Nancall
| Math | treflan |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Clynnog Fawr |
| Gwlad | |
| Perchnogaeth | Abaty Aberconwy, Llywelyn Fawr |
Trefgordd ym mhlwyf Eifionydd ac yna Clynnog Fawr oedd yn eiddo i'r eglwys yn nyddiau'r Tywysogion Cymreig hyd ddiddymiad y mynachlogydd ym 1536 oedd Nancall.
Cyn hynny, sonnir am Nancall yn chwedl Math fab Mathonwy, yn y Mabinogion.[1] Fe'i rhoddwyd i Abaty Aberconwy gan Llywelyn Fawr tua 1200. Yr oedd yr hanesydd Dr Colin Gresham (1913-1989 yn credu mai rhan o Eifionydd ydoedd yn wreiddiol ond bod y tir wedi ei gynnwys ym mhlwyf Clynnog Fawr ac felly wedi cael ei gambriodoli i gwmwd Uwchgwyrfai, er bod rhai haneswyr yn anghytuno.[2]
Ffiniau Nancall oedd Afon Call i'r gogledd ac Afon Faig i'r dwyrain a'r de ac i fyny i gopa Mynydd Craig Goch. Y ffin orllewinol oedd Afon Dwyfach, o gymer Afon Faig ac Afon Dwyfach ger Pont Tafarn-faig, gan redeg ar hyd Afon Dwyfach i gyfeiriad y gogledd nes cyrraedd Aber Call, nid nepell o safle hen orsaf reilffordd Pant-glas.[3]
Rhoddwyd y drefgordd i fynaich Sistersaidd Aberconwy gan Gruffydd ap Cynan tua 1186 wrth iddynt ymsefydlu yn Rhedynog Felen ac wedyn Aberconwy, ac fe gadarnhawyd y rhodd gan siarter Llywelyn ab Iorwerth tua 10 mlynedd yn diweddarach.[4] Roedd y mynaich hyn hefyd yn berchen ar luest neu ffermdir Rhedynog Felen yn nhrefgordd Dinlle. Parhaodd yr ardal ym meddiant y Sistersiaid hyd nes i'r mynachlogydd gael eu diddymu yn y 1530au. Ym 1562 roedd y trefgordd ym meddiant Coron Lloegr fel rhan o'r hen diroedd eglwysig, ac fe brydleswyd rhan o'r trefgordd i deulu Clenennau yn Eifionydd.[5]
Cyhoeddwyd llythyr yn Y Brython yn 1861 sydd yn tystio i barhad cysylltiad Nancall â hen hawliau Priordy Beddgelert ac Abaty Aberconwy. Meddai'r gohebydd:
Fel yr oeddwn mewn ymgom â hen amaethwr parchus o ben uchaf plwyf Clynnog Fawr yn Arfon; ac yntau yn henafgwr, gofynais iddo, (yn ol fy arfer i hen bobl,) a oedd dim byd nodedig mewn arfer gwlad, neu olion henafol, y gwyddai, neu a glywai am danynt yn ei ardal. “Na wn i,” meddai yntau, “am ddim nodedig er fy nghof i, ond Cwrt Beddgelert.” Holais ef am ei natur; a’r manylion a gefais oedd hyn:– Yr oedd y tyddynod canlynol yn ffurfio treflan y Cwrt :– Monachdy Gwyn, Cwm, Ynys yr Arch, Cae Hir, Hengwm, Llwydmor, Nancelloedd, a’r Tai Duon. Yr oedd yn rhaid i amaethwyr y tyddynod dalu dirwy am gadw myharen (hwrdd) du, ac am bysgota yn yr afon. Nid oedd dim treth ffordd fawr arnynt; na dim rhwymau i adgyweirio ffyrdd y plwyf, ond y rhai a oedd yn myned drwy y tyddynod a enwyd. Yr oedd y tir-ddeiliaid hyn yn myned i Feddgelert bob dechreu haf i gadw’r Cwrt; a byddent yno am ddeuddydd neu dri. Y mae’r Cwrt wedi peidio ers tua pedair blynedd ar hugain.[6]
Mae'r manylion hyn yn tueddu i awgrymu bod Cwrt Beddgelert yn parhau â chysylltiad â Nancall tan oddeutu 1837, sef tua'r adeg pan ddiwygiwyd y system o dalu'r Degwm. Mae'r dyfyniad hefyd yn tueddu i awgrymu mai rhan bellaf plwyf Clynnog Fawr oedd lleoliad trefgordd Nancall. Dichon mai Hendre Nancall yw safle'r anheddiad gwreiddiol ond erbyn hyn mae'n cynnwys tiroedd y pedair fferm sy'n rhannu'r enw Nancall ynghyd â hen fferm Tai Duon. Y cyntaf y gwyddys amdano i ffermio Nancall oedd John ap Ednyfed; cafodd hwn brydles 99 mlynedd gan Geoffrey Kyffin ("Yr Abad Coch"), Abad Aberconwy, ym 1517. Wedi diddymiad y mynachlogydd, cadwyd at delerau'r brydles am weddill ei thymor.
Parhaodd Nancall yn drefgordd ar wahân hyd y cyfnod modern. Ar ôl cau'r mynydd ym 1812, symudodd ffin Nancall (a phlwyf Clynnog Fawr) o lan Afon Faig i'r wal gerrig a godwyd fel ffin yr adeg honno.[7] Parhai brif drigolion Nancall i dalu rhai ffioedd i olynwyr Abaty Aberconwy fel tirfeddianwyr hyd oddeutu 1835, gan deithio'n flynyddol i fynychu hen lys maenorol Cwrt Beddgelert.[6]
Erbyn hyn mae fferm Tai Duon yn furddun, ond erys pedair daliadaeth o dir sydd yn arddel yr enw o fewn ffiniau'r hen drefgordd, yn cynnwys Hendre Nancall, sef cartref y canwr Bryn Terfel.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Colin Gresham, The Aberconwy Charter, (Archaeologia Cambrensis, Rhagfyr 1939), t.139
- ↑ Colin Gresham, Eifionydd (Caerdydd, 1973), t.xiv, n.1
- ↑ Colin Gresham, The Aberconwy Charter, (Archaeologia Cambrensis, Rhagfyr 1939), t.138-9
- ↑ Colin Gresham, The Aberconwy Charter, (Archaeologia Cambrensis, Rhagfyr 1939), tt.123-4
- ↑ LlGC, Gweithredoedd Brogyntyn, ETD/1/1
- 1 2 Y Brython, Tachwedd 1861, t.435
- ↑ Colin Gresham, Eifionydd (Caerdydd, 1973), tt.301-3