My Dad Wrote a Porno

Oddi ar Wicipedia

Podcast Prydeinig gan Jamie Morton, James Cooper, ag Alice Levine ydi My Dad Wrote a Porno. Ym mhob pennod mae Morton yn darllen pennod newydd o gyfres o nofelau ffuglen erotig Belinda Blinked, a gaiff eu hysgrifennu gan ei Dad sydd yn cyhoeddi gyda'r ffugenw Rocky Flintstone. Mae Morton, Cooper a Levine yn ymateb i'r deunydd gan gynnig sylwebaeth.[1] Gan amlaf bydd Morton yn darllen y bennod cyn recordio gyda Cooper a Levine yn ei chlywed am y tro cyntaf tra'n recordio. Yn Chwefror 2018, roedd y gyfres wedi ei lawrlwytho dros 100 miliwn o weithiau.[2]

Dechrau a ffurf[golygu | golygu cod]

Dechreuodd y podcast yn 2015 ac fe'i gyflwynir gan yr awdur teledu a chyfarwyddwr Jamie Morton, y gweithredwr digidol James Cooper, a'r cyflwynydd BBC Radio 1 Alice Levine. Cyfarfu'r tri ym Mhrifysgol Leeds, cyn mynd ymlaen i weithio ym myd darlledu, ac roedd y tri wedi cydweithio ar brosiectau yn flaenorol.[3] Crewyd y podcast wedi i dad Morton ddangos rhai o benodau nofel yr oedd yn ei ysgrifennu yn ei sied dan y ffugenw Rocky Flintstone iddo yn ystod dathliad teuluol, yn ôl Morton doedd ei fam ddim yn gadael i'w dad ysgrifennu'r nofel yn y tŷ[4]. Roedd hi'n gryn sioc i Morton wrth iddo sylweddoli ei fod yn darllen pennod gyntaf nofel erotig ei dad, Belinda Blinked. Rhannodd y bennod gyda'i ffrindiau dros ginio Nadolig, ac awgrymodd Levine y dylai'r criw greu podcast.[5]

Chwaraeodd Morton raglen peilot My Dad Wrote a Porno i'w deulu; er bod ei fam yn gweld y podcast yn ffiaidd yn y man cyntaf, mae hi bellach yn llwyr gefnogol. Gan amlaf, caiff y podcast ei recordio yn anffurfiol yng nghartref un o'r cyflwynwyr a bydd Morton yn golygu'r recordiad 90 munud o hyd i bennod 40-munud. Cynhelir y podcast gan Acast, sydd yn sicrhau'r hysbysebion sydd yn ariannu'r cynhyrchu. Caiff yr hysbyseb ei sgriptio fel rhan o adran hysbysebu'r podcast a'i pherfformio gan y tri cyflwynydd. Mae gweddill y podcast yn ddi-sgript a'n ddigymell.[6] Nid yw Cooper a Levine wedi clywed y bennod cyn y recordiad, tra bod Morton yn ei darllen yn fuan cyn recordio'r bennod er mwyn ymgyfarwyddo gyda'r geiriad a pharatoi ar gyfer unrhyw acenion y bydd angen iddo eu mabwysiadu.

Roedd 13 pennod, 4 pennod "Footnotes" a phennod "Best of" yng Nghyfres 1 (2015). Yng Nghyfres 2 (2016) roedd 16 pennod, 15 pennod "Footnotes" a phennod "Best of". Roedd 15 pennod a 14 pennod "Footnotes" yng Nghyfres 3.[7][8]

Belinda Blinked[golygu | golygu cod]

Cyfres o o leiaf chwe llyfr yw Belinda Blinked, gyda thri ar gael fel i'w prynu a'u lawrlwytho fel e-lyfrau hunan-gyhoeddedig. Yn 2017, roedd Flintstone yn gweithio ar y chweched llyfr a'n dweud eu bod yn bwriadu parhau gan ei fod angen yr arian.[9] Roedd y pedwar llyfr cyntaf wedi eu hysgrifennu a'u cwblhau cyn i'r podcast lansio yn 2015.[10] Rhyddhawyd y llyfr cyntaf ym mis Mawrth 2015 gyda'r teitl llawn, Belinda Blinked; 1 A modern story of sex, erotica and passion. How the sexiest sales girl in business earns her huge bonus by being the best at removing her high heels. Rhyddhawyd yr ail lyfr yng Ngorffennaf 2016, Belinda Blinked; 2 The continuing story of, dripping sex, passion and big business deals.: Keep following the sexiest sales girl in business as she earns her huge bonus by removing her silk blouse. Rhyddhawyd y trydydd ym Mai 2017 gyda'r teitl Belinda Blinked; 3: The continuing erotic story of sexual activity, dripping action and even bigger business deals as Belinda relentlessly continues to earn her huge bonus.[11]

Mae'r nofelau yn adrodd hanes gorchestion rhywiol Belinda Blumenthal a'i gwaith yn adran gwerthiant a marchnata'r cwmni ffuglennol Steeles Pots and Pans. Mae Belinda'n teithio'r byd yn rhinwedd ei swydd a'n cwrdd â gwahanol gynrychiolwyr gwerthiant, cyflenwyr, a chysylltiadau busnes. Mae nifer o gymeriadau yn ymddangos yn rheolaidd yn ystod y gyfres, ond mae eraill yn cael eu cyflwyno unwaith heb ymddangos eto, neu hyd yn oed yn newid eu henwau yng nghannol pennod.[12] Mae'r ysgrifennu yn afreolaidd ac mae Morton wedi dweud, "One moment Belinda is handcuffed to a trellis in a 'medium-sized maze', the next she's at a charity tombola raising funds for the Asses & Donkeys Trust."

"Rocky Flintstone" yw ffugenw tad Morton, adeiladwr wedi ymddeol o Ogledd Iwerddon. Yn ôl Flintstone, mae'r enw "Rocky" wedi ei ysbrydoli gan The Rockford Files a chi ffrind i'r teulu sydd yn byw yn Brasil, sydd hefyd wedi ei enwi'n Rocky. Mae "Flintstone" wedi ei ysbrydoli gan radd yr awdur mewn daeareg a'r ffaith ei fod yn gweld ei hun yn debyg i Fred Flintstone wrth iddo guro ar y drws i ddod yn ôl i mewn ar ddiwedd pob pennod o'r Flintstones.[13] Cyn ymddeol, bu Flintstone yn gweithio fel adeiladwr, athro, a, fel ei brif gymeriad, ym maes gwerthiant. Mae'n well gan Flintstone beidio â bod yn rhan o enwogrwydd y podcast.

Cymeriadau[golygu | golygu cod]

Mae rhai o gymeriadau llyfrau Belinda Blinked yn cynnwys:

  • Belinda Blumenthal, prif gymeriad y nofel. Ar ddechrau'r gyfres mae Blumenthal newydd gael ei phenodi fel Cyfarwyddwr Gwerthiant Byd-eang Steele's Pots & Pans. Cyn hynny roedd yn gyflogedig gan Typhoid Crockery Holdings. Ymddangosiad cyntaf: C01P01.
  • Tony, Rheolwr Gyfarwyddwr Steeles Pots & Pans. Ymddangosiad cyntaf: C01P01.
  • Bill, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Steeles Pots & Pans. Ymddangosiad cyntaf: C01P01.
  • Giselle. Ymddangosiad cyntaf: C01P01.
  • Bella/Donna. Ymddangosiad cyntaf: C01P02.
  • Jim Thompson (Rheolwr Gweinyddu Gwerthu, Steels Pots & Pans)
  • Patrick O'Hamlyn (Rheolwr Gwerthu Rhanbarthol Yr Alban ac Iwerddon, Steeles Pots & Pans)
  • Ken Dewsbury (Rheolwr Gwerthu Rhanbarthol Canolbarth a Gogledd Lloegr, Steeles Pots & Pans)
  • Des Martin (Rheolwr Gwerthu Rhanbarthol Llundain, Steeles Pots & Pans)
  • Dave Willcox (Rheolwr Gwerthu Rhanbarthol y Gorllewin, Steeles Pots & Pans)
  • Alfonse Stirbacker
  • Peter Rouse
  • Jim Stirling
  • Alfie, "the Smallish Man Dressed in Black"
  • Sir James Godwin (Cadeirydd, Steeles Pots & Pans)
  • The Duchess
  • Zara, Iarlles Leningrad
  • Helga
  • Grigor Calanski
  • Clarence, gŵr The Duchess, Dug Epsom
  • Tara Gold, gweithredwr teledu a newyddiadurwr. Ymddangosiad cyntaf: C03P03.
  • Jim Walters, Prif Swyddog Gweithredol Apollo Security Agencies. Ymddangosiad cyntaf: C03P03.
  • Norman Asquith OBE, banciwr. Ymddangosiad cyntaf: C03P03.
  • Chiara Montague, dylunydd ffasiwn i'r enwog a'r cyfoethog. Ymddangosiad cyntaf: C03P03.
  • Claus Bloch
  • Hank Skank
  • Greta
  • Adaam
  • Sam, "the youngish man on reception"
  • Cedric
  • Hazel, cyd-beilot
  • Doris and Joan, merched yr helfa

Gwesteion[golygu | golygu cod]

Mae'r podcast yn cynnwys penodau "Footnotes" sy'n cyd-fynd â'r gyfres, lle trafodir agweddau ar y ffenomen a gwahoddir gwrandawyr nodedig i drafod Belinda Blinked, cynnig awgrymiadau, a thrafod actorion posibl ar gyfer ffilm. Dechreuodd "Footnotes" gyda phenodau yn cynnwys bywgraffiad Flintstone a chwestiynau gan wrandawyr. Mae gwesteion wedi cynnwys Elijah Wood, Joe Lycett, Thomas Middleditch, Charlotte Crosby, Michael Sheen, George Ezra, Stephen Mangan, Rachel Bloom, Daisy Ridley, Ben Barnes and Mara Wilson.[14]

Cyfryngau amrywiol[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd cyfres gyntaf My Dad Wrote a Porno fel llyfr ar Hydref 27, 2016.[15][16] Cafodd ei ddylunio fel llawlyfr astudio dychanol gyda sylwadau, anodiadau, gwerthusiadau o'r cymeriadau, prif themau a gemau gan y cyflwynwyr.[17]

Mae sioe fyw My Dad Wrote a Porno wedi teithio'r DU, Iwerddod, Seland Newydd, Awstralia, Canada a'r UDA[18] gan gynnwys yng Ngŵyl Ffrinj Caeredin a'r ŵyl gomedi Just for Laughs yng Nghanada. Fel rhan o daith 2018, bydd y sioe yn dod i Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd.[19]

Mae'r tîm wedi cael cynnig i addasu'r deunydd er mwyn creu ffilm.[20] Yn seiliedig ar benodau'r "Footnotes" mae'r tîm wedi cynnig Elijah Wood fel "the youngish man", Daisy Ridley fel y Dduges a Michael Sheen fel Dr. Robbins. Mae Thomas Middleditch eisiau rhan Dr Robbins hefyd ac mae Rachel Bloom eisiau gwisgo prosthetics i chwarae rhan Jim Sterling.

Derbyniad[golygu | golygu cod]

Bu cryn broblemau ar y dechrau gyda theitl y podcast, gydag iTunes yn gwrthod ei gynnwys a hysbysebwyr yn amharod i hysbysebu.

Erbyn Chwefror 2018, roedd y gyfres wedi ei lawrlwytho dros 100 miliwn o weithiau. Caiff selogion y gyfres eu galw yn "Belinkers" ac ar ddyddiau Llun, pan fo pennod newydd yn cael ei ryddhau, mae'r hashnod #PornoDay yn un o'r trends ar Twitter.[21] Caiff My Dad Wrote a Porno ei enwi'n aml ar restrau podcasts gorau'r DU gan gyhoeddiadau megis GQ,[22] Square Mile (magazine),[23]The Guardian,[24] Huffington Post,[25] BuzzFeed,[26]Stuff.[27]

Mae'r arddull ysgrifennu wedi cael ei ddisgrifio fel "unerotic" a "hideous" (The Guardian),[28] "unintentionally hilarious" a "[having an]extremely sketchy knowledge of female anatomy" (The Times),[29] a "Shakespearesque" (Michael Sheen)

Yn 2016, enwebwyd My Dad Wrote a Porno am wobr Audio and Radio Industry Academy (ARIAS) yng nghategori podcast y flwyddyn. [30]

Yn 2017, enwebwyd y podcast ar gyfer gwobr Webby yn y categori Comedi (Podcasts a Sain Digidol).[31] Hefyd yn 2017, enwebwyd y gyfres yng nghategori Dewis y Gwrandawyr yn y British Podcast Awards[32] ac yn y 7fed Lovie Awards gan yr Academi Ryngwladol y Celfyddydau Digidol a'r Gwyddorau.[33]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Sawyer, Miranda. "My dad wrote a porno – and I turned it into a podcast". the Guardian. Cyrchwyd 5 August 2017.
  2. "Introduction". mydadwroteaporno.com. Cyrchwyd 2 January 2018.
  3. Clarke, Laura. "My Dad Wrote a Porno: meet the posse behind it - and prepare to laugh a lot". Evening Standard. Cyrchwyd 5 August 2017.
  4. Morton, Jamie. "My dad wrote a porno - and it's the best gift he's ever given me". The Telegraph. Cyrchwyd 5 August 2017.
  5. McCrum, Kirstie. "'My dad wrote a porno - but it's brought us closer together and I'm using it to my advantage'". Daily Mirror. Cyrchwyd 5 August 2017.
  6. Bearne, Suzanne. "'I turned my dad's erotic novel into a hit podcast'". BBC News. Cyrchwyd 5 August 2017.
  7. "Podcast". My Dad Wrote a Porno. Cyrchwyd 5 August 2017.
  8. "My Dad Wrote a Porno". Acast. Cyrchwyd 3 October 2017.
  9. "Ask the Author: Rocky Flintstone". Goodreads. Cyrchwyd 5 August 2017.
  10. Ling, Thomas. "13 secrets of My Dad Wrote a Porno". Radio Times. Cyrchwyd 5 August 2017.
  11. "Belinda Blinked (3 Book Series)". Amazon. Cyrchwyd 5 August 2017.
  12. Collins, Hattie. "How to write a porno..." i-D. Vice Media. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-06. Cyrchwyd 5 August 2017.
  13. Cahill, Mikey. "Why podcasts are making a big noise". Herald Sun. Cyrchwyd 5 August 2017.
  14. "My Dad Wrote A Porno". Acast. Cyrchwyd 5 August 2017.
  15. "My Dad Wrote a Porno". Simon and Schuster. Cyrchwyd 4 August 2017.
  16. McCauley, Fern. "Happy Publication Day To My Dad Wrote A Porno!". Bell Lomax Moreton. Cyrchwyd 4 August 2017.
  17. Carvell, Nick. "What to expect in Season 3". GQ Magazine. Cyrchwyd 4 August 2017.
  18. Pilat, Kasia. "5 Comedy Shows to Catch in NYC This Weekend". New York Times. Cyrchwyd 23 February 2018.
  19. Hassan, Ali. "His father wrote a porno, he made a podcast about it". CBC Radio. Cyrchwyd 5 August 2017.
  20. Ritman, Alex. "'My Dad Wrote a Porno' Podcast Team Talks Hollywood Fans and Movie Plans". Hollywood Reporter. Cyrchwyd 5 August 2017.
  21. Ryan, Gary. "Blue blood". The Big Issue. Cyrchwyd 5 August 2017.
  22. "The best podcasts to listen to in 2017". GQ Magazine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-03-17. Cyrchwyd 5 August 2017.
  23. "Podcasts you should listen to".
  24. "The 50 best podcasts of 2016". The Guardian. Cyrchwyd 5 August 2017.
  25. Church, Thomas. "Six Best Podcasts: What To Listen To". Huffington Post. Cyrchwyd 5 August 2017.
  26. Bryan, Scott. "22 Podcasts That You Should Be Subscribing To In 2016". Buzzfeed. Cyrchwyd 27 October 2016.
  27. Kieldsen, Sam. "The 24 best podcasts of 2016". Stuff. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-11-19. Cyrchwyd 27 October 2016.
  28. Verdier, Hannah. "My Dad Wrote a Porno review – the unerotic podcast is back with a bang". The Guardian. Cyrchwyd 5 August 2017.
  29. Gillespie, James. "Oh dear, my dad wrote a porno — and it's pure cringe". The Times. Cyrchwyd 5 August 2017.
  30. Press Association. "My Dad Wrote A Porno podcast up for Radio Academy ARIAS award". Barrhead News. Cyrchwyd 5 August 2017.
  31. "Hollywood Reporter Website Nominated for Webby Award". Hollywood Reporter. Cyrchwyd 5 August 2017.
  32. "Listener Choice Vote Update". British Podcast Awards. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-11-26. Cyrchwyd 5 August 2017.
  33. "Press Releases". The Lovie Awards. Cyrchwyd 22 September 2017.[dolen marw]