Mynachdy (ardal o Gaerdydd)
Math | anheddiad dynol ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.507°N 3.2°W ![]() |
![]() | |
Maestref yng Nghaerdydd yw Mynachdy sydd yng Nghymuned Gabalfa.
Mae'n ffinio ag ardaloedd Gabalfa, Llwyn Fedw a Cathays. Mae'n agos i Brifysgol Caerdydd a'r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn ogystal â lletai myfyrwyr.
Roedd gan Abaty Llantarnam dir maenor yma o'r enw Llys Talybont a dyma, mae'n debyg, yw tarddiad yr enw. Safai hen ffermdy o'r enw Llys Talybont (17g) yn agos at Fferm y Mynachdy - rhwng Ffordd y Gogledd a Gorsaf reilffordd Llandaf.[1][2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Institute of Historical Research; Archifwyd 2013-09-18 yn y Peiriant Wayback. Survey of Llystalybont, 1653. Adalwyd 2013
- ↑ The History of Gabalfa; adalwyd 6 Hydref 2013