Mwng (albwm gan Fand Pres Llareggub)
Gwedd
Mwng | ||
---|---|---|
Albwm stiwdio gan Band Pres Llareggub | ||
Rhyddhawyd | Hydref 2015 |
Albwm gan y grŵp Band Pres Llareggub yw Mwng. Rhyddhawyd yr albwm yn Hydref 2015.
Roedd y fersiwn band pres amgen yma o record chwedlonol y Super Furry Animals yn un o albymau mwyaf gwreiddiol 2015. Mae nifer o westeion yn ymddangos ar yr albwm, yn amrywio o John Ogwen i Ed Holden, Lisa Jên i Gwyllt.
Dewiswyd Mwng yn un o ddeg albwm gorau 2015 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]
Canmoliaeth
[golygu | golygu cod]Gelwir ar bob math o steiliau i ail-greu caneuon y Super Furries, o fandiau oompah, bandiau pres milwrol, bandiau New Orleans, i gyffyrddiadau cryf o fandiau pres traddodiadol Cymru
—Elain Llwyd, Y Selar