Môr Marw

Oddi ar Wicipedia
Môr Marw
Delwedd:Dead Sea by David Shankbone.jpg, Dead sea.jpg
Mathllyn caeedig, hypersaline lake Edit this on Wikidata
He-Dead Sea.ogg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolJordan Rift Valley, Israel–Jordan border, Jordan-Palestine border, Israel–Palestine border Edit this on Wikidata
SirIsrael, Gwlad Iorddonen, Gwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
GwladBaner Israel Israel
Arwynebedd605 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr−437 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.5207°N 35.4845°E Edit this on Wikidata
Dalgylch41,650 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd67 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Mae'r Môr Marw (Hebraeg: ים המלח‎; Arabeg: البحر الميت‎) yn fôr cyfandirol a leolir rhwng y Lan Orllewinol, Israel a Gwlad Iorddonen yn y Dwyrain Canol. Mae ei ddyfroedd yn hallt iawn (30% o halen), sy'n ei wneud yn fwy hallt nag unrhyw bwll arall o ddŵr yn y byd (dros wythwaith mwy hallt na'r môr ar gyfartaledd), a heb fod yn medru cynnal bywyd.

Ei arwynebedd yw 1050 km² (400 milltir sgwâr), ei hyd yw 67 km (42 milltir) a'i led yw 18 km (11 milltir). Mae Afon Iorddonen yn rhedeg i mewn iddo ond does dim afon yn llifo ohono a dyna pam fod cymaint o halen yn y dŵr. Fe'i gelwir Y Môr Marw nid yn unig gan nad oes bywyd ynddo ond gan ei fod mor llonydd, fel rheol. Oherwydd ei fod mor hallt mae pobl yn medru arnofio ar wastad eu cefnau arno heb drafferth yn y byd.

'Môr y Rhos' (Môr y Gwastadeddau) neu'r 'Môr Heli' yw'r enwau arno yn y Beibl. Cyfeirir ato am y tro cyntaf yn Llyfr Genesis. I'r gorllewin ohono yr oedd teyrnas Moab a dinas Nebo.

Dyn yn darllen ar wastad ei gefn ar y Môr Marw

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]