Mynydd Herzl
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | mynydd, mynwent ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1948 ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | Israel ![]() |
Rhanbarth | Jeriwsalem, Bwrdeistref Jeriwsalem ![]() |
![]() |
Mynydd yn Jerwsalem yw Mynydd Herzl (Hebraeg: הר הרצל , Har Hertzel; hefyd Har HaZikaron, הר הזכרון llyth. "Mynydd Coffa"), lle lleolir y fynwent genedlaethol. Mae ganddi uchder o 834 metr.
Rhoddwyd ei enw er anrhydedd i sylfaenydd Seioniaeth, Theodor Herzl, y mae ei feddrod ar y copa. Bwriad y fynwent yw claddu'r rhai sy'n cael eu hystyried arwyr rhyfel gwladwriaeth Israel, yn ogystal â'i Phenaethiaid Gwladol a chyn-lywyddion y Knesset (senedd Israel). W edi'u claddu ym mynwent Mynydd Herzl mae'r cyn Brif Weinidogion Yitzhak Rabin a Golda Meir, cyn-Arlywydd ac arweinydd cenedlaetholaidd, Ze'ev Jabotinsky, ymhlith eraill.[1]
Mynwent Sifil Genedlaethol Gwladwriaeth Israel (helkat Gedolei Ha'Uma)[golygu | golygu cod y dudalen]
Dyma brif fynwent Israel i wleidyddion y wlad.
Sgwâr Mount Herzl[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'n plaza seremonïol canolog ar Fynydd Herzl.
Amgueddfa Herzl[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'n amgueddfa fywgraffyddol yn sgwâr mynediad Mynwent Sifil Genedlaethol Israel.
Cofeb i ddioddefwyr terfysgaeth yn Israel[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae ganddo hefyd gofeb i ddioddefwyr terfysgaeth yn Israel o 1851 hyd heddiw.
Gardd y Cenhedloedd[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Gardd y Cenhedloedd yn ardd gyhoeddus. Mae wedi cael ei blannu â choed olewydd gan arweinwyr tramor sy'n ymweld ag Israel. Mae plac ar bob coeden ac arno enw'r arweinydd a'i plannodd.
Y llwybr sy'n cysylltu ag Yad Vashem[golygu | golygu cod y dudalen]
Cynlluniwyd y ffordd goffa gan y pensaer Uri Abramson ac fe'i hadeiladwyd gan fudiadau ieuenctid Israel yn 2003. Mae'n adrodd hanes genedigaeth gwladwriaeth Israel, o ddechrau Seioniaeth hyd at ddatgan y wladwriaeth. Mae'r llwybr yn rhedeg o'r Fynwent Sifil Genedlaethol i Yad Vashem.
Mynwent Genedlaethol yr Heddlu a'r Milwyr[golygu | golygu cod y dudalen]
Mynwent ganolog ar gyfer amddiffynwyr syrthiedig Israel. Wedi'i leoli yn rhan ogleddol y mynydd.
Gardd ar goll mewn Cyrch[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'n ardd goffa ym Mynwent Genedlaethol yr Heddlu a'r Milwyr.
Ogof beddrodau hynafol[golygu | golygu cod y dudalen]
Ail Deml ogof gladdu Iddewig a ddarganfuwyd yn y Fynwent Genedlaethol yn 1954.
Neuadd Goffa Genedlaethol ar gyfer Trigolion Israel[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae ganddo enwau holl amddiffynwyr syrthiedig Israel o 1860 hyd heddiw.
Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]
Cerflun sy'n cyfleu'r Menora Iddewig
Llwybr cysylltu Yad Vashem ag Amgueddfa Holocost Gwladwriaeth Israel
Cofeb i'r milwyr Iddewig a ymladdodd gyda'r fyddin goch yn yr Ail Ryfel Byd
Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]
- Mynydd Herzl
- Amgueddfa Mynydd Herzl
- Mount Herzl ar WikiMapia
- Simulation of the National Memorial Hall ar wefan YNET
- Mount Herzl: The Creation of Israel's National Cemetery gan Maoz Azaryahu
- the memorial of Terror Victims ar wefan "la'ad"
- Israeli Soldiers "Missing in Action" Archifwyd 2016-06-10 yn y Peiriant Wayback.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Mitch Ginsburg (5 May 2014). "On Mount Herzl, with the keepers of the graves". The Times of Israel. Cyrchwyd 17 August 2016.