Naomi Jones

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Naomi Jones
Ganwyd Tachwedd 1955 Edit this on Wikidata
Cenedl Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth cynhyrchydd teledu, cyflwynydd teledu Edit this on Wikidata

Mae Naomi Jones (ganwyd Tachwedd 1955) wedi bod yn weithwraig yn y diwydiant darlledu yng Nghymru ers canol yr 1970au. Bu'n gyflwynydd teledu ac yna cynhyrchydd teledu Cymraeg.

Ganed Naomi Jones yn un o tri o blant i'r cerflunydd Jonah Jones a'r awdur Iddewig, Judith Maro a magwyd hi yn Eifionydd lle'r oedd gan ei thâd stiwdio yn Nhremadog.

Daeth yn gyflwynydd ar raglen Gymraeg BBC Cymru i blant a phobl ifanc, Bilidowcar yn yr 1970au.[1]

Wedi cyfnod yn cyflwyno aeth ymlaen i sefydlu cwmni animeiddio, Cartŵn Cymru gan gynhyrchu cyfresi animeiddio gwreiddiol yn y Gymraeg. Un o'u cyfresi mwyaf poblogaidd oedd Hanner Dwsin sef cartŵn am anturiaethau grŵp pop 'Hanner Dwsin'. [2]

Mae'n gynhyrchydd i gwmni Cartŵn Cymru sydd wedi eu lleoli yn Abertawe.[3] hefyd yn gyfrifol am gyfresi animeiddio eraill megis Testament: The Bible in Animation (1996); The Miracle Maker (2000); Otherworld/Y Mabinogi (2003) a Friends and Heroes (2007-2008).

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]