Bouzincourt Ridge, Mynwent Filwrol y Gymanwlad

Oddi ar Wicipedia
Mynwent Bouzincourt Ridge
MathMynwent a gedwir gan Gomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • Medi 1918 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAlbert, Bouzincourt Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau50.02197°N 2.6372°E Edit this on Wikidata
Map

Yma gorweddai tros 600 o filwyr, gan gynnwys Cymry, o'r Gymanwlad a gollasant eu bywydau yn brwydro'n y Somme yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (y Rhyfel Mawr, 28 Gorffennaf 1914 - 11 Tachwedd 1918). Mae'n fynwent yn eiddo i ac cha'i chynnal gan y Commonwealth Graves Commission. Er ei bod yn fynwent weddol fychan o ran maint, mae'n cael ei chadw'n daclus iawn.

Cymro a gladdwyd ym mynwent Bouzincourt Ridge
Bouzincourt Ridge

I gyrraedd y fynwent, mae trên pob awr (bron) yn ystod y dydd o ddinas Lille yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc sy'n cymryd tua awr i gyrraedd y dref agosaf at y fynwent sef tref Albert. Ar gyrraedd Albert, cerddwch allan o'r orsaf drên ac yn syth ymlaen tuag at ganol y dref a chwiliwch am y swyddfa dwristiaeth sydd ar y dde ar ôl croesi cyffordd fechan. Mae amgueddfa fechan yn y swyddfa dwristiaeth lle gewch hefyd wybodaeth helaeth am Frwydr y Somme. Holwch yma am drefnu tacsi (yn 2019, roedd cost un-ffordd oddeutu 10 i 15 Ewro) i'ch cludo i, ac o fynwent filwrol Bouzincourt Ridge (- mae'r ffordd fawr rhwng Bouzincourt ag Albert yn medru bod yn hynod o brysur gyda traffig os yw rhywun yn meddwl cerdded, ac mae'r gwasanaeth bws lleol yn rhedeg un neu ddau bws y dydd ar amseroedd digon od!), a chofiwch ofyn yn benodol am y fynwent filwrol gan fod mynwent gyhoeddus hefyd ym mhentref Bouzincourt. Mae'r ffordd drol gul yn mynd ymlaen heibio'r fynwent ac i lawr y bryncyn tuag at fferm.

Mae'r fynwent tua tair cilomedr allan o dref Albert i'r gogledd-orllewin, - y rhan helaeth o'r siwrnau ar hyd ffordd fawr, brysur tuag at bentref bach Bouzincourt. Ar gyrraedd Bouzincourt mae arwydd bychan yn dynodi'r ffordd tuag at y fynwent filwrol sydd ar hyd ffordd ar droad i'r dde yn y pentref. Tua cilomedr allan o'r pentref mae ffordd drol gul ar y dde gyda choed aeddfed tal yn tyfu ar y cloddiau am ran o'r ffordd. Tua hanner cilomedr ar hyd y ffordd drol hon mae mynwent milwrol Bouzincourt Ridge wedi ei leoli ar fryncyn braf, wedi ei amgylchynu gan gaeau o gnydau amrywiol.

Ar y chwith wrth fynd fewn i'r fynwent mae blwch yn y wal sy'n cadw dau lyfr cofnod, un yn rhestru enwau'r milwyr a gladdwyd yno a'r llall er mwyn i ymwelwyr lofnodi eu hymweliadau. Mae yno hefyd wybodaeth ar Frwydr y Somme.

Mae opsiynau i fwyta a gorffwys tra'n disgwyl am eich trên yn dda, gyda bwyty braf ar sgwâr y dref gyferbyn a'r gadeirlan ynghyd â chaffis, cynnig byr-frydau, mae'n dref sydd wedi hen arfer edrych ar ôl ymwelwyr a ddaw i chwilio am berthnasau a fu farw'n y Somme. Mae trenau pob 1 - 2 awr yn ôl i Lille a'r Eurostar i Lundain neu'r ffordd arall i dref Amiens lle mae'n bosibl dal trên-gyswllt ymlaen i Baris (tua awr o Amiens.)