Môr Celebes

Oddi ar Wicipedia
Môr Celebes
Mathmôr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Cefnfor Tawel Edit this on Wikidata
GwladIndonesia Edit this on Wikidata
Arwynebedd280,000 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau3°N 122°E Edit this on Wikidata
Map

Mae Môr Celebes (Indoneseg: Laut Sulawesi; Ffilipino: Dagat Selebes) yng ngorllewin y Môr Tawel ac yn cael ei ffinio i'r gogledd gan ynysforoedd Sulu a Môr Sulu, ac Ynys Mindanao o'r Philipinau, ar y dwyrain gan gadwyn o Ynysoedd y Sangihe, i'r de gan Benrhyn Mizahassa yn Sulawesi, ac yn y gorllewin gan Kalimantan yn Indonesia. Mae'n ymestyn 675 km o'r gogledd i'r de a 840 km o'r dwyrain i'r gorllewin ac mae cyfanswm arwynebedd o 280,000 km sgwâr ac uchafswm dyfnder o 6,200m. Mae'r môr yn agor yn y de-orllewin trwy Gulfor Makassar i mewn i Môr Java.

Mae Môr Celebes yn rhan o hen môr basn a ffurfiwyd 42 miliwn o flynyddoedd yn ôl mewn mangre yn rhydd o unryw dirfas. Erbyn 20 miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd symudiadau crawen y ddaear wedi symud y basn yn ddigon agos at losgfynyddoedd Indonesia a'r Philipinia i dderbyn eu gweddillion.[1] Erbyn 10 miliwn o flynyddoedd yn ôl roedd Môr Celebes yn boddi gyda malurion cyfandirol, gan gynnwys glo, a ollyngwyd gan fynydd newydd a dyfai ar Borneo a'r ffaith fod y  basn wedi docio yn erbyn Ewrasia.

Mae'r ffin rhwng y moroedd  Celebes a Sulu ar Grib Sibutu-Basilan. Mae cerrynt cefnforol cryf, ffosydd dyfn a môr-fynyddoedd, ynghyd ac ynysoedd llosgfynyddol gweithgar, yn arwain at nodweddion eigionegol cymhleth.

Amffinio Ffîn Parth Economaidd Unigryw[golygu | golygu cod]

Ar Fai Mai 2013, llofnododd  Llywodraeth Gweriniaeth y Philipinau a Llywodraeth  Gweriniaeth Indonesia  gytundeb i sefydlu'r ffîn sy'n amffinio'r  Parth Economaidd Unigryw (EEZ) rhwng y ddwy wlad. Fe gytunwyd y byddai i'r gogledd o'r ffîn dan awdurdodaeth y Philipinau (gelwir y rhan yma o'r môr yn Fôr Mindanao) ac fe fyddai i'r de o'r ffîn dan reolaeth Indonesia (a gelwyd y rhan yma o'r môr yn Fôr Celebes).[2][3][4]

Pwynt Lledred Hydred
1 3° 06’ 41 G  119° 55’ 34 Dn
2 3° 26’ 36 G 121° 21′ 31 Dn
3 3° 48′ 58 G  122° 56′ 03 Dn
4 4° 57′ 42 G 124° 51′ 17 Dn
5 5° 02′ 48 G 125° 28’ 20 Dn
6 6° 25′ 21 G 127° 11′ 42 Dn
7 6° 24′ 25 G 128° 39′ 02″ Dn
8 6° 24′ 20 G 129° 31’ 31 Dn

Graddau[golygu | golygu cod]

Mae'r International Hydrographic Organization (IHO) yn diffinio Môr Celebes fel un o ddyfroedd Ynysgadwyn Dwyrain Asia. Mae'r IHO yn diffinio ei therfynau fel a ganlyn:[5]

Ar y Gogledd. O derfyn deheuol Môr Sulu/Sulu Sea [o Bentir Tagolo, lawr arfordir gorllewinol Mindanao i eithafion y de-orllewin hyd at arfordir ogleddol Ynys Basilan/Basilan Island (6°45′N 122°04′E / 6.750°N 122.067°E / 6.750; 122.067), a thrwy'r ynys yma i'w then deheuol either, a felly linnell i Ynys Bitinan (6°04′N 121°27′E / 6.067°N 121.450°E / 6.067; 121.450) oddi ar ben ddwyreiniol eithaf Ynys Jolo/Jolo Island, a thrwy Jolo hyd at bwynt ar ledriad to a point in long. 121°04'Dn ar ei arfordir ddeheuol, a thrwy  Ynysoedd Tapul a Lugus  ac ar hyd arfordir ogleddol Ynys Tawitawi/Island at Ynys Bongao/Island oddi ar ei phen orllewinol (5°01′N 119°45′E / 5.017°N 119.750°E / 5.017; 119.750), ac yno i Tanjong Labian, ym mhen pellaf eithaf Borneo] ac arfordir de-orllewin Mindanao. 

Ar y dwyrain. Llinell o  Bentir Tinaca, man deheuol  Mindanao, i fan gogleddol pulau Sangihe Besar (3°45′N 125°26′E / 3.750°N 125.433°E / 3.750; 125.433) yno trwy'r pulau-pulau Sanguine i Tanjung Puisan, man eithafol gogleddol  Celebes [Sulawesi].

Ar y de. Arfordir gogledd Celebes rhwng tanjung Puisan a tanjung Binar (Cape Rivers) (1°20′N 120°52′E / 1.333°N 120.867°E / 1.333; 120.867) ac yno mewn llinell i Tanjung Mangkalihat yn Borneo, terfyn gogleddol Culfor Makassar/Strait [llinell sydd yn ymuno Tanjung Mangkalihat, Borneo (1°02′N 118°57′E / 1.033°N 118.950°E / 1.033; 118.950) a tanjung Binar (Cape Rivers), Celebes (1°20′N 120°52′E / 1.333°N 120.867°E / 1.333; 120.867)].

Ar y gorllewin. Arfordir dwyrain Borneo rhwng Tanjung Mangkalihat a Tanjong Labian, terfyn deheuol Môr Sulu.

Bywyd morol[golygu | golygu cod]

Ystifflog o'r rhywogaeth  Enoploteuthis o Fôr Celebes.

Mae'r Môr Celebes yn gartref i amrywiaeth eang o bysgod a chreaduriaid dyfrol. Mae'r lleoliad trofannol â'r dyfroedd clir cynnes yn caniatáu tua 580 allan o  793 o rywogaethau'r byd o cwrelau sy'n adeiladu creigesi cwrel, sy'n tyfu i fod yn un o'r creigesi cwrel mwyaf bio-amrywiol yn y byd, gydag amrywiaeth drawiadol o fywyd morol, gan gynnwys morfilod a dolffiniaid, crwbanod y môr, pelydrau manta, eryr pelydrau, barracuda, marlyn a rhywogaethau  creigesi cwrel a chefnforol eraill. Mae'r tiwna a'r diwna yellowfin hefyd yn doreithiog. Yn ogystal â'r  digonedd o bysgod a gaiff eu pysgota ym Môr Celebes, mae'r môr hefted yn cynhyrchu cynhyrchion dyfrol eraill fel y tang y môr (rhywogaethau o wymon bras). 

Ffîn ddeheuol Môr Celebes. Traeth Kelsey  ar Ynys Bunaken, Gogledd Sulawesi
Môr Celebes ar ei ffîn ogleddol. Ardal arfordirol Maitum, Sarangani

Arwyddocâd masnachol.[golygu | golygu cod]

Mae Môr Celebes  yn ffordd forol bwysig ar gyfer masnach ranbarthol. Mae'r môr hefyd yn boblogaidd ar gyfer plymio sgwba - a hwylio môr moethus.

Daeareg[golygu | golygu cod]

Mae plot cefnforol yn gorwedd tan Môr Celebes, gyda lledaenu ganol-cefnforol yn ei rhan ganolog. Mae'r lleoliad hwn wedi ei islithro i'r da ac i'r gogledd. Gwnaed nifer o arolygon seismig ac ymchwil drilio'n y maes yma er mwyn casglu gwybodaeth ddaearegol. Mae daeareg Môr Sulawesi wedi ei ddisgrifio'n y Geology of Indonesia Wikibook.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. C. Michael Hogan. 2011.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-18. Cyrchwyd 2017-08-27.
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-03. Cyrchwyd 2017-08-27.
  4. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-23. Cyrchwyd 2017-08-27.
  5. "Limits of Oceans and Seas, 3rd edition" (PDF). International Hydrographic Organization. 1953. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2011-10-08. Cyrchwyd 7 February 2010.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]