikidata
Yn cynnwysclimax, denouement Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/01lyjl edit this on wikidata
QuoraNarratives edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Adroddiad sy'n cyflwyno dilyniant o ddigwyddiadau neu brofiadau mewn modd sy'n ffurfio hanes neu stori yw naratif.[1][2] Mae naratif yn elfen o weithiau ffeithiol (megis bywgraffiad, ffilm ddogfen, neu adroddiad newyddion) yn ogystal â ffuglen. Gellir cyflwyno naratif drwy gyfres o eiriau ar lafar neu ysgrifenedig, drwy luniau llonydd neu symudol, neu drwy unrhyw gyfuniad o'r rhain. Mynegir naratifau mewn pob math o gyfrwng a chelfyddyd, ym meysydd creadigol ac adloniant, gan gynnwys llenyddiaeth, y theatr, dawns, cerddoriaeth, comics, newyddiaduraeth, radio, animeiddio, ffilm a theledu, gemau fideo, ac hyd yn oed celfyddydau gweledol megis arluniaeth, cerfluniaeth, a ffotograffiaeth.

Adrodd stori ydy'r enw ar y weithgaredd gymdeithasol a diwylliannol o rannu naratifau â phobl eraill, ac mae adrodd ar lafar yn gyffredin i bob cymdeithas, ym mhob rhan o'r byd, ers i fodau dynol ddatblygu iaith.[3] Yn sgil datblygiad llythrennedd, câi naratifau hefyd eu cofnodi, eu creu, a'u cyflwyno ar ffurfiau ysgrifenedig. Gelwir y broses ffurfiol o greu naratif yn draethiad neu adroddiant, a dyma un o'r pedwar modd rhethregol traddodiadol, ynghyd ag ymresymiad, disgrifiad, ac eglurhad. Ceir sawl techneg naratif o adrodd stori.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  naratif. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 16 Tachwedd 2025.
  2. Ioan Williams, "Naratif", Yr Esboniadur (Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol). Adalwyd ar 16 Tachwedd 2025.
  3. Mello, Robin (2001-02-02). "The Power of Storytelling: How Oral Narrative Influences Children's Relationships in Classrooms". International Journal of Education & the Arts 2 (1). http://www.ijea.org/v2n1/. Adalwyd 2023-01-25.

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]
  • H. P. Abbot, The Cambridge Introduction to Narrative (Caergrawnt: Cambridge University Press, 2002).