Nélida Piñon

Oddi ar Wicipedia
Nélida Piñon
GanwydNélida Cuíñas Piñón Edit this on Wikidata
3 Mai 1937 Edit this on Wikidata
Rio de Janeiro Edit this on Wikidata
Bu farw17 Rhagfyr 2022 Edit this on Wikidata
Lisbon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Brasil Brasil
Alma mater
  • Prifysgol Archesgobol Gatholig Rio de Janeiro Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd, golygydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amQ116867910 Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Lenyddol Tywysog Asturias, Medal Castelao, Gwobr Casa de las Américas, Gwobr FIL , Mecsico, Urdd Teilyngdod Diwylliant, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Santiago de Compostela, Honorary Doctorate from the National Autonomous University of Mexico, Prêmio Jabuti, Menéndez Pelayo International Prize, Lusophony Awards Edit this on Wikidata

Awdures a nofelydd o Frasil oedd Nélida Piñon (3 Mai 193717 Rhagfyr 2022). Enillodd Wobr FIL, gwobr i awdurdod sy'n ysgrifennu yn yr eithoedd Romáwns.

Fe'i ganed yn Rio de Janeiro, Brasil a deuai ei theulu'n wreiddiol o Galisia.[1][2][3][4][5]

Ei nofel gyntaf oedd Guia-Mapa de Gabriel Arcanjo (Llyfryn Archangel Gabriel), a ysgrifennwyd yn 1961, ac sy'n ymwneud â phrif gymeriad sy'n trafod athrawiaeth Gristnogol, gyda'i angel gwarcheidiol. Yn y 1970au daeth yn enwog am ei nofelau erotig A casa de paixão (Cartref Traserch) ac A força do destino (The Force of Destiny), a ysgrifennwyd yn 1977.

Efallai mai'r llwyddiant mwyaf a ddaeth iddi yw ei nofel A República dos Sonhos (1984) ac a gyfieithwyd i'r Saesneg dan y teitl The Republic of Dreams. Mae'n darlunio dwy genhedlaeth teulu o Galicia a ymfudodd i Frasil. Mae hyn yn ymwneud â phrofiad ei theulu ei hun.

Anrhydeddwyd Piñon yn 1995 gyda Gwobr FIL ac yn 2005 enillodd Wobr Tywysog Asturias am lenyddiaeth. Bu'n Llywydd Academia Brasileira de Letras rhwng 1996 a 1997, a Chadair José Bonifácio Materion Iberoamerican ym Mhrifysgol São Paulo yn 2015.

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Nélida Pinon yn 2012

Bu'n aelod o Academia Mexicana de la Lengua, Academia Brasileira de Letras am rai blynyddoedd. [6]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Lenyddol Tywysog Asturias (2005), Medal Castelao, Gwobr Casa de las Américas (2010), Gwobr FIL , Mecsico (1995), Urdd Teilyngdod Diwylliant (1996), Doethor Anrhydeddus Prifysgol Santiago de Compostela (1998), Honorary Doctorate from the National Autonomous University of Mexico (2007), Prêmio Jabuti (2005), Menéndez Pelayo International Prize (2003), Lusophony Awards[7][8] .


Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Guia-Mapa de Gabriel Arcanjo (1961)
  • Fundador (pre-1971)
  • A Casa da Paixão (1972)
  • A força do destino (1977)
  • The Republic of Dreams, University of Texas Press (1991), ISBN 0-292-77050-2
  • A doce cançao de Caetana (1987)

Storiau byrion[golygu | golygu cod]

  • Caraf Fy Ngŵr.
  • Big-Bellied Cow
  • O Pão de Cada Dia

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb119198740. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://libris.kb.se/katalogisering/86lnrfhs14z4qpt. LIBRIS. dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018. dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2012.
  2. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb119198740. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Nelida Pinon". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Dyddiad marw: "Morre Nélida Piñon, escritora integrante da Academia Brasileira de Letras". cyhoeddwyd fel rhan o'r canlynol: O Globo.
  5. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 13 Rhagfyr 2014
  6. Anrhydeddau: http://www.fpa.es/es/premios-princesa-de-asturias/premiados/2005-nelida-pinon.html?especifica=0. http://www.usc.es/es/info_xeral/honoris/.
  7. http://www.fpa.es/es/premios-princesa-de-asturias/premiados/2005-nelida-pinon.html?especifica=0.
  8. http://www.usc.es/es/info_xeral/honoris/.