Musca (cytser)
Gwedd
| Enghraifft o: | cytser |
|---|---|
| Dyddiad darganfod | 1756 |
| Rhan o | hemisffer wybrennol y de |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01f198 |
Cytser a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y de yw Musca. "Musca" yw'r gair Lladin am "bryfed". Dyma un o'r 12 cytser deheuol sy'n deillio o arsylwadau'r mordwywyr o'r Iseldiroedd Pieter Dirkszoon Keyser a Frederick de Houtman ar ddiwedd y 16g. Fe'i darluniwyd gyntaf yn 1598 ar glôb wybrennol gan Petrus Plancius ac ymddangosodd mewn print gyntaf yn 1603 yn atlas Uranometria Johann Bayer.[1] Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.
